| |
|
|
|
|
|
|
|
Prif Weinidog Answyddogol Cymru Awdur yn s么n am ei lyfr am Huw T Edwards
Mae'r gyfrol Prif Weinidog Answyddogol Cymru yn dilyn hanes un o gymeriadau mwyaf lliwgar a dylanwadol pump a chwe degau y ganrif ddiwethaf - yr undebwr llafur, Huw T Edwards.
Y bywgraffiad hwn gan Gwyn Jenkins - golygydd Llyfr y Ganrif - yw'r cyntaf i fynd i'r afael 芒'r cymeriad diddorol hwn a ddisgrifiwyd fel "Cymro mwyaf cyffrous ei ddydd" a fu'n pendilio rhwng dwy blaid wleidyddol yn gadael y Blaid Lafur i ymuno 芒 Phlaid Cymru - dim ond i ddychwelyd eto i gorlan Llafur.
Bu Gwyn Jenkins, sy'n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn siarad am y cofiant gyda Nia Roberts ar Raglen Hywel a Nia fore Iau, Gorffennaf 12, 2007 lle disgrifiodd Huw T Edwards fel "sosialydd cenedlaetholgar", g诺r direidus ac yn berson "cynnes a hael iawn, iawn"..
"Ac roedd pobl yn hoff iawn, iawn, ohono fe ac ychydig iawn o feirniadu oedd arno," meddai.
Pryfocio "Ac roedd e'n hoffi dweud pethau [oedd yn] pryfocio ac hyd yn oed wedyn roedd pobl yn derbyn mai Huw T oedd Huw T," ychwanegodd.
Ond ychwanegodd mai "dyn o ddylanwad ond heb rym" oedd o.
Un o Ddyffryn Conwy oedd Huw T Edwards. Ychydig o addysg a gafodd a thra'n gweithio ym mhyllau glo y de yr ymunodd 芒'r Blaid Lafur a dechrau ymwneud ag undebau llafur gan ddringo maes o law yn gadeirydd cyntaf Cyngor Cymru ac ennill iddo'i hun yr enw o fod yn "Brif Weinidog Answyddogol Cymru" pan oedd ar anterth ei yrfa.
Ymlyniad "Roedd ei ymlyniad at iaith a diwylliant ei genedl yn ddi-ball ac er yn sosialydd o argyhoeddiad ac yn genedlgarwr pybyr, roedd yn ddigon eangfrydig i fanteisio ar bob cyfle i gydweithio'n adeiladol ar ran y genedl," meddai Gwyn Jenkins noson cyhoeddi'r llyfr yn y Llyfrgell genedlaethol, Gorffennaf 13, 2007.
"Roedd ei gyfraniad i ddatblygiad Cymru fel cenedl yn yr ugeinfed ganrif yn eithriadol o bwysig a thra gwahanol fyddai'r broses o ddatganoli oni bai am ei gyfraniad ef," meddai.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|