成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhywun yn Rhywle
Cyffro a ffantasi cerddi plant
  • Adolygiad Lowri Rees o Rhywun yn Rhywle gan Tudur Dylan Jones. Gwasg Gomer. 拢4.99.


  • "Sgwennwch am y pethau rydych yn gyfarwydd 芒 nhw. Sgwennwch am y pethau rydych chi'n eu gweld bob dydd ac am eich profiadau chi. Rhowch eich calon yn y gwaith."

    Dyma gyngor awdur y gyfrol o gerddi. Rhywun yn Rhywle, y Prifardd Tudur Dylan Jones, wrth iddo geisio annog blant i greu cerddi.

    Dywed cyn Fardd Plant Cymru ac enillydd Cadir yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith iddo ef gael ei syniadau i ysgrifennu cerddi i blant o fywyd pob dydd:

    Clawr y llyfr "Mae rhai pethau mae pobol yn ei ddweud yn aml yn taro ar syniad yn fy mhen. Weithiau bydda i'n clywed dim ond gair ac mae hynny'n gwneud i'r meddwl ddechrau troi."

    Gwefr a mwynhad
    Mae'n cydnabod iddo gael gwefr a mwynhad yn ysgrifennu'r gyfrol Rhywun yn Rhywle ac yn y rhagair mae'n annog darllenwyr i fod yn greadigol gan eu gwahodd i dynnu lluniau neu ymuno ym myd hwyliog y cerddi.

    Yn bendant mae'n gasgliad gwych a fydd yn sbardun i blant i chwarae 芒 geiriau ac arbrofi 芒 barddoni.

    Ar dudalen pump mae pennill sy'n caniat谩u i blant ddyfalu a llenwi'r bylchau adawyd gan yr awdur a hynny'n sicr yn fodd i roi hyder iddynt.

    Gan nad yw Tudur Dylan, yn 么l ei gyfaddefiad ei hun, yn arbenigwr ar wneud lluniau cafwyd yr arlunwraig Hannah Matthews i greu lluniau atyniadol ar gyfer pob dalen.

    "Dydw i ddim yn gallu tynnu lluniau, ond dwi'n lwcus fod arlunydd wedi mynd ati i wneud cerddi yma'n hardd i'r llygad," meddai Tudur Dulan.

    "Gallwch chi fynd at i dynnu lluniau eich hunain i fynd efo'ch cerddi chi."

    Hawdd cofio
    Mae'r cerddi yn fyr, yn fachog ac yn rhai hawdd i'w cofio.

    Mae elfen gref o ffantasi yn perthyn i lawer o'r cerddi gan eu gwneud yn gyffrous ac yn apelgar i blant.

    Gall plant, hefyd, uniaethu gyda'r hiwmor syml mewn cerddi fel Tan Gwyllt.

    Dwi'n teimlo i Tudur Dylan gael hwyl hefyd ar y gerdd Jac y Do lle mae'n rhoi tro newydd i hen hwiangerdd.

    Mae'r gyfrol yn gyfle hefyd i oedolyn ddianc unwaith eto i fyd plentyn.

    Casgliad cyffrous, felly, o gerddi sydd yn llawn direidi a chyffro, sydd a'u rhythmau a'u hodlau'n tasgu oddi ar y tudalennau gan greu byd arbennig y dychymyg sydd yn llawn direidi a chyffro.
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy