成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O'r L么n i F么n
Dyn M么n trwy fabwysiad
  • Adolygiad John Stevenson o O'r L么n i F么n - Bywyd a Gwaith Emlyn Richards Gwasg Gwynedd. 拢7.95.


  • Mae canllawiau clir a chadarn yngl欧n 芒 phwy sydd a phwy sydd ddim yn cael ei ystyried yn Gocni.

    Cael eich geni yn yr East End yn Llundain ac yn benodol o fewn clyw i glychau eglwys Bow, ydi'r rheol aur.

    Ond hyd y gwn i does na ddim canllawiau tebyg i benderfynu pwy sydd, a phwy sydd ddim, yn cael eu cyfri yn un o hogia M么n.

    Clawr y llyfr Dim sy'n dweud fod yn rhaid cael eich geni o fewn golwg i D诺r Marcwis neu yng nghlyw cloch Goleudy Penmon!

    Beth bynnag am y semantics o bwy sydd a phwy sydd ddim yn Fonwysyn, trist yw cofnodi nad yw Emlyn Richards yn Fonwysyn drwy enedigaeth er yn 诺r a feddiannwyd gan yr hyn oedd yn cael ei alw erstalwm yn "ddawn M么n".

    Yr eironi ydi fod Emlyn Richards yn hanu o Wlad Ll欧n.

    Perthynas
    Wnawn ni ddim dal hynny yn ei erbyn o a beth bynnag ddywed y canllawiau does gen i ddim amheuaeth na chwestiwn yn fy meddwl nad ydi Emlyn Richards bellach yn Fonwysyn drwy fabwysiad.

    Wedi dweud hynny, mae'n ddiddorol gweld ei fod o, yn 么l y dystiolaeth yn y gyfrol hon, hefyd yn Fonwysyn drwy berthynas gan i un o'i ddisgynyddion - hen ewythr iddo, Richard Evans - 'fynd dros y nyth' o Wlad Ll欧n ac ymgartrefu yn mhentref Dwyran.

    Trafod bywyd a gwaith g诺r digon amryddawn ydi pwrpas y gyfrol hon. G诺r a adawodd dyddyn o'r enw'r L么n ger Sarn Mellteyrn i fynd i weini ffarmwrs.

    Yna, wedi Coleg ym Mangor, Y Bala ac Aberystwyth (a chael gwraig ar y ffordd) setlo'n Weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd mewn pentref bychan ger arfordir gogleddol tymhestlog pen pellaf Ynys M么n.

    Gweinidog, ymgyrchydd ffarmwr
    Gweinidog a phregethwr.
    Ymgyrchydd gwrth niwclear.
    Tipyn o amaethwr.
    Chwilotwr ac ysgrifennwr llyfrau difyr sydd o werth a diddordeb lleol.
    Dyna Emlyn Richards.

    Mater o amser, hyd y gwelaf i, yw hi cyn y bydd Emlyn Richards yn cael ei anrhydeddu gan Brifysgol Cymru gyda Medal Gee y Cymry Gymraeg sefydliadol: yr MA er anrhydedd.

    Sut mae mesur llwyddiant?
    Tybed a ydi hi'n haws tynnu sylw at fethiannau?

    Mae'r penodau o'r gyfrol hon gafodd eu hysgrifennu gan Emlyn Richards ei hun yn hynod ddifyr gan fod ganddo'r ddawn i sgwennu ac i ddweud stori yn afaelgar.

    Yn wir, mae ei arddull ysgrifenedig dipyn yn llai hirwyntog na'i ddoniau llafar ac rwy'n dweud hynny yn garedig.

    Ond mae darllen ei waith mewn gwirionedd yn llawn mor ddifyr a gwrando arno yn mynd trwy ei bethau yn y cnawd.

    Barn eraill
    Yn fwy difyr fyth, o bosibl, yw cyfraniadau ERAILL yn cloriannu agweddau penodol o waith gweinidog Cemaes.

  • Mae Edgar Jones yn trafod ei ddyddiau ysgol ym Motwnnog ac yntau'n "swatio wrth ei ochor" gan fod Emlyn Richards yn fachgen cyhyrog.

  • Yr arwerthwr Morgan Evans wedyn yn trafod Emlyn Richards yr amaethwr a chyfaill oes.

  • Harri Parri yn trafod priod waith Mr Richards fel pregethwr - pregethwr, sylwer, ni gweinidog.

  • Judith Humphreys a Jerry Hunter yn trafod yr heddychwr.

  • A Cen Williams, un arall o hogia M么n, yn trafod ei gynnyrch toreithiog fel awdur.

    Methu weithiau
    Sut mae mesur llwyddiant?
    Os yw hi'n haws tynnu sylw at fethiannau rhaid dweud i weinidog Cemaes fethu weithiau.

    Ond dydi hynny, cofiwch, ddim yn tynnu dim oddi ar yr ymdrech na'r ymroddiad.

    Yr heddychwr a'r ymgyrchydd gwrth niwclear?
    Er holl ymgyrchu mudiad CND, mae Llywodraeth San Steffan yn ystyried comisiynu taflegrau Trident newydd ac mae atomfa arall yn debyg o gyrraedd yr Wylfa i gymryd lle yr un bresennol.

    Y pregethwr a'r gweinidog?
    Wrth agor y gyfrol dywed Emlyn Richards na fu ganddo erioed fawr i'w ddweud wrth seintiau. Fel gweinidog, mae'n amlwg fod gan bobol ei ofalaeth yng ngogledd M么n feddwl y byd ohono ef. Daw hynny'n amlwg o ddarllen drwy'r gyfrol.

    Treuliodd bron i ddeugain mlynedd yng ngogledd Ynys Mon.

    Cafodd ei ordeinio a'i sefydlu mewn cyfnod pan oedd Anghydffurfiaeth yn dal i fod 芒 gafael ar deithi meddwl a moeseg y Gymry Gymraeg Wledig.

    Mae ei ddisgrifiad o'i wasanaeth cyntaf yn weinidog capel Bethesda yn adlais o oes sydd wedi hen ddarfod.

    Tyrfa fawr yn tindroi o gwmpas y capel ac yntau'n cael ei hebrwng i sedd y gweinidog gyda'r pen blaenor yn dweud wrtho mai "hon oedd cadair John Elias".

    Un o'r mawrion
    Ond mae Emlyn Richards ei hun yn bregethwr Sasiwn - yn cael ei ystyried yn un o'r mawrion; ac un peth yr hoffwn fod wedi ei gael yn y gyfrol hon ydi dadansoddiad Emlyn Richards o sut yr aeth pethau fel ag y maen nhw o ran crefydd gyfundrefnol Cymru.

    Mae o hefyd fel pe tai yn osgoi trafod "gwleidyddiaeth" enwadol ac yn wir y ddiwinyddiaeth sy'n gallu cyfiawnhau pynciau fel cau capeli.

    Tybed nad oes angen mwy nag ochenaid i nodi'r ffaith fod crefydd yng Nghymru yn prysur edwino?

    Yn sicr, roeddwn i wedi gobeithio am ymdriniaeth ddeallus, drylwyr, ond bydd yn rhaid disgwyl am ei gyfrol nesaf mae gen i ofn.

    Yr amaethwr?
    Dechreuodd gweinidog Cemaes drwy weini ffarmwrs ac mae ei ddiddordeb a'i ddil茅it yn myd y siacad liain a sgidia hoelion mawr yn amlwg drwy'r gyfrol.

    Mae'r stori amdano yn cael defnyddio Marchnad y Gaerwen i werthu llyfr yn batrwm ac yn un gwerth ei darllen.

    Llais y bobl
    Pennod nad yw yn y gyfrol ond a ddylai fod, yw un fanwl yn cloriannau'n wrthrychol ran y mudiad gwleidyddol cyffrous hwnnw a gydiodd yn nychymyg pobol M么n ddiwedd Nawdegau: Llais y Bobol.

    Gweinidog Cemaes oedd yn llywio'r cyfarfodydd stormus a niferus hynny ym mart y Gaerwen gan y mudiad pwysig hwn, ar y pryd.

    Ond fel Undeb Gweithwyr M么n yn gynharach yn y ganrif, chwythu ei blwc wnaeth Llais y Bobol heb adael fawr ar ei 么l.

    Gwir fod pobol yr ynys wedi laru ar y straeon am giamocs diddiwedd eu cyngor sir ond a oedd Llais y Bobol yn fudiad a dyfodd o'r gwreiddiau ynteu yn una gr毛wyd ac a ddefnyddiwyd gan ffigurau gwleidyddol ar yr Ynys yn gweithredu y tu 么l i'r llenni.

    G诺r bonheddig
    Un peth ddaru fy nharo fi dwts am y gyfrol yw fod y gwrthrych ar delerau da ag ef ei hun. Ac yntau'n siwr o fod yn gwybod ei fod o'n cael ei ystyried yn 'gymer' mae mewn perygl o wneud ati yn y gyfrol i chwarae'i fyny y ddelwedd gyhoeddus.

    Mae gan yr awdur bob hawl i wneud hynny wrth gwrs ac mae'r llyfr ar ei ennill mewn ffordd annisgwyl oherwydd hynny!

    Teitl un o gyfrolau blaenorol Emlyn Richards oedd, Dyddiadur G诺r Bonheddig - lloffion o ddyddiadur Sgweiar Brynddu, plasty ger pentref bychan Llanfechell.

    Bron iawn yr awn cyn belled 芒 hawlio fod hunangofiant Emlyn Richards ei hun yn haeddu'r teitl; Cofiant G诺r Bonheddig.

    Dyna Emlyn Richards yn y b么n, g诺r bonheddig a'i bersonoliaeth a'i allu fel diddanwr ar lafar ac ar bapur yn disgleirio ar bob tudalen. Ydi, mae hon yn gyfrol sy'n bleser i'w darllen.
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy