成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Ddraig Goch
Clasur o nofel dditectif
  • Adolygiad Lyn Ebenezer o Y Ddraig Goch Emlyn Roberts. Gwasg Gwynedd. 拢6.95.


  • A ninnau'n byw mewn gwlad sy'n cynhyrchu llenyddiaeth, caneuon a rhaglenni radio a theledu ail-law, yn amrywio o efelychiadau i gyfieithiadau, braidd yn betrusgar y dechreuais ddarllen Y Ddraig Goch

    . Clawr y llyfr Erbyn diwedd yr ail baragraff roeddwn i'n barod i roi'r gorau iddi.

    Efelychiad noeth o arddull Chandler, Spillane a Hammett, meddwn i wrthyf fy hun.

    Yn ffodus, darllenais ymlaen a chael fy nghyfareddu gan nofel Emlyn Roberts.

    Mae efelychu a chyfieithu wedi mynd yn bla yng Nghymru a gadewch i mi unwaith eto ganu fy nhiwn gron: Wela'i ddim pwrpas o gwbwl mewn cyfieithu llenyddiaeth o'r Saesneg i'r Gymraeg.

    Yn anffodus, ry'n ni'n byw mewn gwlad ddwyieithog. O'r herwydd, pam ddylwn i ddarllen gwaith J K Rowling neu Ruth Rendell yn y Gymraeg pan fedrai eu darllen yn y Saesneg gwreiddiol?

    (Dydi'r ffaith na fynnwn eu darllen, beth bynnag, mewn unrhyw iaith nac yma nac acw).

    Mwy o ddeunydd gwreiddiol Cymraeg sydd ei angen, mwy o gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg.

    Cwbl Gymreig
    A phan gychwynnais ddarllen Y Ddraig Goch, dyma deimlo na fyddai'n ddim byd amgenach nag efelychiad slafaidd o arddull awduron nofelau ditectif America yn 么l yn y Tridegau.

    Buan y sylweddolais fy nghamgymeriad.
    Ydi, mae'r arddull bytiog, slic, a'r ffraethebion un-llinellog yn atgoffa rhywun o anturiaethau Philip Marlowe neu Sam Spade.

    Ond cryfder hon yw bod yr arddull yn gwbwl Gymraeg, a'r stori yn troi o gwmpas rhywbeth na fedrai fodoli mewn unrhyw wlad arall - yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Cofiaf i John Ellis Williams unwaith leoli llofruddiaeth mewn Eisteddfod Genedlaethol yn ei nofel Y Gadair Wag, nofel a gyfieithodd i'r Saesneg fel Murder at the Eisteddfod.

    Roedd honno'n nofel yn null Agatha Christie ond mawredd Y Ddraig Goch yw ei amarch a'i haerllugrwydd.

    Yfed a smygu gormod
    Sam Spade y nofel hon yw Jaci Nora, dic preifat sy'n yfed gormod, smygu gormod a mentro gormod. Ac sy'n troi'n ormodol ymysg ei atgofion.

    O'i gwmpas mae llu o gymeriadau lliwgar sydd 芒 rhai o'r enwau mwyaf dyfeisgar a welwyd mewn nofel Gymraeg erioed.

    Meddyliwch am ferch feindlws gyda'r enw Lois Calon.
    A dyna'i chi'r diweddar Lili Leddf.
    A beth am Stirling Moth?
    A Glen Co? (Ydi, mae'r lleoliad yn atgoffa rhywun o Gaernarfon).

    A beth am Brifardd benywaidd o'r enw Melangell Fasackerley?
    A'r Gorseddwr pybyr hwnnw o Ddwygyfylchi sy'n mynnu cael ei adnabod fel Gyfylchi Gyfylchi?

    Dim ond un awdur arall fedra'i gofio iddo greu cymeriadau mor lliwgar a bizzare, a Glyn M Ashton oedd hwnnw, yn ysgrifennu fel Wil Cwch Angau n么l yn y Chwedegau.

    Llofrudd dieflig
    Wn芒i ddim manylu ar y stori ymhellach na dweud bod y Brifwyl yn ymweld 芒 Chaerlloi.
    Ond a oes heddwch?
    Dim ffiars o beryg!

    Mae Gorseddigion yn mynd yn ysbail i lofrudd dieflig, ac mae Jaci Nora yn y canol.

    Yn y canol hefyd, yn allwedd i'r cyfan, mae'r Ddraig Goch.

    Mewn dwylo llai medrus gallai'r holl beth fod wedi troi'n ffars. Ond na. Mae yma blot cadarn, arddull mor fywiog ag arian byw, ymadroddion pytiog yn tanio fel bwledi, a llwyth o hiwmor.

    Ond yma ac acw, ynghanol yr holl reiat a'r hwyl, ceir adegau tyner a thrist.

    Mae'n amlwg fod dylanwad The Maltese Falcon yma, ond bu'r awdur yn ddigon cyfrwys a digywilydd i achub y blaen drwy gyfeirio at nofel fawr Dashiel Hammett yn ei nofel ei hun. A dyna dynnu'r carped o dan fy nhraed, fel petai.

    Os defnyddio nofel dditectif fel patrwm, anodd meddwl am un well na The Maltese Falcon.
    Fe'i hysgrifennwyd gan Dashiel Hammett yn 1930, a throdd y ffilm o'r nofel i fod yn glasur gyda s锚r fel Humphrey Bogart, Sidney Greenstreet a Peter Lorre.
    Dyma, hwyrach, y ffilm dditectif ddiffiniol.

    Ychwaneger 'gwych'
    Petawn i'n dweud wrthych fod plot Y Ddraig Goch yn clymu'r Eisteddfod 芒 Phatagonia a hyd yn oed Al Qaaeda, mae'n si诺r y byddech yn ystyried y cyfan fel rwts llwyr.

    Ond na, mae dychymyg yr awdur yn dr锚n, a'r cyfan mewn rhyw ffordd ryfedd, yn gwneud synnwyr ac yn dod i fwcwl yn gwbwl annisgwyl ond eto'n synhwyrol.

    Disgrifir Emlyn Roberts yn y broliant ar y clawr cefn fel 'actor, ysgrifennwr a cherddor'. At hynna, ychwanegwch 'nofelydd', ac at 'nofelydd' ychwanegwch 'gwych'.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy