成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pybcrol Llenyddol Caernarfon
Meddwi ar ddiwylliant
  • Adolygiad o Pybcrol Llenyddol Caernarfon. Golygydd, Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.50.

    Er y gall yr ymadrodd "pybcrol llenyddol" ymddangos fel enghraifft benigamp o wrtheirio mae'r ocsimoron ymddangosiadol hwn yn rhywbeth y mae bri mawr arno ym mhrifddinas Iwerddon.

    Yno, am rhyw ddecpunt y tro gallwch gael eich tywys o dafarn i dafarn gydag arweinydd ac actorion yn s么n am gysylltiadau llenyddol y gwahanol rai.

    Clawr y llyfr A chyda chymaint o lenorion y wlad honno heb fod yn swil o godi'r bys bach mae digon i s么n amdano.

    Does dim rheswm, wrth gwrs, pam na ddylai'r un peth fod yn wir am drefi yng Nghymru. Wedi'r cyfan, nid Dylan Thomas yw'r unig un o'n llenorion a fu mewn tafarn!

    Mae Myrddin ap Dafydd i'w ganmol am gyflwyno pybcrol diwylliannol neu feddwad i'r diwylliedig fel rhan o 诺yl lyfrau newydd yng Nghaernarfon dros 诺yl Mai 2006.

    Gyda'i holl gysylltiadau hanesyddol, llenyddol a diwylliannol a'i "lleng o feirdd a llenorion" anodd meddwl am le gwell na Chaernarfon i roi cychwyn ar y fath gymowta ac mae'r arweinlyfr a gyhoeddwyd i gydfynd a'r achlysur yn cadarnhau hynny.

    "Mae'r Gwyddel yn hen law ar droi ei dreftadaeth yn ddifyrrwch ac yn ffon fara . . .pam na fedrwn ninnau wneud yr un peth?" meddai Myrddin ap Dafydd wrth gyflwyno'r gyfrol.

    Er na fyddai unrhyw amheuon yngl欧n 芒 chyhoeddi'r gyfrol gallwn dychmygu rhywfaint o gyfyng gyngor yngl欧n 芒'i diwyg.
    Ar y naill law byddai temtasiwn i gyhoeddi un y gellid ei chludo'n hwylus yn eich llogell tra'n teithio ond, ar y llaw arall, byddai digon o ddeunydd at alw i lunio llyfr eithaf swmpus i'w ddarllen yn y t欧.

    Y dewis cyntaf a orfu; er dydw i ddim yn si诺r faint o draul oddefir gan y llyfr.

    Dull y gyfrol yw rhestru fesul un bedair tafarn ar bymtheg a chynnwys dyfyniadau perthnasol i bob un - yn rhyddiaith ac yn farddoniaeth.

    Hyd yn oed heb fentro rhoi un troed o flaen y llall mae'r gyfrol yn ddifyr. Ychwanegir at y difyrrwch hwnnw o fod yn y fan a'r lle a chyda hynny mewn golwg byddai map wedi bod yn fuddiol.

    Does yna, ychwaith, ddim mynegai i'r gyfrol; rhywbeth arall a fyddai wedi bod yn fuddiol.

    Mae yma bob math o wybodaeth ddifyr:
  • Yr Uxbridge Hotel oedd enw gwreiddiol Gwesty'r Celt pan godwyd y lle gan Iarll Uxbridge, Ardalydd M么n yn 1794. Newidiwyd yr enw yn Royal Hotel yn dilyn ymweliad y Frenhines Victoria a'i mam yn 1932.

  • I'r Marcwis hwnnw y cannodd y Bardd Cocos:
    Mae'r Marcwis of Anglesey
    Wedi colli'i glun
    Tasa fo'n colli'r llall
    Fasa ganddo fo 'run.

    Gellid ateb hwnnw gyda phennill arall gan yr un bardd i gerflun o'r un Marcwis ar ben ei d诺r oedd:
    Y Marcwis of Anglesey
    A'i gledd yn ei law.
    Fedar o ddim newid llaw
    Pan mae hi'n bwrw glaw.
    Yn ystod y daith gallwch fentro y bydd penillion eraill i'w hychwanegu!

  • Arferai tafarn Yr Harp fod yn dafarn goets fawr gyda stablau helaeth yn y cefn.

  • Tafarn bysgota oedd y Black Boy yn Stryd Pedwar a Chwech gydag enw'r stryd yn atgof o bris aros yno ar un adeg!

    Mae hen, hen, hanes i'r rhan fwyaf o'r tafarnau ond sefydliad eithaf newydd ydi Cofi Roc - ond dyw hi ddim yn gywir dweud iddo gael ei godi ar hen safle argraffu a chyhoeddi Papurau'r Herald. Yr ochr arall i'r grisiau yr oedd hwnnw lle mae siop fwyd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg erbyn heddiw mewn adeilad a godwyd yn dilyn t芒n mawr yn 1983.

    Ddrws neu ddau i ffwrdd mae'r Castle lle byddai John Eilian, un o olygyddion enwocaf yr Herald, yn mynd am lymaid canol bore ond hyd y gwelaf does dim son am y brenhinwr lliwgar a boneddigaidd hwn yn y gyfrol.

    Ond y mae golygydd arall - R J Rowlands sy'n fwy adnabyddus fel Meuryn sy'n awdur y geiriau bythgofiadwy:
    Bendithwyd, doniwyd y dyn
    脗 gwybodaeth gwybedyn.
    Glyn Evans.
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy