成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Heb y Mwgwd
Hunangofiant Idris Charles - cymylau duon ac ysbeidiau heulog
  • Adolygiad Glyn Evans o Heb y Mwgwd. Hunangofiant Idris Charles. Y Lolfa. 拢9.95.



  • Bydd rhai yn troi at y llyfr hwn gan obeithio darllen am dad yr awdur, yr actor Charles Williams.

    Bydd eraill, o genhedlaeth iau, yn gobeithio dod i adnabod Idris Charles ei hun yn well - wedi ei weld ar lwyfan a theledu, ei glywed ar radio neu'n pregethu mewn pulpud.

    Neu hyd yn oed yn gwerthu hufen i芒 neu eu dysgu sut i yrru car!

    Clawr y llyfr Eu siomi braidd gaiff y garfan gyntaf achos does yna ddim cymaint 芒 hynny o s么n am yr anhygoel Charles Williams - actor a diddanwr o'r radd flaenaf ac un a fedyddiwyd "Y Tywysog Charles" gan y llenor bregethwr, Robin Williams.

    Ond er na roddir lle mawr iddo yn y gyfrol o ran nifer tudalennau y mae ei gysgod drosti fel ag yr oedd dros fywyd ei fab ac yntau'n cyfaddef yn un lle:

    "O'n i wedi cael llond bol ar bobol yn dweud na fyddwn i byth yn llenwi sgidia Nhad."

    Ddim yn hawdd
    Daw, fe ddaw yn eglur yn fuan iawn nad yw bywyd yn hawdd i fab person enwog - yn enwedig os yw'r mab hwnnw yn mentro i faes lle y gwnaeth y tad gymaint o farc ac angen ei brofi ei hun gystal os nad gwell.

    Ac er bod yma ddigon o arwyddion o edmygedd y mab o'i dad mae yma hefyd enghreifftiau o geisio dangos fod iddo yntau y mab ei ragoriaethau hefyd.

    "Dwi'n cofio cael cystadleuaeth efo Nhad am ddweud j么c ar bynciau a g芒i eu taflu atom. Roedd o'n eithriadol o gyflym, ond doeddwn i ddim yn bell iawn ar ei 么l," meddai.

    Gw锚l yr angen hefyd i ddynoli'r un oedd yn eilun yng ngolwg cymaint o Gymry.

    "Fe ddaeth fy nhad yn enwog drwy Gymru fel diddanwr ac fel actor, ond fydda fo'n neb heb gymorth ei gymar ffyddlon, a oedd bob amser yn gefnogol iddo," meddai.

    "Petai Mam wedi penderfynu nad oedd hi'n fodlon iddo fod oddi cartref am gyfnodau maith . . . neu pe bai wedi'i gwneud yn anodd iddo, mae'n debyg mai dal yn was ffarm . . . fyddai Charles Williams hyd ei fedd . . ."

    Golwg arall
    Cawn olwg hefyd o'r actor a'r cwmn茂wr diddan weithiau'n flin ac yn gas adref, yn clepian drysau yn ei dymer.

    "Pan oedd Nhad yn fyw, byddai pobol yn gofyn i mi yn dragwyddol a oedd o'r un mor ddoniol gartre ar yr aelwyd ag oedd o ar lwyfan. Wel, doedd dim posib iddo fod . . . mi oedd yna gyfnodau pan fyddai o'n gas iawn . . ."

    Er datgelu hyn nid yw Idris Charles am funud yn ymwadu 芒'i edmygedd o'i dad a'i ddylanwad mawr arno.

    Yn blentyn "roedd cwmni Nhad fel cyffur i mi, a byddai'n rhaid imi gael rhywfaint ohono bob dydd," meddai.

    O fynychu gydag ef Neuadd y Penrhyn ym Mangor ar gyfer rhaglenni radio cafodd gyfarfod actorion a diddanwyr blaenllaw dyddiau aur bodigrybwyll darlledu Cymraeg. Ac o brofi gwewyr y byd hwnnw yn blentyn dyw hi ddim yn syndod i'r mab hefyd fentro maes o law i fyd adloniant Cymraeg.

    A rhag i gysgod Charles Williams gael ei daflu'n ormodol dros yr adolygiad hwn mae'n bwysig dweud mai hunangofiant y mab yw hwn yn gyntaf ac yn flaenaf.

    Y mwgwd
    Mae'r teitl Heb y Mwgwd yn deillio o'r hen ystrydeb am y tristwch personol sydd ynghudd dan fwgwd y clown ac y mae Idris Charles yn cydnabod yn onest ac yn agored iawn ei fod yntau hefyd yn berson gwahanol iawn y tu 么l i 'fwgwd' ei fywyd cyhoeddus.

    Yn cyfaddef fod dagrau tu draw i'r chwerthin. Tristwch islaw'r digrifwch. Tywyllwch tu hwnt i'r goleuadau llachar.

    A gwewyr ysbrydol a'i hanfonodd o lwyfan i bulpud ac yn 么l wedyn i lwyfan.

    Fu bywyd ddim yn hawdd fel y gwelwn o'r cychwyn cyntaf a'r gyfrol yn bwriadol gychwyn ar nodyn isel.

    Yn wahanol i'r rhan fwyaf o hunangofiannau nid gyda genedigaeth y dechrau'r gyfrol hon ond gyda'r awdur yn pendroni dros fethiant menter busnes a'i hysigodd yn ariannol ac yn feddyliol a'i frwydr yn erbyn iselder a'r felan.

    Wedyn; yn yr ail bennod, y mae'n mynd yn 么l i ddechrau'r daith ac olrhain ei daith i'w gyflwr bregus yn y bennod gyntaf.

    Mae'n stori sy'n gymysgedd o lwyddiannau a siomedigaethau. O dyndra rhwng bod yn ddiddanwr ac yn ddwys grefyddol. O fod un munud ar yr uchelfannau dim ond i gwympo yn 么l i bwll y felan.

    "Hogyn cyffredin . . . ydw i, un sydd wedi bod yn ddigon ffodus o gael gweithio mewn diwydiant hynod o anghyffredin. Ond a ddisgynnodd i bydew dudew du, a neb yno i helpu. Waeth pa mor uchel oedd y gweiddi am help, doedd neb yn clywed," meddai.

    Mae'n crynhoi ei gyflwr trwy ddweud:

    "Fe ddywedodd seiciatrydd wrthyf pan oeddwn mewn cyflwr gwael iawn fy mod wedi bod yn gwisgo mwgwd yn rhy hir, a phan gafodd y mwgwd di dynnu, doeddwn i ddim yn gwybod pwy oeddwn i. Credaf yn gryf i mi fod yn rhy brysur cyn hynny i wybod fy mod yn dioddef o'r salwch [iselder], yn rhy brysur i fod yn ymwybodol ei fod yno," meddai.

    Onest ac agored
    Mae'n disgrifio'r cyfan yn gwbl onest ac yn gwbl agored - yn agor ei galon i'r darllenwyr heb awgrym bod unrhyw beth yn cael ei gelu ar wah芒n i un frawddeg ryfedd ym mharagraff olaf y gyfrol lle dywed:

    "Dwi'n hapus adra, os nad oes rhaid i mi fynd i unman - er bod yna un boen na fedraf hyd yn oed ei datgelu yma."

    Er yn gyfrol sy'n ymdrin 芒 chyfnodau duon a thywyll ym mywyd person y mae hon ymhell o fod yn gyfrol ddiflas ac mewn arddull uniongyrchol mae'r awdur yn sugno rhywun i'w fywyd o ysbeidiau heulog yng nghwmni rhai o enwau mawr y byd adloniant Saesneg fel Cannon and Ball yn ogystal 芒 chyrraedd y pinaclau yng Nghymru.

    Mae'n mynd ati i restru - yn or fanwl a chatalogaidd yn fy marn i - yr holl fentrau y bu'n 'n ymwneud 芒 nhw.

    Ond os oes peryg i'r rhibidir锚s o 'enwau mawr' syrffedu mae'r 'stori' ei hun yn ddigon i wneud yr hunangofiant hwn yn un sy'n ddifyr ar y naill law ac yn codi sawl peth i gnoi cil drosto ar y llall.

    Mae'n s么n am ei gariad ag Aloma o Tony ac Aloma am y tyndra crefyddol o'i fewn ei hun a dod i sylweddoli "fod cyfrifoldeb ary Cristion i fod yn fwy tebyg i'w Arglwydd yn y byd hunanol hwn".

    Talentau Cymraeg
    Mae ganddo sylwadau i'r rhai sy'n ymwneud 芒'r byd adloniant i gnoi cil arnyn nhw hefyd megis yr hen gneuen o dalentau Cymraeg:

    "Anodd peidio teimlo'n rhwystredig iawn a chydymdeimlo i raddau gydag artistiaid a thalentau drwy Gymru heddiw sydd heb blatfform i arddangos eu dawn. Diolch am y gyfres Noson Lawen sydd gyda ni o hyd - diolch am gyfresi eraill, ond prin yw'r ddarpariaeth ar gyfer ein hartistiaid . . .

    "Dwi'n credu'n gryf fod llawer o dalent yng Nghymru o hyd," meddai.

    "Mi ddwedwn i ei bod hi'n gywilydd arnom ni fel Cymry nad ydym yn manteisio ar y talentau sydd gynnon ni," meddai gan fynd ymlaen i feio S4C am ymdrechi i fod fel y Saeson a'r Americanwyr yn hytrach na bod "yn Gymreig, a Chymraeg ein hagwedd".

    Mae'r gyfrol yn cynnwys hefyd nifer fawr o luniau yn gymysgedd o rai personol a rhai yn darlunio bywyd cyhoeddus yr awdur ym myd adloniant.

    Mewn cyfnod pan fo cymaint o gyhoeddi hunangofiannau gellir dweud bod hon ymhlith y difyrraf am ei bod yn agor drws na fyddai pawb yn barod i'w agor.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy