成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwlad fy Nhadau
Hen hanes ein hanthem
  • Adolygiad Cyril Jones o Gwlad fy Nhadau gan Gwyn Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.99.


  • Ganrif a hanner yn 么l cyfansoddodd y tad a'r mab o Bontypridd eiriau ac alaw ein hanthem genedlaethol.

    Dyna'r ffeithiau moel a fu'n hysbys i'r rhan fwyaf ohonom ac mae'n rhyfedd ar un olwg na wyddom ni fawr ddim am hanes y ddau, na hanes cyfansoddi'r anthem, na'r modd y datblygodd hi'n un o anthemau cenedlaethol mwyaf cynhyrfus y byd.

    Clawr y llyfr Ond rhwng hydref y llynedd a'r haf eleni ailadroddwyd hanes - mewn ffordd wahanol - pan barat么dd deuddyn arall at dathlu'i phen-blwydd mewn modd teilwng.

    Cafodd y naill, y diweddar Dafydd Meirion y weledigaeth o gomisiynu cyfrol yn olrhain yr hanes a chafodd y llall, Gwyn Griffiths o Bontypridd, yr egni i gwblhau'r gyfrol mewn cwta chwe mis.

    Ac yn dilyn marwolaeth trist Dafydd Meirion rai wythnosau cyn cyhoeddi'i weledigaeth camodd deuddyn arall i'r adwy - Alan Jones, Stiwdio 23 a Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch a dygwyd dwy gyfrol - yn nwy iaith Cymru - i olau dydd mewn pryd ar gyfer y dathliad.

    Yn rhyfeddod
    Ar un olwg mae'n rhyfeddod bod yr awdur wedi corlannu cymaint o hanes cefndir yr anthem mewn cyfnod mor fyr.

    Bu'n casglu a lloffa ymhob man: atgofion disgynyddion y tad a'r mab - pobl fel Mrs Barbara Jenkins, Mynydd Cynffyg a Dr David Williams (brawd y gwleidydd, y diweddar Ddr Phil Williams).

    Cofnododd ddarnau o farddoniaeth y tad oddi ar hen lyfrau cownt y bardd-wehydd.

    Cafodd gopi o driban o'i waith gan berchennog presennol tafarn y Llanofer. Tafarn a gedwid ar un adeg gan frawd Evan James.

    Wyddoch chi?
  • Ydych chi'n gwybod p'un ai'r alaw ynteu'r geiriau ddaeth gynta?
  • Wyddoch chi rywbeth o gwbl am yr alaw Glan Rhondda?
  • Roedd beirdd llawer enwocach nag Evan James - fel Ceiriog, er enghraifft, 芒'u bryd ar ysgrifennu anthem. Sut yn y byd y cipiodd geiriau ac alaw dau werinwr o Bontypridd galonnau cenedl gyfan?

    Mae'r atebion - a llawer rhagor o atebion rhwng deuglawr y gyfrol.

    Dyfnach na'r geiriau
    Ond treiddiodd Gwyn yn ddyfnach na'r geiriau a'r alaw.

    Portreadodd deulu'r Jamesaiaid - hanner y teulu yn hanu o gefndir gwerinol a'r hanner arall o gefndir uchelwrol.

    Symudodd y teulu i Bontypridd yn 1847 a chawn bortread byw iawn o'r dref gymharol fechan, Gymraeg ei hiaith hon, yn y cyfnod hwnnw yn un o benodau'r gyfrol.

    Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd 芒 chofeb enwog y ddau ym mharc Ynysangharad - ac mae pennod ar honno yn y gyfrol hefyd - ond wyddoch chi ble mae'r Maen Chw欧f ac am ei gysylltiad 芒 chymeriadau lliwgar fel Iolo Morgannwg a Dr Price, Llantrisant.

    Pwy oedd 'clic y bont' a beth oedd cysylltiad y tad a'r mab 芒'r rhain i gyd?

    Casgliad o weithiau
    Ar ddiwedd y gyfrol ceir casgliad o weithiau barddol Evan - pennod ddifyr dros ben sy'n profi ei fod yn fardd gwlad blaengar a oedd yn cofleidio'r newydd yn ogystal 芒 pharchu 'hen wlad' ei dadau.

    Ar ei orau roedd yn dribannwr ac englynwr medrus. Ysgrifennodd ar them芒u ysgafnach na'r gerdd wladgarol a'i gwnaeth yn enwog.

    Cyfeiriais at un triban yn barod - dyma fe:
    Lle 'nafus yw Llanofer
    I 诺r fo'n yfed llawer,
    Fe syrthiodd Wiliam Morgan Fawr,
    糯r salw, i lawr i'r seler!

    Sylwch ar ei ddefnydd crefftus o'r gynghanedd yn y triban hwn.

    Canmol nid difr茂o
    Roedd hi'n duedd gan lawer o feirdd gwlad i ddifr茂o'r cynnydd mewn diwydiant a oedd ar droed ar y pryd. Nid felly Evan James - mae ganddo gerdd yn clodfori'r rheilffordd newydd a agorwyd yng nghyffiniau'r Bontnewydd (Pontypridd?) a Mynwent y Crynwyr.

    Mae e'n gweld 'dirfawr les芒d' y dod yn ei sgil.

    Waeth i mi gyfaddef fy mod i a Gwyn yr awdur yn dipyn o f锚ts - yn ddau Gardi sy'n byw ym Mhontypridd ond mae'n bleser gen i ddweud nad oherwydd hynny rwy'n eich cymell i brynu'r gyfrol hon ond oherwydd ei bod hi'n gyfrol wirioneddol ddifyr ac yn goleuo hanes a fu'n dywyll i lawer ohonom hyd yma.

    Mae hen dafarn y Llanofer, cyrchfan y tad a'r mab mae'n debyg - a lle bydda i a Gwyn yn cael peint yn aml, yn un o'r ychydig dafarnau hen ffasiwn go iawn sydd ar 么l yn Mhontypridd.

    Goroesodd yng nghysgod yr A470 a rhuthr yr unfed ganrif ar hugain - rhywbeth yn debyg i hanes ein hanthem.
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy