 |
Euog Trosi'n ffilm yn hwylus
Adolygiad Linda Edwards o Euog gan Llion Iwan. Gwasg Gomer. 拢6.99.
Dyma'r drydedd a'r olaf o nofelau Llion Iwan am Dafydd Smith, gydag Euog yn ddilyniant i Casglwr a Lladdwr.
Yn hon mae Dafydd wedi ei ddedfrydu i garchar am oes, er ei fod yn ddieuog o lofruddio'i gariad, Anna Bennett.
Gw欧r mai'r Casglwr oedd y llofrudd ac mae'n benderfynol o ddod o hyd iddo a chael cyfiawnder.
Yn ddiarwybod i Dafydd, fodd bynnag, mae dau fudiad pwysig 芒 diddordeb mawr yn y Casglwr; Plaid Genedlaethol Lloegr yn Gyntaf ac MI6.
Mae Plaid Genedlaethol Lloegr yn Gyntaf wedi darganfod fod gan y Casglwr, Louis Cypher, gyfrinach a allai helpu'r blaid i uno Ffasgwyr ledled Ewrop.
Mae MI6 hefyd yn gwybod am gyfrinach Louis Cypher ac am ddod o hyd iddo er mwyn rhwystro hyn.
Defnyddio Dafydd Mae'r ddau fudiad yn fodlon defnyddio Dafydd yn abwyd i ddenu'r Casglwr allan o'i guddfan ac yn mynd i eithafion i gyrraedd at Dafydd gyntaf.
Mae'r nofel yn gafael yn syth a gwyddwn o'r frawddeg gyntaf fod yr hyn a ddigwyddodd yn Awstria yn 1902 yn mynd i gael dylanwad ar y stori, sydd yn rhoi dimensiwn arall, dyfnach i'r nofel.
Mae'r ffordd y mae Abel Morgan - y Lladdwr - cyn aelod o'r gwasanaeth cudd sydd yn cael ei dynnu allan o'i ymddeoliad i ddod o hyd i Dafydd, yn gweithredu, yn arbennig yn ei sgiliau combat, yn taro deuddeg.
Yn yr un modd, mae'r disgrifiad o Dafydd yn dianc o'r carchar hefyd yn arbennig o afaelgar.
Cr毛ir tensiwn o'r funud gyntaf, a chaiff ei gynnal yn ardderchog ym mhob pennod.
Adnabod y cymeriadau Teimlaf fy mod yn adnabod y cymeriadau er nad oes gor ddisgrifio.
Mae arddull y nofel yn fy atgoffa ar un wedd o steil Anthony Horowitz yn Stormbreaker - yr un cynildeb yn yr ysgrifennu sy'n rhan hanfodol o greu scenarios.
Fel Stormbreaker hefyd, mae'r gyfrol hon yn ddelfrydol i'w haddasu ar gyfer teledu neu'r sgr卯n fawr, a synnwn i ddim gweld hynny'n cael ei wireddu o fewn y flwyddyn nesaf.
Ond tra bo nofel Horowitz yn apelio'n bennaf at blant yn eu harddegau, gyda chynnwys sy'n fwy nodweddiadol o straeon James Bond, bydd Euog yn apelio at gynulleidfa ehangach - o bobl ifanc yn eu harddegau i oedolion, yn ddynion ac yn ferched, gan fod y cynnwys yn iasol real yn y byd cyfoes sydd ohoni.
Ar ei phen ei hun Un pryder oedd gen i wrth fynd ati i ddarllen y gyfrol - na fyddai cystal blas arni heb ddarllen ei dwy ragflaenydd.
Siom ar yr ochr orau felly, oedd canfod fod hon yn nofel sy'n sefyll ar ei phen ei hun yn ogystal 芒 bod yn rhan o drioleg, ac nad oedd rhaid bod wedi darllen yr un o'r ddwy flaenorol i'w mwynhau.
Cysylltiadau Perthnasol
Dau adolygiad arall

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|