| |
|
|
|
|
|
|
|
Bwystfilod Rheibus Casgliad o anectodau difyr
Adolygiad Glyn Evans o Bwystfilod Rheibus. Hunangofiant Robyn L茅wis. Gwasg y Bwthyn. 拢9.95.
Tri pheth i'w cofio pan yn s么n am Robyn L茅wis.
Mai 'y' sydd yn Robyn, bod yna linell fach uwchben yr 'e' yn Lewis ac mai yn nhref - nid pentref - Nefyn mae'n byw.
Gallai anghofio un o'r pethau hyn arwain at epistol sydyn oddi wrth un o ddynion mwyaf aml-lythyrog Cymru!
Byddai casgliad ohonyn nhw at bapurau yn amrywio o Lanw Ll欧n i 'r Telegraph yn llenwi eithaf cyfrol - a dyma fi'n dechrau gwneud gwaith comisiynydd Gwasg y bwthyn!
Caiff y tri pheth - a'r duedd i lythyru - sylw yn y llyfr hwn.
Tri pheth arall am Robyn L茅wis; mae'n siarad yn blaen, dydi o ddim ofn sathru cyrn neb ac mae wrth ei fodd cael ei enw yn y papur - neu felly yr ymddengys.
A dyma'r hunangofiant. Digon diniwed Does dim amheuaeth na fydd y cyfuniad o'r enw Robin Lewis - jyst jocian! - a'r teitl Bwystfilod Rheibus yn symud sawl copi oddi ar y silffoedd gyda'r disgwyl yn eiddgar i weld pwy yw'r bwystfilod a gaiff eu pigo'n ysgafn gan ei binsel finiog.
Ond bydded rhybudd - dyfais werthu ydi'r teitl ac mae'r eglurhad y tu 么l iddo yn ddigon diniwed, os difyr, ond mae rhywun yn meddwl tybed na fyddai "Hurtrwydd Ysbrydoledig" wedi bod gystal pennawd i gofiant y g诺r lliwgar hwn.
Dyna ei gyfieithiad ef ei hun o ddyfyniad allan o adolygiad pryfoclyd gan Hywel Teifi Edwards o'i lyfr pryfoclyd A Oes Heddwch.
Wrth adolygu cyfeiria Hywel Teifi at "flashes of inspired daftness tymor Robyn L茅wis yn Archdderwydd ac rydw i'n rhyw amau fod y cyn Archdderwydd wedi cymryd at y disgrifiad goleuedig yna ac mae'r fflachiadau hynny yn bywiogi ac yn goleuo'r gyfrol hon drwyddi draw - fel ag y bu iddyn nhw fywiogi bywyd yr hunangofiwr ei hun!
Mwy na daftness!
Ond nid 'daftness' fu popeth wrth gwrs gan eich bod yn s么n hefyd am ddyn a balodd yn hir ac yn ddwfn yn helaethu'r defnydd o'r Gymraeg yn llysoedd Cymru er enghraifft.
Yn wir, byddai ei eiriadur termau cyfreithiol wedi bod ynddo'i hun yn gyfraniad oes a roddai bob hawl i'r awdur orffwys ar ei rwyfau wedyn.
Bu'n llenydda hefyd gan ennill y Fedal Ryddiaith; bu'n gwleidydda ac ni all neb wadu mai ef 芒 dorrodd fwlch yn y mur a alluogodd Dafydd Wigley i gamu drwyddo i gynrychioli Arfon yn y Senedd yn Llundain..
Ac nid y lleiaf o rinweddau rhestr ar flaen y gyfrol hon o ugain o lyfrau a gyhoeddwyd ganddo yw eu hamrywiaeth.
A chan fod naws hunangofiannol i rai ohonynt dim rhyfedd i'r awdur betruso pan y'i gwahoddwyd gan Wasg y Bwthyn i lunio y cofiant diweddaraf hwn gan yr ofnai nad oedd rhagor i'w ddweud.
"Yr oeddwn o'r farn fy mod i wedi gwasgu cymaint o sudd o'r ffrwyth fel nad oedd dim a fyddai at ddant neb ar 么l," meddai cyn mynd ar arch y wasg i gribino'i gof am ragor o atgofion.
Ac yr oedd hi yn amlwg yn delyn o gribin a ddefnyddiwyd ganddo gan iddi dynnu dros 200 o ddalennau i'r rhenciau!
Rhannu'r blynyddoedd Mae'n rhannu ei fywyd yn gowleidiau hwylus o flynyddoedd gan gychwyn yn 1929 a gorffen yn y blynyddoedd wedi 2000. Yn y canol mae tocyn o luniau yn darlunio'r blynyddoedd hynny.
Ond ar wah芒n i'r penodau cyntaf dydi'r gyfrol ddim yn hunangofiant yng ngwir ystyr y gair ond yn gasgliad difyr ac amrywiol o straeon ac anectodau.
A chan ei fod yn ymwybodol mai pechod mwyaf yr hunangofiannydd yn aml iawn yw brolio ei hun mae wedi sicrhau ddogn o straeon 'yn ei erbyn ei hun' ac sy'n feirniadol ohono.
Mae'n cyfaddef, er enghraifft, mai mater o gywilydd mawr iddo oedd ymaelodi 芒'r lluoedd arfog a gwisgo "lifrai Si么r VI, Brenin Lloegr".
Cythraul mewn croen Do, "fe wneuthum bethau na ddylwn fod wedi'u gwneud. Megis bod yn gythraul bach mewn croen," meddai - a hynny'n ein hatgoffa o gofiant ei olynydd, Selwyn Iolen, a fu hefyd yn 'hogyn drwg' heb ei ail pan yn fachgen.
Beth ydio gyda hogiau drwg eu bod nhw'n gwneud cystal archdderwyddon? Efallai y dylem gael cystadleuaeth - pwy yw'r archdderwydd mwyaf drygionus!
Cynnwys y gyfrol hon gymaint o straeon bach da mae'n anodd gwybod lle i ddechrau dyfynnu a da o beth mai digon i adolygydd yw annog pawb i ddarllen cyfrol hawdd iawn ymgolli ynddi - a dychwelyd ati ar 么l ei rhoi i lawr.
Ac fe gewch hefyd y gwir am hanes yr helynt dwyn bws chwedlonol hwnnw yn Aberystwyth.
Nid pob lleidr bws ddaeth yn archdderwydd - heb s么n am ei ddyrchafu'n Ddirprwy Farnwr hefyd!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|