|
Tonnau tryweryn Golchi dros y blynyddoedd
Adolygiad Glyn Evans o Tonnau Tryweryn gan Martin Davis. Y Lolfa. 拢8.95.
Ni ellir ond canmol y syniad o sgrifennu nofel gyda boddi Cwm Tryweryn yn golchi drosti.
Mae'n syniad mor dda y mae rhywun yn synnu na wnaed y peth gan rywun arall cyn hyn.
Y peryg yw, wrth gwrs, o beidio 芒'i wneud yn iawn eich bod yn difetha'r peth ar gyfer rhywun arall. Yn hynny o beth yr oedd Martin Davis yn ysgwyddo cyfrifoldeb mawr.
Yr oedd ganddo hefyd ddwy nofel arall dan ei felt a'r croeso a gafodd y rheini yn si诺r o fod wedi rhoi iddo'r hyder i ymgymryd 芒'r barchus arswydus dasg hon.
Wedi'r cyfan y mae i Dryweryn le arbennig iawn yn seici'r Cymry er nad yw, efallai, ond enw ac ambell i graffiti i'r cenedlaethau hynny a anwyd wedi'r cyfnod.
Yr arwyddion yn dda I'r darpar ddarllenydd mae'r arwyddion yn dda. Dewiswyd Tonnau Tryweryn nid yn unig yn Nofel y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru ond ar gyfer "Silff Lyfrau 2008-09" Cyfnewidfa L锚n Cymru. A welwn ni hi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn hefyd pan ddaw honno? Cawn weld.
Fy hun, rwy'n amau mai unfed ar ddeg fydd hi ar fy rhestr bersonol i o ddeg llyfr gorau'r flwyddyn. Er yn ddifyr a darllenadwy ddigon afaelodd hi ddim fel yr oeddwn wedi disgwyl.
Rwy'n amau i'r awdur gymryd gormod o goflaid trwy geisio cynnwys gormod o wahanol elfennau.
Er ei theitl nid nofel uniongyrchol am foddi Tryweryn mo hon.
Nid mynd i'r afael 芒 gwewyr trigolion Capel Celyn y mae. Ei maes yw effaith y digwyddiad ar wahanol gymeriadau a hynny, debyg, yn gynrychioliadol o wahanol effeithiau'r boddi hwnnw ar Gymru.
A yw'n llwyddo i gyfleu dwyster y cyfnod i rai nad ydynt yn ei gofio mae'n anodd i rywun o'm hoed i, sydd yn cofio, ddweud gan i'r cof hwnnw fod yn elfen bwysig o'r mwynhad.
Tri chymeriad Canolbwynt ein diddordeb yw ymwneud tri phrif gymeriad a'i gilydd.
Mae'r nofel yn gymysgedd o stori garu, o saga deuluaidd ac elfennau digon tywyll a sinistr y 'thriller' draddodiadol gyda'r awdur yn gwnio i'w frodwaith elfennau fel terfysgaeth yr IRA a gweithredu uniongyrchol gwladgarwyr Cymreig y llwydnos.
Mae yna gymeriadau annelwig y cysgodion fel Twm 'ond nad dyna ei enw iawn'.
Mae yma wewyr, rhwygiadau, tyndra a siomiant serch ymhlith golygfeydd gwirioneddol megis digwyddiadau diwrnod ymddangosiad Emyr Llewelyn gerbron llys yn dilyn ei brotest.
Cymaint o elfennau, yn wir, mae rhywun yn ofni weithiau bod gormod ohonyn nhw nes gwneud y nofel yn anhylaw.
Ond yn ei hanfod, troi y mae'r nofel o amgylch Mefina ac Emlyn genedlaetholgar a'i wreiddiau yng Nghapel Celyn sy'n cychwyn yn gariadon a Des O'Farrell, Gwyddel gweriniaethol y mae Mefina yn syrthio mewn cariad ag ef pan aiff i ffwrdd yn nyrs mewn ysbyty yn - wel ymhle arall ond Lerpwl sychedig - a'i hymadawiad yno yn rhoi ei pherthynas ag Emlyn dan straen a'i difetha.
Byddai mynd i fanylion am y stori yn difetha'r nofel a digon yw dweud mewn adolygiad bod cysgod Tryweryn yn cael ei daflu'n bell dros y nofel wrth i'r stori ymestyn dros gyfnod o hanner can mlynedd i gyd. Hynny sy'n dod a'r elfen o saga deuluaidd iddi hi.
Edrych yn 么l Dewisodd yr awdur strwythur difyr ar gyfer dweud y stori gyda chadwyn o olygfeydd sy'n edrych yn 么l yn hytrach na chymryd yr hanes o'i gwr.
Mae hynny'n gweithio'n foddhaol ddigon ac heb beri unrhyw anhwylustod i'r darllenydd er gallwn ddychmygu ei bod yn broses digon cymhleth o safbwynt yr ysgrifennwr ei hun.
Anystwyth Drwyddo draw mae'r sgrifennu'n uniongyrchol a di-lol er bod weithiau sgyrsiau anystwyth a rhai disgrifiadau yn ymylu ar y melodramatig megis s么n am "olwynion chwyrndroellog" cerbyd a gw锚n "ddymunol a amlygai ddwy res o ddannedd iachus eu golwg".
Gellid elwa o fod wedi ffrwyno ambell i drosiad hefyd - yn enwedig pan fod hynny'n arwain at gymysgu delweddau fel ag yn y ddau baragraff yma sy'n dilyn ei gilydd:
"Ac yn sydyn teimlai Mefina fod y planedau wedi ailgychwyn ar eu rhod a'r clip ar haul eu cyfeillgarwch gynt wedi cilio unwaith ac am byth.
"Ac wedyn roedd y nos wedi'i lyncu a Mefina'n wynebu unigrwydd y t欧 drachefn, ond roedd pethau wedi symud a'r d诺r eisoes yn llifo o'r newydd o dan y bont."
Weithiau, ond nid yn aml, gwall gramadeg sy'n tarfu ar lyfnder brawddeg. Ddwywaith, dair, cyfeirir at fenyw wrth y ffurf wrywaidd "peth bach" ac fel "hwran bach".
Er nad yn wallus efallai, dydi disgrifio merch fel "slebog hyll" ddim yn gweddu rhywsut ychwaith.
Ond yn y diwedd perthyn mwy o bleser nag o siom i Tonnau Tryweryn. Er weithiau'n anystwyth maen afaelgar a'r awdur yn ddeheuig iawn yn gosod abwyd i gadw'n chwilfrydedd yn effro a chyda 270 o dalennau mae mwy o afael ynddi na nifer o nofelau Cymraeg eraill.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|