成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Byd o G芒n
Artgofion am Jac a Wil
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Byd o G芒n - Atgofion Melys Jac Davies. Golygydd Eurof Williams. Gwasg Gomer. 拢7.99.



  • Mae'r ddau'n canu Pwy Fydd Yma 'Mhen Canmlynedd ar Gryno Ddisg a roddir gyda'r llyfr hwn.

    Gwaith anodd fyddai diffinio Cymreictod ond os na fedrwn ei ddiffinio mae'n bosib ei 'nabod. Ystyriwch y diweddar Jac Davies - Jac o Jac a Wil a rhoi iddo ei enw Gorseddol - a dyna ichi dalp o Gymreictod.

    Un o naw o blant, yn fab i dyddynnwr a gl枚wr yng Nghefneithin, teulu rhyfeddol gerddorol, perfformwyr bob un a chapelwyr selog.

    Gair o glod
    Mae Eurof Williams yn haeddu gair diffuant o glod am ei waith yn golygu cyfrol mor gynnes a deniadol o atgofion. Bron na ellir ei disgrifio'n llyfr lloffion a hithau mor gyfoethog mewn lluniau, cloriau hen recordiau, rhaglenni cyngherddau ac ati.

    Ar ben hynny cadwodd Jac Davies ddyddiadur manwl a bu hwnnw'n ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth i'r golygydd.

    Mae stori'r ddeuawd a swynodd y genedl dros ddegawdau - a thrwy gyfrwng y recordiau maen nhw'n dal i wneud - yn un ramantus.

    Jac, Wil a thri o'u ffrindiau yn mynd allan un nos Wener yn Awst 1957 i Dafarn y Cennen Arms, ger Castell Carreg Cennen, a dechrau canu o gwmpas y piano.

    Hefyd yn y dafarn y noson honno 'roedd criw yn cynnwys Alun Talfan Davies (Syr wedi hynny) a gwahoddwyd y pump yn 么l i'r gwesty i barhau 芒'r noson.
    Chwe mis yn ddiweddarach yr oedd Jac a Wil yn swyno tyrfa o bum mil a hanner yn Neuadd Albert, Llundain.

    Tymbl Trwbadors
    Ond nid dyna wir gychwyn eu stori ychwaith gan fod y ddau yn aelodau o'r Tymbl Trwbadors, parti a fu'n cynnal cyngherddau o gwmpas y wlad - ac ar y radio - yn canu a chyflwyno sgetsus rhwng 1947 a 1982.

    Fe fuo nhw'n perfformio gyda Dorothy Squires, hefyd!

    Y noson yn Neuadd Albert ddaeth a Jac a Wil i sylw'r genedl ond yr hyn sy'n rhyfeddod yw mai dyna'r tro cyntaf i'r ddau ganu gyda'i gilydd fel deuawd swyddogol.

    Cyn pen dim 'roedden nhw wedi gwneud eu record gyntaf, O Dwed Wrth Mam, i gwmni Qualiton, ac roedd y gwahoddiadau'n llifo o bob rhan o Gymru - os rhywbeth yn fwy o'r gogledd na'r de a diddorol darllen bod y ddau yn arbennig o boblogaidd yn Sir F么n!

    Cynhyrchwyd y recordiau cynnar yn Neuadd y Glowyr, Creunant, neuadd sinc, ond gydag acwstics ardderchog yn 么l John Edwards, Qualiton.

    Fe wnaethon nhw recordiau wedyn i Teldisc, cwmni arall sefydlwyd gan John Edwards, a'r cwmni y bu Dafydd Iwan yn ffyddlon iddo cyn sefydlu Sain.
    Maes o law aeth Jac a Wil at Sain, hefyd.

    Llun diddorol
    Ceir llun diddorol yn hanes y diwydiant recordio Cymraeg ar dudalen 56 - un sy'n cynnwys Jac, Wil a Tom Hughes trefnydd cerddoriaeth y ddau.

    Heblaw'r ffaith fod y golygydd wedi cymysgu rhwng John Edwards a Noel Kendrick mae'r llun yn cynnwys Joe Jones, a sefydlodd gwmni Cambrian wedyn - y prif gwmni recordiau Cymraeg tan ddyfodiad Sain.

    Rwy'n synnu na lwyddodd Joe i gael ei fachau ar Jac a Wil wrth i Teldisc fynd at i lawr wedi marw disymwyth John Edwards.

    Er mai gl枚wr fu Wil gydol ei oes ni allai Jac ddioddef gweithio tan ddaear ac ym 1943 mynnodd ymuno 芒'r fyddin er nad oedd raid iddo ac yntau mewn reserved occupation - yn wir bu raid iddo fynd i gryn drafferth i ddarbwyllo'r awdurdodau ganiat谩u iddo adael y lofa.

    Bu farw Wil ym 1987 ond er mai dyna ddiwedd y ddeuawd, daliodd Jac i ganu gyda Ch么r Mynydd Mawr, C么r Meibion De Cymru, Cantorion y Rhyd ac Y Parti Bach.

    Atgofion Jac, a fu farw Chwefror eleni yn 90 oed, yw prif gynhaliaeth y gyfrol hon.

    Yn ffodus i ni, roedd Eurof Williams wedi bod yn recordio atgofion y ddau er 1977, felly mae stori'r ddeuawd yn gyflawn.

    Cymysgu ag enwogion
    Dau arbennig iawn, dau golier fu'n cymysgu gyda'r enwogion. Cawn eu hanes yn Neuadd Albert ac yn canu yn Claridges mewn noson i ddathlu dyrchafu David James, Pontrhydfendigaid, yn farchog.

    Clawr y llyfr Cawn ymdrechion rhai fu'n rhannu llwyfan 芒 nhw i egluro cyfrinach dau a wnaeth ganu pop o emynau Cymraeg. Diffuantrwydd a melysder sain? Wn i ddim beth oedd e ond 'roedd yn dipyn o gamp ac mae'n dipyn o stori.

    'Roedden nhw'n ddau oedd yn gyt没n iawn gyda'i gilydd - am bopeth ond gwleidyddiaeth gyda Wil yn dal yn ffyddlon i'r Blaid Lafur ond Jac wedi troi at Blaid Cymru!

    .


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy