成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Wir Yr!
Atgofion plaen a phendant
  • Adolygiad Gwilym Owen o Wir Yr! gan Maldwyn Lewis. Gwasg Carreg gwalch. 拢6.90.


  • Mae hi wedi bod yn gyfnod da i Flaenau Ffestiniog.
    Nid o anghenraid yn nhrefn pwysigrwydd fe ddaeth Glyn Wise, y llanc 18 oed, yn ail ar Big Brother a'i goroni fel y Mab Darogan newydd sy'n mynd i arwain Cymreictod o'r anialwch.

    Llwyddodd Eigra Lewis Roberts i ennill coron Prifwyl Abertawe ac ar yr un pryd roi tipyn o sioc i'r sefydliad barddol Cymreig.

    Ac, wrth gwrs, cafodd Gwyn Stiniog - yr Athro Gwyn Thomas - ei ddewis yn Fardd Cenedlaethol Cymru fach.

    Ac yn awr, wele un arall o hogiau'r fro yn cyhoeddi cyfrol o atgofion diddorol, diddan a dadleuol.

    Plaen a phendant
    Maldwyn Lewis, pedwar ugain oed, ydi awdur Wir Yr!.
    Ond peidiwch a gadael i'w oed eich pryderu. Nid cyfrol henaidd a thrymaidd mo hon ond 250 o dudalennau o ysgrifennu personol, plaen a phendant.

    Clawr y llyfr Darlun o gymeriad unigryw a dorrodd ei g诺ys bersonol heb ofni'r canlyniadau.

    Mae'n stori sy'n mynd a ni o'i ddyddiau cynnar yn Stiniog i'r Coleg Normal a Choleg y Brifysgol ar y Bryn ym Mangor a Choleg y Bedyddwyr.

    Troi wedyn i Lundain am gyfnod cyn ymdaflu i fyd busnes ac yswiriant yng Nghymru a Seland Newydd.

    Ac mae Maldwyn Lewis wedi llwyddo i groniclo'r cyfan mewn dull hynod o ddarllenadwy.

    Cyfoeth o brofiad
    Ac yn fwy na dim yr hyn sydd ganddo yw cyfoeth o brofiad sy'n dal ein sylw o'r dechrau i'r diwedd.

    Troi cefn ar yrfa yn athro ysgol a gweinidog yr efengyl gyda'r Bedyddwyr wnaeth Maldwyn Lewis.

    Mae darllen am ei brofiadau yn Y Coleg Normal a Choleg y Bedyddwyr yn agoriad llygaid.

    A'r hyn a'm trawodd i oedd bod y byd addysg - ac yn sicr enwad y Bedyddwyr - wedi cael clamp o golled wrth iddo droi cefn ar y naill a'r llall.

    Cenedlaetholwr ffyddlon
    Ond yr hyn sy'n roi gwir flas a gwerth yw'r darlun a gyflwynir ynddi o Maldwyn Lewis y cenedlaetholwr.

    Ymunodd 芒 Phlaid Cymru cyn cyrraedd ei 18 oed a bu'n gwbl ffyddlon i'r genhadaeth honno dros y blynyddoedd.

    Ac mae gen i barch i genedlaetholwyr fel Maldwyn Lewis - unigolion a safodd dros eu hegwyddorion yn ystod y cyfnod pan oedd gwneud hynny yn golygu bod yn destun dychan a gwawd.

    Nid cenedlaetholwyr tywydd braf mo'r rhain a diolch amdanyn nhw.

    Llywodraeth leol
    Y meysydd y dewisodd o ymlafnio ynddyn nhw sy'n cael sylw manwl yn y gyfrol a'r rheini wedi eu cyfyngu yn bennaf i wleidyddiaeth llywodraeth leol.

    Mae'n ein tywys ar hyd llwybrau dirgel gweithredu ar Gyngor Tref Porthmadog, Cyngor Sir Caernarfon a Chyngor Sir Gwynedd yn y dyddiau pan oedd M么n, Arfon a Meirion dan yr un ambarel.

    Mae yna gryn dipyn o fanylu - a hynny bob amser yn ddiddorol - ar sut y bu iddo ef a'i gyfeillion o gyffelyb anian gael eu maen i'r wal.

    A dydi o ddim yn brin o awgrymu bod hynny weithiau wedi golygu peth dichell a cholli tymer - ond llwyddiant y genhadaeth oedd bwysicaf bob tro.

    Er bod Maldwyn Lewis yn ymddangos weithiau braidd yn unllygeidiog y mae bob amser yn barod i roi parch dyladwy i'r cewri o gynghorwyr eraill y bu yn eu cwmni.

    Mae'n rhestru pobl fel Alwyn Roberts, R H Owen, Llanberis, Tom Jones, Llanuwchllyn, Tom Jones, Penmachno, Tom Jones, Cemaes, Ifor Bowen Griffith, Cyril Parry ac Alex Robertson heb s么n am rai fel W R P George a Dafydd Orwig .

    Cewri go iawn sy'n gwneud i rai o'n cynghorwyr presennol - ac hyd yn oed aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol - ymddangos fel sbarblis.

    Gallwn fynd ymlaen i s么n am bolis茂au Gwynedd yn arbennig - polisi iaith yr ysgolion a sut yr aed ati i ddewis athrawon.

    Gallwn hefyd ddadansoddi y camau a gymerwyd i ddewis Dafydd Wigley yn ddarpar ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghaernarfon yn 1974.

    Gallwn drafod penderfyniad i brynu a gwerthu'r Cob ym Mhorthmadog - ond gadawaf hynny i'r darllenwyr.

    Heb fod yn f锚l i gyd
    Ond mae'n deg fy mod, cyn cloi, yn dweud hefyd nad yw Maldwyn Lewis wedi canfod llwybr bywyd yn f锚l i gyd. Cariwyd croesau ac nid yw'n cuddio'r rheini dan garped y cyfrinachedd Cymreig arferol - a diolch iddo am hynny.

    Ydi, wir yr, mae hon yn gyfrol gwerth ei darllen ac yn ddarlun cofiadwy o gyfnod a newidiodd y ffurfafen wleidyddol yn un rhan fechan o Gymru.

    Ac fe gawn ninnau y fraint o ddarllen am gyfraniad un oedd yn un o benseiri y newid hwnnw.

    A fu'r newid hwnnw o fantais neu beidio? Hanes fydd yn penderfynu hynny.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy