|
Trysorfa T Llew Jones Rhamant y gorffennol
Adolygiad Eiry Miles o Trysorfa T Llew Jones Gol. Tudur Dylan. Lluniau Jac Jones. Gwasg Gomer. 拢12.99.
T Llew Jones oedd fy hoff awdur pan oeddwn yn blentyn. Tra byddai'r rhan fwyaf o'm cyfoedion yn torri lluniau o Bros a Kylie allan o Smash Hits, byddwn i a'm ffrindiau pennaf yn darllen ac yn ail ddarllen llyfrau T Llew Jones, ac yn dysgu rhannau o'i nofelau ar ein cof wrth baratoi ar gyfer cystadlaethau y Cwis Llyfrau.
Enillon ni'r gystadleuaeth un tro, a chael mynd ar drip ardderchog i Iwerddon yn wobr. Rwy'n ddiolchgar i T Llew am hynny, ac am sbarduno fy niddordeb mewn llyfrau o oedran cynnar.
Ond rwyf hefyd yn sicr mai T Llew sydd i'w feio am gyflwr truenus fy llygaid. Roedd ei stor茂au'n llawer rhy afaelgar i'w gadael tan y bore, felly byddai'n rhaid i mi eu darllen o dan fy nghwilt gyda torts.
Profiad emosiynol Oherwydd hyn, roedd troi at waith T Llew unwaith eto yn brofiad emosiynol ac fe deimlwn braidd yn nerfus.
A fyddai'r hudoliaeth wedi diflannu? Wedi'r cyfan, roeddwn yn ffan o Ma Ifan 'Ma flynyddoedd yn 么l hefyd, ond buasai'n rhaid i mi gael fy nhalu'n reit hael i wylio'r rhaglen heddiw.
Nid oedd angen i mi boeni - rwyf nawr yn fwy o ffan T Llew nag erioed.
Amrywiaeth Ceir yn y gyfrol amrywiaeth o ddeunydd - cerddi ysgafn, straeon byrion, hen chwedlau a phytiau o'i nofelau.
Yn plethu'r cyfan ynghyd, mae lluniau celfydd Jac Jones, sydd bob amser yn taro deuddeg. Maen nhw'n lliwgar a chartwnaidd ar gyfer straeon ysgafn fel Roced Doctor Nac, ond yn dywyll ac yn ddramatig wrth bortreadu cymeriadau fel Barti Ddu.
O droi at y cerddi, syndod oedd sylweddoli fy mod yn cofio cymaint ohonynt.
Gan fod y mwyafrif yn ddigri' ac wedi'u hysgrifennu o safbwynt plentyn, maen nhw'n ddarnau delfrydol i'w hadrodd mewn eisteddfodau, gyda digon o sg么p i blentyn wneud 'stumiau hurt. Ond mae ergyd galed gan ambell gerdd fel Aberfan, er bod eu harddull yn syml a stor茂ol.
Stor茂wr penigamp Dengys dehongliadau T Llew Jones o chwedlau poblogaidd ei fod yn stor茂wr penigamp.
Straeon o fro ei febyd yw rhai, fel Gwlad yr Enwau Rhyfedd a Cloch Eglwys Mwnt - straeon digri a glywodd gan ei fam-gu, mae'n debyg.
Mae tafodiaith Dyffryn Teifi yn atsain drwy'r cyfan, ond erys ei arddull bob amser yn glir a chynnil.
Wrth gwrs, mae fformwl芒u T Llew Jones yn fwy amlwg i oedolyn nag i blentyn. Gellir rhagweld diweddglo rhai straeon o'r dechrau, ac mae bron pob pennod yn gorffen ar adeg argyfyngus.
Ond gydag ychydig eiriau, gall T Llew osod golygfa a chadw'r darllenydd ar bigau'r drain. Mae ei grefft ar ei gorau yn Un Noson Dywyll:
"Ar y foment honno fflachiodd mellten ar draws yr awyr, ac am eiliad gwelodd Tomos Wiliam y marchog dieithr yn glir. G诺r ifanc ydoedd a'i wyneb fel y galchen o wyn o dan ei het ddu, a oedd yn dripian glaw. Yna roedd y tywyllwch wedi syrthio rhyngddyn nhw drachefn ..."
Y gorffennol yn fyw Byddai'n rhaid i berson fod yn sinig llwyr i beidio a chael ei swyno gan gymeriadau mawr awdurdodol fel Barti Ddu a Harri Morgan. Llwydda T Llew Jones i roi cig a gwaed ar gymeriadau hanesyddol, gan ddod 芒'r gorffennol yn fyw.
Caiff y darllenydd ei gludo i fyd llawn cyffro a rhamant, i weld gwrthdaro ffyrnig rhwng tlodion gonest a thirfeddianwyr trachwantus, y sipsi a'r sgweier, ceidwad y tollborth a'r ffermwr gorthrymedig.
Does ryfedd i mi ddymuno cael teithio yn 么l mewn amser un tro - roedd y gorffennol i'w weld dipyn yn fwy cyffrous a rhamantus na'r 1980au.
Fodd bynnag, nid anturiaethau ysgafn a hwyliog yw'r cyfan. Cefais sioc o gofio mor dorcalonnus o drist yw T芒n ar y Comin, er enghraifft.
Mae'r darn sydd yn y gyfrol -disgrifiad o Tim Boswell yn canfod corff ei dad-cu - yn arbennig o drawiadol ac yn sicr o ysgogi unrhyw blentyn i ddarllen y nofel i gyd.
Ac nid rhyw gyfrol Boy's Own yw hi chwaith - mae digon o gymeriadau benywaidd cryf sydd yr un mor fentrus 芒'r bechgyn, megis Gwen a Nel yn y stori fer Y Wennol.
Dim llyfryddiaeth Fy unig g诺yn am y llyfr yw y buaswn wedi hoffi cael llyfryddiaeth yn y cefn, i gael rhagor o fanylion am y gweithiau, ac i wybod a oedden nhw'n dal i fod mewn print.
Wedi darllen ambell i bwt o nofel, roeddwn yn ysu am gael y nofel gyfan o 'mlaen, er mwyn gallu gorffen y stori. Ond cwyn fach yw honno, ac nid amharodd ar fy mwynhad o'r gyfrol hardd hon.
Yn ogystal 芒 chyflwyno gwaith y llenor pwysig hwn i genhedlaeth newydd, bydd Trysorfa T Llew Jones yn cloriannu ei gyfraniad mawr i lenyddiaeth Gymraeg. Braf yw gweld T Llew Jones yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol o'r diwedd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|