成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Prifio
Hunangofiant Maureen Rhys
  • Adolygiad Glyn Evans o Prifio - hunangofiant Maureen Rhys. Gomer . 拢7.99.

    Rhagfyr 4 2006

    Cyhoeddwyd tair cyfrol ar ddeg y Nadolig hwn a oedd un ai yn gofiannau neu hunangofiannau.

    Ond dim ond un ohonyn nhw a sgrifennwyd gan ferch.

    Nid bod dim yn anarferol yn hynny - gellid cyfrif ar fysedd un llaw sawl merch fu'n cofio neu'n cael ei chofio dros y pum mlynedd diwethaf.

    Clawr y llyfr Ac y mae hynny'n drueni - nid ar sail unrhyw syniad o gwot芒u merched ond oherwydd y perygl mai dim ond golwg wrywaidd o'n gorffennol fydd gennym ni gan golli y pethau hynny y byddai merched yn dueddol o sylwi arnyn nhw.

    Er enghraifft yn y cofiant hwn mae Maureen Rhys yn cyfeirio at arferion gwisgo a choluro merched ifainc ddiwedd y Pumdegau.

    "Mae'n anodd credu nad oedd y ffasiwn bethau a tights yn bod, na teenagers chwaith," meddai gan ychwanegu mai digon di-liw oedd y dillad nes i "ffenomen" o'r enw Brigitte Bardot ddod i'w bywydau.

    "Y genod eisiau gwisgo yr un fath 芒 hi . . . Mi daeth yn ffasiwn i wisgo ffrogiau gingham a belt yn dynn, dynn, am y wasg. O dan y ffrog mi fydda rhai mwy ffasiynol na'i gilydd yn gwisgo mwy nag un bais 'net' gwmpasog ac ambell un hyd yn oed yn golchi'r peisia mewn d诺r a siwgwr er mwyn cael y ffrog yn fwy cwmpasog fyth."

    Dim ond ychydig o golur
    Dywed mai ychydig iawn o golur oedd ar gael ond ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd yr oedd Creme Puff a oedd yn "rhyw fath o bowdwr solet" ac wedyn Yardley's Feather Finish yn "hylif eithaf trwchus fyddai'n tueddu i roi'r argraff bod rhywun wedi disgyn i focs paent."

    Y lipstig mwyaf ffasiynol bump a deugain o flynyddoedd yn 么l oedd un o'r enw iced pink!

    Manion difyr na fyddai dyn yn meddwl eu crybwyll.

    Plentyndod
    Llwydda hunangofiannydd benywaidd unig Nadolig 2006 ac un a ddaeth gyda'r fwyaf blaenllaw o actorion Cymru i ddod 芒'r cyfan o'i bywyd i fwcwl mewn cyfrol gryno o ddim ond 127 tudalen.

    Mae'r llyfr yn cynnwys hefyd nifer fawr o luniau yn amrywio o ddyddiau plentyndod i'w dyddiau ar lwyfan a sgrin.

    Hanesion ei phlentyndod, ei magwraeth a'i thyfu i fyny apeliodd fwyaf ataf i yn hytrach na'r catalog o gampweithiau actio yn yr hyn ydw i'n ystyried yn 'ail ran' y gwaith. Ac heb os fe fu yna gampweithiau.

    Ond er ei bod yn cymryd ei chrefft o ddifrif llwydda i wneud hynny heb ymddangos ei bod yn cymryd ei hun ormod o ddifrif ac y mae yma elfen o wyleidd-dra braf.

    Tynnu coes
    Mae tynnu coes hefyd - ac fe fwynheais i hwnnw yn fawr iawn.

    S么n yr ydw i am 'gyfieithiad' - Gareth Miles ddywedir yma ond doeddwn i ddim yn cofio hynny - o ddrama newydd gan Ionesco a syfrdanodd feirniaid a chynulleidfa fel ei gilydd mewn g诺yl ddrama yng Nghaerfyrddin ddechrau'r Chwedegau.

    "Oherwydd bod yna gyfarfod o'r Academi hefyd yn cael ei gynnal yn yr un lle, roedd yna nifer fawr o bobl y Pethe wedi casglu dan yr unto," meddai Maureen gan eu disgrifio yn heidio i weld y perfformiad.

    Canolbwynt y llwyfan oedd ffynnon a llaw yn dod ohoni o bryd i'w gilydd er mawr benbleth i'r cymeriadau.

    "Dyna, dwi'n credu, oedd sail y ddrama a hynny wedyn yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno neges am ystyr neu ddiffyg ystyr bywyd," meddai Maureen.

    Awn ni ddim i fanylu yma am weddill y ddrama ond bydd rhai yn dal i gofio'r canmol a fu arni ymhlith deallusion drama.

    Dim ond wedyn, fel y datgela Maureen, y cyfaddefodd y criw tu 么l i'r digwyddiad mai tynnu coes oedd y cyfan.

    "Wn i ddim pwy oeddan nhw i gyd, dim ond clywed crybwyll enwau fel Gwenlyn, Huw Lloyd Edwards, John Gwilym Jones a Geraint Jones wnaethon ni.

    "Wedi dod at ei gilydd yng Nghaerfyrddin oeddan nhw i ysgrifennu 'sb诺ff', heb freuddwydio y byddai cynifer o bobl yn cael eu twyllo. Naill ai hynny, neu i geisio profi pa mor hawdd oedd hi i dwyllo mewn oes pan oedd geiriau fel 'abs岷價d' a 'symbolaidd' yn cael eu taflu fel smartis o gwmpas y lle," meddai.

    Rwy'n credu y byddai'n eithaf diogel dweud mai'r ail sy'n gywir ac fe atebodd y diben ac mae hanes Y Ffynnon yn parhau'n wers i feirniaid sy'n rhy barod i ddweud yr hyn ddisgwylir iddyn nhw ddweud a diolch i Maureen am ein hatgoffa o'r digwyddiad.

    Gyda'i Nain
    Ond yn 么l i'r cychwyn - mae'r stori, stori Maureen hynny yw, yn cychwyn yn ardal Cwm-y-Glo ( er mai Cwm y Glo yw'r ffurf a ddefnyddia hi, hogan y pentra) rhwng Caernarfon a Llanberis a chawn yn y gyfrol ddarlun byw iawn o fywyd geneth yn cael ei magu gan ei nain yn y pedwar a'r pum degau a hynny'n gwneud bywyd rywfaint yn wahanol i gael eich magu ar aelwyd eich rhieni.

    "Mam 'y nhad oedd Sarah Catherine, ac o fewn pedair wal ein t欧 ni, unig blentyn oeddwn i. Dim ond ychydig i lawr y l么n yr oedd Dad a Mam, Michael, Meurig ac, yn ddiweddarach, Malcolm yn byw - ond ar wah芒n i ni'n dwy."
    Yn unig blentyn gyda brodyr, felly!

    Eisiau bod yn lleian
    Ar y llwyfan hwn yr oedd i grefydd - wel, i gapel - ei le pwysig a mynychu'r Ysgol Sul yn rhan o'r ddefnod wythnosol.

    "Ar un adeg yn ystod y gwasanaethau mi fyddwn i'n cael y teimlad cryf yma fy mod i'n berson mor dda, fel y dylwn i fod yn lleian. Mi barodd y teimlad hwnnw am beth amser. I brofi i mi fy hun pa mor dda oeddwn i, mi fyddwn yn gorfodi fy hun i feddwl am eiriau hyll. Geiriau fel 'diawl' ac 'uffern' a 'blydi'," meddai.

    Rhywbeth a aeth heibio oedd hynny, meddai, ond arhosodd pethau ffurfiannol eraill hyd heddiw; fel yr ysfa i berfformio ac i drin geiriau a'r mwynhad sydd i'w gael o hynny ac fe fydd ei hatgofion yn sbardun i eraill o'r un genhedlaeth gofio eu plentyndod hwythau yn ogystal 芒 bod yn agoriad llygad i eraill ieuengach.

    Gwneud dillad
    Darllenwn ei disgrifiadau o baratoadau pasiant yr un adeg ag yr oedd aelod blaenllaw o'r Eglwys yng Nghymru yn cwyno am duedd rhieni heddiw i brynu gwisgoedd parod ar gyfer dram芒u geni'r Nadolig yn hytrach nag ymuno yn yr hwyl o wneud rhai eu hunain i'w plant.

    Honno yw'r drefn y mae Maureen hithau yn ei chofio:
    "Buom yn ymarfer yn galed am wythnosau - nid ni'r plant yn unig ond y rhieni hefyd, yn morol am y gwisgoedd, yr ochr dechnegol a hyd yn oed anfon i ffwrdd am golur llwyfan.

    "Collodd ambell i d欧 lieiniau byrddau, cyrtansiau a chynfasau gwl芒u yn y cyfnod hwnnw.

    "Byddai fy mam yn gallu gweddnewid darn di-nod o ddeunydd i fod yn gant a mil o wahanol bethau, a gallai wneud i ychydig fynd ymhell.

    "Cynfasau cotwm gwyn oedd gan bawb bryd hynny, felly tasg fy nain oedd llifo ambell un. Nid bod llifo dillad yn beth anghyffredin yn y pum degau. Dyna'r ffordd orau bosibl i weddnewid dilledyn. Mewn ychydig oriau gallasai blows bygddu droi allan yn flows werdd drawiadol. Mi fydda 'na ferwi d诺r am oria yn y crochan bach ar y stof baraffin. Allan yn y cwt bach oedd honno a'r lle yn st锚m i gyd . . ."

    Mae rhywun yn clywed yr arogleuon wrth ddarllen.

    Mae gan Maureen Rhys ddawn arbennig i ddeffro ac i oglais y synhwyrau yn ymddangosiadol ddiymdrech fel hyn a hynny mewn Cymraeg braf i'w darllen.

    Dawn hefyd i gyfleu diniweidrwydd a rhyfeddod plentyn mewn oes a oedd mor wahanol i heddiw.

    "Yr oedd yna," meddai wrth grynhoi ei magwraeth, "fwy o gamp nag o remp yn 'y nghartra i ac yn y gymdeithas y maged fi ynddi."

    I'r brifysgol
    Yn y Brifysgol ym Mangor y pesgwyd defnyddiau crai y cyfnod ffurfiannol ac fel y dywedai sawl un arall o'r un cyfnod yr oedd y llenor, dramodydd a beirniad llenyddol John Gwilym Jones yn dra dylanwadol.

    "Wyddwn i ddim beth oedd drama o'r creu i'r perfformiad," meddai Maureen.

    "Yng ngeiriau John Gwil ei hun, '... nid rhyw adloniant i dreulio dwy awr ddifyr a dim byd arall yw drama, ond yn hytrach cyfrwng cyfrifol i fynegi profiad. Ond, ac mae'n ond mawr, mae'n rhaid cofio ar yr un pryd fod yn rhaid i'r ddwy awr fod yn ddifyr."

    Mae'n ei ddyfynnu hefyd yn dweud:
    "Nid pregath ddylai drama fod, ond nid oes reswm ar y ddaear dros iddi beidio 芒 bod cystal 芒 phregath'!".

    Rhyw Gymro
    Rhaid i bob cofiant gwerth ei halen wrth binsied o straeon bachog - ei anectodau - ac y mae rhai yn Prifio a'r orau gen i:
    Cynhyrchydd yn gofyn i John Gwilym Jones a fyddai'n fodlon sgrifennu drama newydd ar ei gyfer.
    John Gwilym Jones yn dweud fod ganddo Hanes Rhyw Gymro.
    Wedi eiliad neu ddwy o ddistawrwydd y cynhyrchydd yn gofyn:
    "Oes gynnoch chi ryw Gymro mewn golwg, Mr Jones?"

    Cyfrol fer, felly, ond rhwng popeth yn ddarllenadwy ac yn ddifyr - a chan ferch, diolch am hynny, hefyd.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Maureen Rhys


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy