 |
Enwau Adar Cyfrol newydd gan Dewi E Lewis
Rhagor o Enwau Adar gan Dewi E Lewis. Llyfrau Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.95.
Nico, Teiliwr Llundain, Peneuryn, Eurbinc, Gwas y Seiri, Gwas y Shiriff, Soldiwr Bach, Penwein . . .
Anodd credu mai gwahanol enwau ar yr un aderyn yw y rhain. Aderyn y mae llawer ohonom - gan gynnwys y bardd, Cynan, yn ei adnabod fel Nico neu, yn y Saesneg, Goldfinch, a Carduelis carduelis mewn Lladin, os ydych am fod yn berffaith si诺r fod pawb yn s么n am yr un peth.
Aderyn gwyllt mor hynod o dlws yr oedd yn arferiad rai blynyddoedd yn 么l ei ddal yn y llwyni i'w gadw mewn cawell ac weithiau ei groesi 芒 chaneris.
Ond aderyn, ta beth, y mae ei enwau cyn dlysed 芒'i blu fel y gwelir yng nghasgliad newydd Dewi E Lewis o enwau Cymraeg ar adar.
Sawl enw Mae sawl aderyn sy'n cael ei adnabod wrth enwau gwahanol gan ddibynnu lle rydych chi'n byw ac un o fendithion y gyfrol hon yw ei bod yn nodi lleoliadau ffurfiau arbennig.
Weithiau mae'r ffurfiau yn amrywiaethau amlwg ar ei gilydd - dro arall nid oes perthynas o gwbl rhwng dau enw.
Hawdd deall sut y gall y Dunnock fod yn Llwyd Bach yn un lle (Sir F么n), yn Llwyd y Berth neu Lwyd y Clawdd rywle arall (Bangor).
Mae modd amgyffred fod Siani Lwyd (Ll欧n) a Llwytyn y Berth (Sir Gaerfyrddin) yr un peth ond sut y daeth amrywiadau fel Gwas y Gog, Gwrachell y Cae, Gwigyn y Gog a Gwrach y Cae i fod yn enwau ar yr un aderyn?
Does yna ddim ymgais i egluro fan hyn. Nid dyna amcan y gyfrol. Cofnodi'r enwau mae hi, ond y mae yna le i gyfrol eglurhaol debygwn i gyda chymaint cyfoeth o amrywiadau a'r rheini'n aml yn deyrnged i ddychymyg a dyfeisgarwch rhyw fathwyr anhysbys.
Da darllen fod Dewi Lewis ei hun yn paratoi cyfrol o'r fath.
Brysied!
Disgrifio'r deryn Yn aml, golwg aderyn sy'n rhoi iddo ei enw - Gwylan Laswyrdd, Croesbig, Titw Barfog, Titw Tomos Las, Tylluan Wen, Robin Goch ac yn y blaen - cynefin dro arall - I芒r y Gors, I芒r dd诺r, Bras yr 欧d,
Mae i arferion eu rhan yn yr enwi hefyd megis Cachwr Pen Rhaw yn Sir F么n am Sigil-i-gwt (Pied wagtail) a Jac Ffa am Jac-y-do a Llwyd y Baw (Dunnock).
S诺n a sylwedd Adnabyddir adar eraill am eu s诺n - yr enghraifft amlwg yw'r Gwdihw ond fe gewch chi Clocder, Crecar a Clecar yr Eithin yn Sir y Fflint am Whinchat a chyfeiriad amlwg at s诺n yr aderyn sydd yn Bwm y Gors, Bwmp y Gors a Tabwr y Baw am Bittern neu Aderyn y Bwn yn 么l y g芒n werin. Yr un modd Sgrech y Coed.
Diau mai cyfeiriad at glep yr hen fuddai glep ar waith barodd i rywun alw Aderyn y Bwn yn Buddai hefyd - ond mae'n beryg dyfalu fel hyn am ffynhonnell gair heb fod yn si诺r o'ch siwrnai.
Cyfrol denau yw hon, dim ond 79 o ddalennau, ond y mae ynddi gyfoeth nad yw ei thrwch yn gymesur o gwbl ag ef.
Mae wedi ei rhannu yn ddwy:
Cymraeg - Lladin - Saesneg
Saesneg - Lladin - Cymraeg
Ac mae llyfryddiaeth fuddiol yn y cefn.
Aderyn alltud Un o Borthmadog yw'r awdur ond yn "aderyn alltud" chwedl nodyn yn y llyfr; wedi mudo i Glydach, Cwm Tawe. Mae'n gyfarwydd ar y radio fel un o gyfranwyr y rhaglen fore sadwrn, Galwad Cynnar.
Mae'r teitl Rhagor o Enwau Adar yn awgrymu mai cyfrol atodol yw hon a chyhoeddwyd y gyntaf yn 1994 ond meddai Dewi Lewis:
"Ers 1994 newidiodd statws nifer o rywogaethau, ychwanegwyd nifer o enwau newydd i'r rhestr genedlaethol, enwyd ac ail-enwyd rhai rhywogaethau o fewn dosbarth gwyddonol. I ddweud y gwir bu cryn hollti plu ym myd adar.
"Cynyddodd y nifer sydd yn gwylio adar ac o ganlyniad cynyddodd y cofnodi. Yng ngoleuni hyn i gyd meddyliais mai da o beth fyddai cyflwyno rhestr newydd o enwau adar," meddai.
Diolch amdani; bydd yn cael ei chadw heb fod yn bell o gyfrol fach hwylus Iolo Williams, hefyd o Wasg Carreg Gwalch. Glyn Evans
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Llyfr Adar Iolo Williams

Blodau Gwyllt

Galwad Cynnar

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|