成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Brithyll - i blant ysgol
Rheithor yn cymeradwyo nofel y geiriau bras
ER bod y nofel newydd Brithyll yn frith o regfeydd ac yn cynnwys rhai cannoedd o eiriau 'Ff' ac 'C' mae rheithor gyda'r Eglwys yng Nghymru yn awgrymu y dylai hi gymryd lle Y Stafell Ddirgel yn ein hysgolion.

  • Gellir gwrando ar yr holl sgwrs rhwng Dewi Prysor, Aled Jones Williams a Gwilym Owen trwy glicio ar y blwch 'Gwrando' ar ddiwedd yr erthygl hon.


  • Gwnaeth y Parchedig Aled Jones Williams ei sylwadau ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen yn ystod trafodaeth rhyngddo ef ac awdur Brithyll, Dewi Prysor, Tachwedd 20, 2006.

    I'r chweched dosbarth
    "Ac yntau ei hun hefyd newydd gyhoeddi nofel sy'n cael ei disgrifio fel beiddgar ac erotig dywedodd Aled Jones Williams:

    Dwi'n meddwl, be sy'n bwysig ydi cael y math o lyfr y mae Dewi wedi'i sgrifennu i mewn i'r cwricwlwm cenedlaethol ac i mewn i chweched dosbarth a dosbarthiadau ynghynt.

    "Ond beth sy'n digwydd ydi, mae'r bobl sydd yn dewis y llyfrau yn chwarae'n saff.

    "Am ba hyd, er enghraifft y medrwch chi roi - er fy mod i'n ffan ohoni - Y Stafell Ddirgel i blant ei darllen? Rhaid ichi symud o fanno a rhoi llyfr megis Brithyll."

    Yn ddramodydd ac yn fardd coronog dywedodd Aled Jones Williams yn byddai "yn ffantastig" i blant gael y llyfr fel rhan o'u maes llafur yn yr ysgolion.

    "Fe fyddai hwnna yn ffantastig i'w roi ac fe fyddai hynny wedyn yn gofalu fod pobl ifanc yn cael llenyddiaeth fyw sydd yn siarad - ond mae'r rheini sy'n dewis yn chwarae'n rhy saff," meddai.

    "Y gwirionedd plaen ydi - realiti y gymdeithas ydym ni'n byw ynddi hi, felna mae pobl ac felly mae'n rhaid i lenyddiaeth adlewyrchu hynny . Mae'n rhaid i lenyddiaeth hefyd drosgynnu hynny.

    Clawr Brithyll "Os ydi plant yn gweld fod y Gymraeg yn rhyw iaith bur - ac mae yna rywbeth am gadw purdeb y Gymraeg, ond rhyw lol bots ydi hynna. Felly, rhowch o i'r plant . Mae plant yn gwybod hyn beth bynnag."

    Yn amlwg, yr oedd Dewi Prysor ei hun wrth ei fodd gyda'r syniad ac yn cytuno y byddai y cwricwlwm cenedlaethol yn lle heb ei ail i'w lyfr.

    Adnabod y geiriau
    "Yn sicr fe fyddai'n beth da iawn iddo fod i'r chweched dosbarth," meddai.

    "Er efallai bod yna elfennau o'r llyfr efallai na fyddai cweit yn addas i oed iau. Efallai 'de - ac eto mae plant yr oed iau yn darllen ac yn gwylio teledu ac yn gweld y pethau yma bob dydd eniwe. Ond yn sicr mae yna le i nofelau fel Brithyll gael eu cyfrif yn y cwricwlwn, yn sicr."

    Aled Jones Williams Aeth ymlaen i amddiffyn ei ddefnydd o iaith fras a rhegfeydd trwy ddweud:
    "Os ydych chi eisiau adlewyrchu bywyd go iawn a ieithwedd a buchedd pobl go iawn mae'n rhaid ichi gynnwys o. Beth sy'n bwysig ydi fod llenyddiaeth yn adlewyrchu bywyd."

  • Beth yw eich barn chi?
    Defnyddiwch y ffurflen isod i ymateb . . .

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Cyhoeddi Brithyll

  • Cyhoeddi nofel Aled Jones Williams


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy