成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffordd y Pererinion
'Celfyddyd nad yw'n dyddio . . .'
  • Adolygiad Cyril Jones o Ffordd y Pererinion gan James Nicholas. Gwasg Gomer. 拢8.50.


  • Y gyfrol Olwynion oedd fy nghyflwyniad cyntaf i waith y bardd o Dyddewi.
    Ond y gerdd a'i gwnaeth yn enwog fel bardd cynganeddol oedd ei awdl Yr Alwad a enillodd y gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969.

    Clawr y llyfrGan nad yw James Nicholas wedi cyhoeddi cyfrol o gerddi ers ennill y gadair honno, roedd darllen yr awdl ar 么l cynifer o flynyddoedd yn y gyfrol hon yn brofiad a oedd yn ddiddorol ar sawl cyfrif, ac yn tanlinellu rhai pwyntiau sy'n ei nodweddu fel bardd.

    Heb ddyddio
    Pe baech chi'n darllen y rhan fwyaf o awdlau'r Eisteddfod Genedlaethol a ysgrifennwyd dros chwarter canrif yn 么l, fe fyddai yn eich taro ar unwaith eu bod wedi dyddio.

    Mae'r Alwad yn eithriad ac mae nifer o resymau am hyn fel y ceisiaf nodi wrth drafod ei waith.

    Fel celfyddyd y cerflunydd Henry Moore, sy'n sail iddi, mae hi'n awdl hynod ddarllenadwy a'r modd y mae'r bardd wedi cyfuno geiriau elfennol a dealladwy mewn cynghanedd sy'n ymddangosiadol syml sy'n dal i roi'r un pleser i'r darllenydd heddiw wrth ei hailddarllen.

    A 'dyw darllen gwaith J.N ddim yn ddigon, yn anad yr un bardd arall mae'n rhaid ei adrodd yn uchel.

    Llinellau gwfreiddiol - ond syml - fel 'y mae yno fel mynydd'/'Mae anadl yn y meini'/'Cerfio llun crefu llonydd -y wraig hon,
    A'i hymylon fel brig y moelydd.'

    'Dyw gwir gelfyddyd, pa gyfrwng bynnag a ddefnyddir, boed hwnnw'n air neu garreg, ddim yn dyddio.

    Y gerdd a rydd deitl i'r gyfrol yw'r englynion agoriadol gwych Ffordd y Pererinion a ysgrifennwyd yn 2002 - ac maen nhw'n profi nad yw'r bardd wedi colli'i ddawn fel un o'n tri neu bedwar bardd cynganeddol gorau a feddwn yng Nghymru.

    Mae gofynion caeth y gynghanedd yn tueddu i ladd y 'llais' a ddylai nodweddu pob bardd gwerth ei halen.

    Dim ond y goreuon a lwyddodd i fynegi'r 'llais' hwn fel ei bod yn bosib i ni eu hadnabod yn syth ar 么l cychwyn darllen eu gwaith.

    Daw beirdd fel Dic Jones a Twm Morys i'r cof ar unwaith yn y cyswllt hwn ac mae J芒ms Nicholas yn perthyn i'r un cwmni dethol yn fy marn i.

    Mae'r englynion hyn yn enghraifft o 'lais' y bardd hwn ar ei orau.

    Yr unoliaeth o safbwynt them芒u i ddechrau. Pa fardd cyfoes arall a allai arddangos yr un adnabyddiaeth drylwyr o hen lwybr y pererinion yn Sir Benfro a'r llefydd sydd ar hyd-ddo?

    'Haulfan yw llawer cilfach -yn agor
    Rhwng Niwgwl a Solfach;
    Y glannau heb eu glanach,
    Br枚ydd byw aberoedd bach.'

    A pha fardd cyfoes arall a allai ganu mor ddidwyll am arwyddoc芒d Cristnogol y llwybr hwn? Wele englyn arall o'r gyfres i brofi hynny:

    'Mae rhyw gryndod yn codi - o'r galon
    Awr gweled Tyddewi;
    A rhoddaf air o weddi
    Nawr i Dduw o'i chyrraedd hi.'

    Cynildeb Waldoaidd
    Mae rhyw ddidwylledd a chynildeb Waldoaidd yn perthyn i'w waith ac oherwydd hynny mae'n argyhoeddi bob tro. Efallai mai dyma fantais bardd nad yw'n ysgrifennu a chyhoeddi gormod.

    Mae 'na bethau ychwanegol yn cyfrannu at 'lais' bardd wrth gwrs.

    Cyfeiriais at symlder ei linellau eisoes. Ond ceir elfen arall a berthyn i'r symlder hwn; ni chollodd ei gynildeb clasurol. Mae'r gerdd benrydd gynganeddol isod y arddangos hyn hefyd. Ac mae'n ddigon byr i'w chynnwys i gyd:

    Y GAIR A'R GERDD
    Y gair
            y gerdd
    Anadl y gair
            hoedl y gerdd
    Had y gair
            bywyd y gerdd
    Gwraidd y gair
            a greodd y gerdd
    Gwraidd y gair yw'r gerdd i gyd.
    O safbwynt ei chynildeb mae'r gerdd hon fel englyn penrhydd. Ac yn tanlinellu hefyd un o'r them芒u eraill sy'n llinyn yn ei waith - sef y weithred o greu.

    Cristnogol
    Ceir llawer o gywyddau ac englynion i bobl ynddi, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig 芒 chrefydd mewn rhyw fodd neu'i gilydd.

    Gresyn na ddatblygodd J芒ms Nicholas y them芒u cynnar y cyfeiriwyd atynt yn fwy trwyadl. Dyna'i gryfder fel bardd a dydw i ddim yn teimlo bod yr holl gerddi teyrnged a geir yn y gyfrol, er eu bod yn ddidwyll iawn, wedi ymestyn a dyfnhau'i weledigaeth fel bardd cynganeddol, Cristnogol.

    Gwyddom, wrth gwrs, am ei ymroddiad ymarferol mewn sawl cyfeiriad eisteddfodol a chrefyddol arall yn ystod ei fywyd.

    Gwahanol i'r lleill
    Un gerdd deyrnged sy'n wahanol i'r gweddill yw'r gerdd i'r cymeriad lliwgar arall hwnnw o Sir Benfro, T. E Nicholas.

    Ysgrifennwyd hon ar ffurf penillion odledig digynghanedd ac mae'n fwy Gwenalltaidd ei naws. Dyma'r pennill agoriadol:

    'Aderyn dieithr a fuost ti yng Nghymru'r ugeinfed ganrif,
    Canrif cenedlaetholdeb ein cenhedlaeth ni:
    Sosialydd, Comiwnydd, gwerinwr o Gymro, Cristion,
    Anodd rhoi un label arnat ti.'

    Ni chyfeiriais at y cyfieithiadau na'r emynau, yr englynion unigol gwych na'r cerddi mwy gweddigar eu byrdwn, ond profiad gwirioneddol bleserus oedd dychwelyd at waith J.N yn y gyfrol hon y mae delweddau hyfryd ei chlawr o waith Sarah Young yn gweddu i'r dim i'r gyfrol a'i chynnwys.
  • Gweler Gwales


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy