成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhywbeth Bob Dydd
Cronicl dyddiol Hafina Clwyd
  • Adolygiad Glyn Evans o Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd. Gwasg Carreg Gwalch. 拢8.50.



  • Erbyn gweld, mae diwrnod fy mhen-blwydd i yn gymysgedd "o orfoledd a thristwch" ac yr ydw i'n ddyledus i Hafina Clwyd am yr wybodaeth yna.

    Rhan o'r gorfoledd oedd geni yn 1833 awdur Does Unman yn Debyg i Gartref, Myfanwy, Pistyll y Llan a phennill gwreiddiol Sosban Fach, sef Richard Davies - Mynyddog.

    Y tristwch oedd marw Carwyn James yn 54 oed yn 1983 - dyn rygbi ac ysgolhaig ysbrydoledig.

    Clawr y llyfr Mae hyn a llawer mwy yn llyfr diweddaraf Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd, a gyhoeddwyd ar Hydref 1 2008; diwrnod dathlu postio y cerdyn post cyntaf - yn 1870.

    Lluniodd Hafina ei llyfr oherwydd iddi gael ei chythruddo gan gyflwynwyr rhaglenni radio Cymraeg yn cyfeirio byth a hefyd at ben-blwyddi digwyddiadau ac unigolion Seisnig nodedig ond braidd byth at ddathliadau Cymreig.

    "Ac felly dyma fi'n mynd ati i weld a fedrwn ddarganfod rhywbeth Cymreig a ddigwyddodd ar bob dyddiad drwy'r flwyddyn," meddai.

    Afraid dweud iddi lwyddo a dod hyd i rywbeth bob dydd!

    Hynod o ddifyr
    Ond yn wahanol i'r llaweroedd o lyfrau Saesneg sy'n crynhoi digwyddiadau fesul diwrnod eu digwydd nid rhestr foel o ffeithiau moel yw cynnwys ei Rhywbeth Bob Dydd hi.

    Yn hytrach, yr hyn a gawn yw ysgrif fer wedi ei saernio ar gyfer pob diwrnod - ambell un yn ymestyn fymryn dros ddalen ond y rhan fwyaf ychydig yn llai na hynny.

    Mae y tu hwnt o ddifyr ac rwy'n synnu braidd na fyddai'r cyhoeddwyr wedi rhoi mymryn gwell gwisg i'r gyfrol fel bo'i diwyg cyn ysgafned a'i chynnwys yn hytrach nag yn ddrabiau llwyd o brint.

    O blethu llun a thestun - yn hytrach na chorlannu'r lluniau i gyd yn y canol - yr oedd cyfle yma i lunio cyfrol ddeniadol iawn.

    Ond os yw'r diwyg yn siomi nid felly'r testun. Mae'n ddifyr ddiwylliedig mewn arddull sionc.

    Sionc, ddwedais i?
    Dim rhyfedd hynny a chymaint o sgwarnogod yn cael eu codi wrth i'r awdur olrhain gwahanol gysylltiadau a rhannu atgofion personol difyr.

    Mewn angladd
    Fel yr atgof am fynychu angladd y llenor a'r tynnwr coes D Tecwyn Lloyd:
    "Byddai wedi cael hwyl pe gwyddai mai'r geiriau cyntaf yn ei angladd oedd hysbysiad bod dau fodur 芒'u goleuadau heb eu diffodd yn y maes parcio ar draws y ffordd. Byddai hefyd wedi mwynhau'r ffaith na symudodd neb. Nid oedd neb yn barod i fentro colli sedd yn y capel na'r festri," meddai.

    Nid yn annisgwyl, y mae i Ddyffryn Clwyd a'r gymdeithas Gymraeg yn Llundain a'u pobl le amlwg ac mae yma hefyd sawl enghraifft o ddiddordeb yr awdur mewn hel achau - gall groniclo'n Feiblaidd bron, i'r cyff cynharaf, achau'r rhai mae'n s么n amdanynt gan ddatgelu wrth wneud hynny ambell i berthynas annisgwyl.

    Gwn yn awr fod mam Syr Anthony Hopkins yn perthyn o bell i'r bardd Gwyddelig W B Yeats.

    Cywiro
    Manteisir hefyd ar gyfle i gywiro camgymeriadau mewn lleoedd eraill fel ag yn achos Robert Ambrose Jones - Emrys ap Iwan (a fu farw Ionawr 6 1906).

    Anghywir, meddai, yw dweud - fel y gwnaeth T Gwynn Jones, Y Bywgraffiadur a'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru - mai Ffrances oedd ei nain.
    Un o Lanllyfni oedd hi!

    Anghywir hefyd wybodaeth ar blac ar Fryn Aber, Abergele, yn dweud mai yno y'i ganwyd. Ac ar ben hynny mae dyddiad y geni'n anghywir hefyd.

    Dywed i T Gwynn Jones gael ei gamarwain gan Ann, chwaer Emrys ap Iwan:

    "Roedd hi wedi celu oddi wrth ei g诺r, Peter Jones, ei bod hi bymtheg mlynedd yn h欧n nag ef, felly ystumiodd hanes y teulu er mwyn cadw'r gyfrinach," meddai Hafina Clwyd.
    Merched a'u hoed!

    Heb selebs
    Ei siomi, fodd bynnag, gaiff y sawl fydd yn troi at y gyfrol hon am wybodaeth am y bodau brau hynny sy'n cael eu galw yn 'selebs' ac y mae'r Wasg a'r cyfryngau cyfoes yn ymdrybaeddu gymaint yn eu bywydau.

    Mae hynny ynddo'i hun yn fendith.

    Ond fe geir sawl enw annisgwyl; Rudyard Kipling yn eu plith.

    Ac mae ganddo bob hawl bod yma gan mai o Ddinbych y deuai Hannah Jones ei nain - a hithau'n mudo'n ferch ifanc i Fanceinion lle priododd y Parchedig George Brown Macdonald yr ordeiniwyd ei dad, James, gan John Wesley ei hun.

    "Cafodd Hannah a'i g诺r un ar ddeg o blant yn cynnwys saith merch," meddai Hafina Clwyd.

    "Un o'r merched oedd Georgiana a'i g诺r oedd Syr Edward Burne-Jones, yr arlunydd a chyfaill mawr William Morris.

    "Ei arbenigrwydd oedd ffenestri lliw. Un o'i luniau enwocaf yw Arthur yn Cysgu. Roedd Georgiana'n ffrindiau mawr efo George Eliot ac roedd ei g诺r, Burne-Jones, yn ffrindiau mawr mawr efo May Gaskell, hen hen nain Josceline, gwraig David Dimbleby."

    Na, waeth lle mae'r stori'n dechrau does wybod lle bydd hi'n gorffen . . .!

    Bocs sebon
    Mae cyfle weithiau i'r awdur ddringo ar focs sebon megis wrth nodi mai ar Ionawr 16 (yn 1840) y condemniwyd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones i'w crogi a'u chwarteru am eu rhan yn ymgyrch y Siartwyr.

    "Fe newidiwyd y ddedfryd a chawsant eu halltudio i ben draw'r byd," meddai gan ychwanegu:

    "I bobl fel hyn y mae'r diolch bod gennym bleidlais ac mae'n gywilyddus fod cymaint yn afradu'r hawl. Ail ran y gair 'pleidlais' sy'n bwysig."

    Gwrhydri Cymreig
    Mae sawl achlysur yn ystod blwyddyn Rhywbeth Bob Dydd i ymhyfrydu mewn rhyw wrhydri neu hynodrwydd Cymreig neu'i gilydd.

    Rhagfyr 20, er enghraifft, yn ddiwrnod geni Elizabeth Morgan (1843) yn Aberhonddu "y ferch gyntaf i ennill gradd mewn meddygaeth mewn prifysgol yn Ewrop" a meddyg benywaidd gyntaf Cymru!

    Mewn maes arall, ar Dachwedd 13 (1923) y ganwyd p锚l-droediwr a ddisgrifiwyd gan Syr Stanley Matthews fel "y chwaraewr mwyaf dawnus ac anodd ei guro y deuthum wyneb yn wyneb ag o" - Alf Sherwood o Aberaman.

    Ydi, mae'r detholiad yn amrywiol ond, wrth gwrs, gyda llyfr o'r fath, bydd pob darllenydd yn sylwi ar rhyw fwlch neu'i gilydd - ac fe fyddan nhw wrth eu boddau gydag awgrym Hafina Clwyd ar raglen deledu yn ddiweddar y gallai cyfrol arall debyg gael ei chywain.
    Da hynny.

    Yn y cyfamser bydd y gyfrol hon o fendith beunyddiol nid yn unig i borwyr diamcan ond hefyd i bapurau newydd ac i ymchwilwyr radio a theledu.
    Gobeithio y caiff y llyfr a'i awdur y gydnabyddiaeth haeddiannol.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy