成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pobol a Phethe Dimbech
Difyrrwch tref a'i phobl
  • Adolygiad Hafina Clwyd o Pobol a Phethe Dimbech gan R M (Bobi) Owen . Llyfrau Llafar Gwlad rhif 68. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.50.


  • Ym mha dref yng ngogledd Cymru y buasech chi'n disgwyl cael pobl yn arddel y glasenwau:
  • Dei Cockney (am nad oedd erioed wedi bod yn Llundain)
  • Glyn Cysgod Angau (yr ymgymerwr angladdau)
  • Ned y Cyfiawn (yn cofio'r Diwygiad)
  • Ernie Ding Dong (y clochydd)
  • Robert y Cruelty (yn gweithio i'r NSPCC)
  • Joe Wisgi ( nid am ei fod yn hoff o'r ddiod honno ond talfyriad o Joe Wisg ei Din am un 芒 gormod o ddeunydd yn nhin ei drowsus) a
  • Charabanc Liz (dynes fawr).

    Clawr y llyfr Ai yn Rhosllannerchrugog enwog am ei lysenwau yr oedd y rhain yn byw?
    Nage wir. Yr enw Romani ar y lle oedd Tref y Cwn.
    Yn swyddogol: Dinbych.
    Ar lafar: Dimbech.
    Tref hanesyddol llawn cymeriad fu'n gartref i nifer o'n henwogion - Thomas Gee a Gwilym R; Dr Kate a T Gwynn Jones, Frank Price Jones ac Emlyn Hooson a nifer o rai eraill.

    Ysfa i chwilota
    Ceir cyflawnder o ffeithiau difyr am y dref yng nghyfrol 68 o Llyfrau Llafar Gwlad sef Pobol a Phethe Dimbech gan R M (Bobi) Owen.

    Yr oedd yna Bob Owen arall ar un adeg ac fel hwnnw y mae Bobi Owen, y cyn brifathro, hefyd wedi'i eni 芒'r ysfa chwilota ac 芒 diddordeb mewn hanes lleol.

    Os ydych eisiau gwybod rhywbeth am Ddinbych, gofynnwch i Bobi ac mi gewch yr ateb.

    Mae ei wreiddiau'n ddwfn yn y dref er ei fod hefyd yn arddel Elis Owen yr hynafiaethydd o Gefn y Meysydd fel un o'i hynafiaid.

    Bu Bobi Owen yn cyfrannu colofnau misol i'r Bigwn - papur bro Dinbych - ers blynyddoedd a chasgliad o'r rheiny yw crynswth y gyfrol ddifyr hon.

    Mae'n s么n am ei blentyndod yng nghesail y teulu a thaid a nain yn rhan bwysig o'i fagwraeth.

    Cofio dyddiau ysgol hapus wedyn cyn mynd ati i drafod y gwahanol strydoedd a'r siopau oedd arnynt ers talwm.

    Gan gynnwys cryn ddwsin o siopau cigydd - un ohonyn nhw yn dad yng nghyfraith i T Gwynn Jones a fu'n gweithio yn y dref ar staff Y Faner wrth gwrs.

    Hen arferiad digon iasoer
    Mae o hefyd yn cofio ambell i hen arferiad digon iasoer megis hwnnw pan aeth gyda'i fam "i weld corff yr hen Mrs Cotton yn ei harch oedd wedi'i gosod ar gownter y siop.

    " Yn 么l yr arfer bryd hynny bu rhaid i mi gyffwrdd 芒 thalcen yr ymadawedig 芒'm llaw a hefyd roi pisyn chwe cheiniog yn y fowlen gyfagos fel cyfraniad tuag at dreuliau'r claddu."

    Adran ddifyr arall yw honno am rai o gymeriadau'r dref: pobl fel Solly Hyman (stwcyn bach boliog); Geraint Vaughan Jones (y nofelydd oedd bob amser yn meddwl mai ef ac nid neb arall oedd yn iawn) Dr Thomas (y bardd feddyg) a Jac y Big a'i filgi brith.
    A'r annwyl Fathonwy wrth gwrs.

    Mrs Hughes Ysbrydion
    Cafodd Bobi Owen oriau o bleser yn ymweld 芒 Mathonwy a Mair yng Ngallt y Coed lle'r arferai Mrs Hughes Ysbrydion fyw ers talwm.

    Llyfrau a llythyrau a chylchgronau ym mhob man, tanllwyth o d芒n yn poeri i bob cyfeiriad a'r croeso'n wresog.

    Byddai wedi bod yn braf bod yn bry ar y wal yn gwrando ar y clecs!

    Adran ddiddorol arall yw honno am sgandalau lleol megis y cam a gafodd Caradog Prichard yn Eisteddfod 1939 a beth ar y ddaear ddigwyddodd i lyfrgell oludog William Lloyd Davies.

    Sydd yn ein hatgoffa o hanes Llyfrgell Coleg y Bala a achosodd gymaint o ing i D Tecwyn Lloyd.

    Yr eironi mawr yw y medrwn ninnau heddiw ofyn beth ar y ddaear ddigwyddodd i lyfrgell oludog Tecwyn?

    Tafodiaith y dref
    Rhaid oedd cael pennod am dafodiaith y dref wrth gwrs.

    Nifer fawr o'r geiriau hefyd yn gyffredin i bobl Dyffryn Clwyd a thref y Cathod (Rhuthun) ond llwyddodd Bobi i synnu Bedwyr Lewis Jones un tro gyda'r defnydd o'r gair d'warthu sef yr hen arferiad pan oedd un o wragedd y stryd yn cymryd y cyfrifoldeb am baratoi corff at y claddu (diweddu yw'r gair arferol).

    Egurhad Bedwyr oedd di a gwarth - y di yn negyddu - rhyddhau oddi wrth warth, tynnu ymaith warth.

    Bob Owen arall
    Trysor o gyfrol yw hon a thrueni na fyddai gan bob tref a phentref yng Nghymru ei Bobi Owen er mwyn gwarchod yr holl straeon ac atgofion sydd yn rhan mor bwysig o hanes cymdeithas.

    Ie, chwilotwr praff a chraff ydyw - o'r un anian 芒'r Bob Owen arall hwnnw o Groesor.

    Galwodd i'w weld un tro ar sbec ond nid oedd gan y "brenin yn ei gastell" amser i siarad wir nac amynedd chwaith gyda dyn dieithr wrth y drws.

    Pan glywodd fod ei ymwelydd o Ddinbych ffrydiodd rhibidires o enwau a dyddiadau allan ond yn dal heb amser i siarad.

    Ond pan glywodd mai Bob Owen oedd enw'r ymwelydd medde fo:
    "Wel tyd 芒 fo i mewn Nel, paid 芒'i adael yn sefyll yn y fan na."

    Addas felly yw'r englyn o waith Euryn Ogwen:
    Fo oedd Bob, ti yw Bobi, dau Owen
    Diwyd yn didoli
    Nes daw aur ambell stori
    I dynnu hud o'n doe ni.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy