|
Sulwyn Sulwyn Thomas yn gosod ei stondin
Adolygiad Gwyn Griffiths o Sulwyn gan Sulwyn Thomas. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.
Cystel cyfaddef ar y cychwyn; rwy'n eiddigeddus tu hwnt o'r darlledwr Sulwyn Thomas. Cafodd glamp o yrfa, yn gwneud yr union waith a ddymunai a heb symud o'i filltir sgw芒r - nid yn barhaol o leiaf.
Mae Sulwyn, rhif 33 yng Nghyfres y Cewri Gwasg Gwynedd yn gyfrol swmpus. Yn gyfrol lawn iawn. Yn anochel felly gan un a redodd yr yrfa newyddiadurol o fyd print y papur nos i deledu - TWW, HTV a'r 成人快手 - i fyd y radio a n么l i deledu wedi hynny.
Ac yntau'n greadur swil, ansicr, hyd yn oed, yn amau yn y cychwyn a oedd ei "Gymr芒g yn ddigon da"!
Yn ogystal fe'i cawn yn llwyddo i greu amser i weithio'n wirfoddol yn lleol a chenedlaethol - i'r Urdd, sefydlu gwasanaeth Radio - ysbyty - Glangwili, y theatr amatur, y capel, a llwyth o achosion da lleol. Heb s么n am briodi a chael dau o blant!
Mae'r holl egni'n byrlymu oddi ar y tudalennau. Yn wir, egni a brwdfrydedd yw nodwedd arbennig y dyn a'i gyfrol.
O'r ysgol
Yn syth o'r ysgol, yn ddeunaw oed, ymunodd 芒'r South Wales Evening Post, papur nos Abertawe, y papur lle bu Dylan Thomas yn gyw gohebydd, digon di-fflach fel y cyfaddefai y bardd ei hun.
Roedd Sulwyn gyda'r Post adeg y frwydr i wrthwynebu boddi pentre Llangyndeyrn i ddarparu d诺r i Abertawe. Roedd yno, hefyd, adeg achos Tryweryn Emyr Llywelyn.
O fewn dwy flynedd cafodd wahoddiad i ymuno 芒 th卯m Y Dydd, TWW, gan ddychwelyd yn fuan i Gaerfyrddin yn ymchwilydd yn hel straeon yn y gorllewin ac yn raddol yn cynhyrchu ambell eitem ei hun tra'n cydweithio gyda'r anhygoel Ron Davies, Aberaeron.
Roedd Ron, fel y gwn o brofiad, yn gampwr o ffotograffydd a dyn camera, a hynny er yn gaeth i'w gadair olwyn. Gallaf yn hawdd gredu'r hyn a ddywed Sulwyn; iddo ddysgu mwy am gyfansoddi ffilm a chyfarwyddo gan Ron na neb arall.
Dim ond dau Cawn stori buddugoliaeth Gwynfor Evans ym 1966 a diddorol darllen mai dau berson yn unig ddwedodd wrtho'n bendant ymlaen llaw y byddai Gwynfor yn ennill - Dyfrig Thomas, Siop y Werin, oedd un, a Clem Thomas, golygydd y Carmarthen Times oedd y llall.
Roedd Clem wedi hyd yn oed baratoi dwy ddalen flaen ar gyfer y bore wedyn, rhag ofn. O leiaf, yr oedd yn dipyn gwell na'r smonach wnaeth y rhaglen radio Good Morning Wales ohoni fore trannoeth!
Diddorol iawn yw ei sylwadau am gasineb Llafur tuag at Gwynfor a'r iaith a'i awgrym mai ystryw i niweidio Gwynfor a Phlaid Cymru oedd cynnal achosion Cymdeithas yr Iaith ym Mrawdlys Caerfyrddin.
Mae hanes Stondin Sulwyn yn darllen fel tonic - a rhaglen felly oedd hi. Ond wyddwn i ddim y bu Sulwyn, pan yn yr ysgol, yn gwerthu menyn a chaws ar stondin mam y Dr Alan Williams, cyn AS Caerfyrddin!
Cawn y cyfaddefiad fod pobol y 成人快手 eu hunain yn sgrifennu llythyron i mewn i gorddi'r dyfroedd yn nyddiau cynnar Radio Cymru. Bobol annwyl, dylid cael ymchwiliad ar unwaith!
Cymorth mewn cyfyngder Yna daeth eira 1982 a sylweddolodd pobol bod modd defnyddio'r radio fel cyfrwng cyfathrebu mewn cyfyngder ac elwodd Sulwyn, ei Stondin a Radio Cymru'n gyfan o'r cyfyngder hwnnw.
Yn ogystal a hyn oll cafodd gyfnodau eto ym myd teledu, yn cyflwyno rhaglenni amaethyddol, a rhaglenni eraill, a chyfnod yn bennaeth Abertawe.
Ond nid cyfrifydd mewn swyddfa mohono; dyn y priffyrdd a'r caeau yw Sulwyn.
Trueni i oes lawen a heulog y Stondin ddod i ben mewn ffordd mor drwsgl ag a ddisgrifir yma a pheri cryn loes i'r hen was da a ffyddlon.
Cawn hanes y diflastod hwnnw'n llawn - a phenaethiaid y 成人快手 yng Nghaerdydd dan ei lach.
Tipyn o gawr Wrth feddwl am Sulwyn am y Stondin y byddwn yn meddwl a gwnaeth waith gwiw yn dwyn y genedl at ei gilydd trwy ei thynnu'n benben.
Mae'r hen Sulwyn yn dipyn o gawr yn ei ffordd ei hun.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|