成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfrau Plant
Nain wahanol, cerddi cyntaf a j么cs!
  • Adolygiadau llyfrau plant gan Anna-Marie Robinson

  • Ble mae e, Jac? gan Rob Lewis
  • Cerddi Cyntaf gan Myrddin ap Dafydd
  • Jocs Gwirion Gwyn a Dai - gan Gwyn Morgan a Dai Owen

  • Ble mae e, Jac? gan Rob Lewis (addasiad Elin Meek) Gwasg Gomer. 拢4.99. Clawr y llyfr
    Er bod y stori hon yn defnyddio hen gynhwysion - nain a'r blaidd - mae'n eu cymysgu yn ris锚t wreiddiol sy'n haeddu bod yn brif gwrs unrhyw sesiwn stori cyn gwely gyda'r plantos.

    Nain ydy'r prif gymeriad ac er ei bod ar yr olwg gyntaf yn gymeriad ystrydebol sy'n gwau - yn gwau cymaint nes ei bod angen peiriant gwau - mae'n ddynes ddewr, sydd ddim ofn mynd ar gefn ei beic i ddilyn blaidd sydd wedi dwyn ei pheiriant!

    Mae'n dal y blaidd - a'i ganfod yn byw ar ei ben ei hun ar ben mynydd yng nghanol Cymru - ef yw'r Blaidd Olaf yng Nghymru.

    Benthyg y peiriant oedd y blaidd ar gyfer gwau siwmper iddo'i hun - mae am feistroli'r grefft ar 么l dysgu nifer o sgiliau eraill fel darllen a ieithoedd.

    Mae'n ddiflas am ei fod yn byw ar ben ei hun ond mae nain yn tosturio drosto a'i ddarbwyllo fod ganddo yrfa fel cyflwynydd teledu gan fod bleiddiaid mor brin erbyn hyn!

    A phan fo'r blaidd wedi gwneud ei arian, mae'n prynu'r t欧 drws nesa i nain yn Abergwaun - ac mae hithau yn gwau siwmper iddo!

    Stori fach wreiddiol, annwyl, eithaf hawdd i'w deall ac ar ffurf penillion sy'n odli - er nad wy'n si诺r sut y cafodd y blaidd ei raglen deledu ei hun! - ac mae yma luniau penigamp i gydfynd a'r penillion.

  • Cerddi Cyntaf gan Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.95.

  • Clawr y llyfr Ar yr olwg gyntaf, mae hwn hefyd yn debyg i'r llyfrau traddodiadol fu o gwmpas ers rhai blynyddoedd; ond porwch ynddo - does dim rhaid mynd yn bell - ac mae yna drysorau newydd i'w darganfod.

    Roeddem wrth ein boddau gyda'r llyfr yma, ac yn wahanol iawn i'r llyfr J么cs, isod, bu'n rhaid i mam a dad ei ddarllen i gyd yr un noson, gymaint oedd y mwynhad.

    Cerddi syml, cerddi digri, cerddi byrion a rhai hir - i gyd yn wreiddiol ac yn hawdd iawn i'w darllen a'u llefaru.

    Yn addas i blant o tua thair oed i fyny.

    Mae na hiwmor arbennig yn perthyn i nifer ohonyn nhw sydd yn trosglwyddo yn arbennig o dda i blant ac yr oedd ein dau ni, sy'n bedair a chwech oed, yn ysu clywed mwy - ond roedd hi wedi hen basio amser gwely erbyn hynny.

    Un o'r ffefrynnau oedd Hwiangerddi newydd - sydd yn ail bobiad o ddau hen bennill:
    Gee Ceffyl Bach yn cario'r Jac Do,
    A ddaeth i lawr o ben y to,
    Aeth Gee Ceffyl Bach dros y gamfa wen:
    Syrthiodd Jac Do a thorri'i goes bren.

    Mae'n llyfr gwerth ei brynu hefyd am y lluniau arbennig sydd ar bob tudalen.
    Safonol iawn. Braf ei weld.

  • Jocs Gwirion Gwyn a Dai - gan Gwyn Morgan a Dai Owen. Lluniau gan Dai Owen. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.95.

  • Clawr y llyfr Hwn ydy'r llyfr J么cs cyntaf inni ei gael fel teulu a doedd dim byd yn plesio'n well na gweld y tudalennau cyntaf yn llawn o j么cs Cnoc Cnoc gan ein bod wedi hen flino ar y ddwy roedden ni yn eu cofio - Dr a Gwdi - a dydy Dr Pwy a Gwdi Pwy ddim cweit yn gweithio yn y Gymraeg beth bynnag!

    Cychwyn da ond er bod yna ragor o Gnoc Cnocs yn y llyfr fe gollo ni ddiddordeb ar 么l ychydig o dudalennau.

    Dyna'r peth gyda llyfr fel yma - dydi o ddim yn un i dreulio gyda'r nos ynddo.

    Ar ben hynny, mae nifer o'r j么cs yn fersiynau Cymreig ar hen, hen, j么cs eraill 'da ni wedi'u hen anghofio unwaith inni fynd dros y 10 oed.

    Wedi dweud hynny, roeddem yn hoffi hon:
    Be ydy enw'r lleidr sydd yn dwyn sbeisus?
    Twm Sion Balti!

    Llyfr iawn i droi ato o dro i dro a cheisio cofio'r j么c ar gyfer yr ysgol y diwrnod wedyn.

    Yn addas fuaswn i'n dweud i blant dros chwech oed.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Llyfrau Nadoligaidd i blant


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy