|
Ar dafod Gwerin Casgliad Tegwyn Jones o benillion bob dydd
Adolygiad Glyn Evans o Ar Dafod Gwerin - penillion bob dydd wedi'u casglu gan Tegwyn Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 拢16.99. Clawr meddal - 拢10.99.
Yn brynwr, byddwn i'n mynd am y fersiwn clawr caled, smartiach o'r llyfr hwn sydd ar bapur gwell na'r un clawr meddal.
Heb os mae hon yn gyfrol y bydd mynd a dod mawr iddi dros y blynyddoedd gyda'i 1,193 o benillion traddodiadol eu naws fel y beddargraff hwn ym mynwent Eglwys Penbryn, Ceredigion:
Byr a brau yw bywyd dyn Tra sydyn daw ei ddiwedd; Felly darfu 'mywyd i Trwy foddi yn dra rhyfedd!
Gellir ystyried cyfrol Tegwyn Jones yn gymhares deilwng i gasgliad awdurdodol Syr T H Parry-Williams, Hen Benillion, a gyhoeddwyd yn 1940 ond sydd allan o brint, bellach.
Tybed a fydd cyhoeddi casgliad newydd Tegwyn Jones yn sbardun i rywun ail gyhoeddi honno eto?
Nid dyma'r tro cyntaf i Tegwyn Jones wneud cymwynas 芒 ni yn y maes hwn - yn 1976 cyhoeddodd gasgliad rhagorol o dribannau Morgannwg.
Ac yn awr wele Ar Dafod Gwerin yn barod i swatio gyda'r ddwy arall ar bob silff lyfrau werth chweil gan i'r awdur wneud ymdrech fwriadol i beidio a chynnwys penillion sydd yn y naill neu'r llall o'r cyfrolau hynny.
Mae Tegwyn Jones yn disgrifio cynnwys ei gyfrol fel "penillion a rhigymau cofiadwy am amrywiol brofiadau byw a bod" ac mae'r casgliad yn cychwyn gyda'r pennill hwn o Fronnant, Ceredigion: A glywsoch chi fod Mari ni Yn gwisgo dannedd dodi? Ac am ei thraed mae hig heel boots - Mae'n siarad am briodi.
Mwyaf syml Barddoniaeth ar ei mwyaf syml a'i mwyaf dirodres sydd yma yn ymwneud a phob agwedd o fywyd yn null yr Hen Benillion a gasglwyd gan Parry-Williams - ond nid yw'r cyfan o benillion y gyfrol hon yn hen gan ei bod yn cynnwys hefyd gyfansoddiadau cyfoes gan brofi fod y dull hwn o gyfansoddi yn parhau mewn bri.
Un peth sy'n sicr; yn gyfoes ac fel arall maen nhw'n ran o olyniaeth anrhydeddus iawn nad oes angen rhagorach disgrifiad ohoni nag un Parry-Williams yn ei gasgliad ef: "Beth bynnag yw tarddiad a thras y Penillion dienw hyn, fe'u cadwyd ar gof oherwydd bod rhyw ap锚l ynddynt, yn eu cynnwys, yn eu dull, yn eu mynegiant. Yr oeddynt yn deffro ymateb yn rhywle, yn cyffwrdd 芒 rhyw synhwyrau, yn boddio rhyw ddyheadau ac yn cyflenwi rhyw anghenion," meddai.
Gwerinol a gwledig Ac fel T H Parry-Williams mae Tegwyn Jones yntau yn tynnu sylw at natur gyffredin neu fyw pob dydd y penillion o ran cynnwys.
"Gwerinol" yw un gair sy'n cael ei ddefnyddio i'w disgrifio - "gwledig" yn un arall.
Nodwedd arall yw fod yr awduron yn anhysbys erbyn a hynny am mai ar dafod leferydd y trosglwyddwyd y penillion a'u diogelu ar y cof yn hytrach nag ar bapur.
Erbyn eu rhoi ar bapur roedd enw'r awdur wedi'i hen anghofio.
"Perthyn i'r traddodiad llafar a wn芒nt yn hytrach na'r traddodiad ysgrifenedig, a gellir honni mai tro ymadrodd annisgwyl, odl ddigri neu sylw gogleisiol, ac addasrwydd cyffredinol y cynnwys i brofiad y lliaws, yn hytrach nag unrhyw werth llenyddol mawr, a sicrhaodd eu goroesiad," meddai Tegwyn Jones.
Ond er i'r awduron gael eu disgrifio fel rhai syml a di-ddysg ac er symlrwydd eu cyfansoddiadau peryglus iawn fyddai dibrisio'r hen benillion o ran eu gwerth.
Ys dywed T H Parry-Williams: "Nid iselradd mo'r neilltuolion hyn : y mae iddynt eu gwerth a'u grym. Hwynt-hwy yn aml, yn y gwaelod, yw seiliau celfyddyd fwy uchelgeisiol ac ymwybodol."
Ac meddai Tegwyn Jones: "Barddoniaeth bob dydd sydd yma . . . barddoniaeth sy'n cyffwrdd yn uniongyrchol 芒 bywyd, ac arni gryn sawr y pridd . . . Ymddiddan 'y werin gyffredin ffraeth' 芒 hi ei hun yw swm a sylwedd y casgliad hwn."
Cyfeiria hefyd at benillion ei gasgliad yn cofnodi "teimlad neu chwiw'r foment, nodi rhyw ddoethineb yn deillio o hir sylwi, neu gynnig cyngor, efallai, seiliwyd ar brofiad personol."
Deuddeg rhan Rhannodd ei gasgliad yn ddeuddeg i gynnwys gyda'i gilydd benillion yn ymwneud 芒 meysydd mor amrywiol a; serch, profiad, man a lle, hwiangerddi, dwli, bwyd a diod, crefydd, beddargraffiadau, rhigymau bysedd ac adran amrywiol i gloi.
Nodir ffynhonnell pob bennill wrth ei chwt ac yng nghefn y gyfrol mae mynegai o linellau cyntaf.
Yn wahanol i T H Parry-Williams yn ei gasgliad ef penderfynodd Tegwyn Jones beidio 芒 chynnwys nodiadau eglurhaol ac nid oes amheuaeth y bydd rhai darllenwyr yn gweld eu heisiau.
Fodd bynnag, bydd yr ambell i nodyn o eglurhad sydd gyda rhai o'r penillion yn ddigon i ddiwallu'r rhan fwyaf o ddarllenwyr.
.Cyfrol i'r porwr yw hon - cyfrol i'r sawl sy'n hoff o grwydro o un blewyn glas i'r llall - ac heb os un y byddai croeso iddi yn y rhan fwyaf o sanau Nadolig.
Ynddi down o hyd i wreiddioldeb, i hiwmor, dwyster a phrydferthwch ac mae'n ddiddorol sylwi sut y mae gwahanol gyfnodau yn lliwio meddylfryd.
Dyma bennill ymddangosodd yn Y Brython 1858: Na chais esmwythyd yn y byd, Rhaid dwyn o hyd rhyw groesau; Dioddef orfu'th dad a'th daid A dioddef raid i tithau.
Mae llawer o ddoethinebu yma a sawl rhigwm yn rhoi cyngor a hynny'n aml yn berthnasol i'r ffordd wledig o fyw:
A arddo ar eira A lyfno ar law, Ni fed y g诺r hwnnw Ond chwyn a baw.
Bu serch erioed yn broc i'r arwen - ac felly yma ond yn ddiddorol iawn y penillion yn ddieithriad gan ddynion:
Mae'n dda gen i datws, mae'n dda gen i laeth, Mae'n dda gennyf fenyw 芒 thafod go ffraeth, A thipyn go-lew o wrid yn ei boch A'i gwallt weithiau'n felyn ac weithiau'n goch, goch.
Ond mae eithriadau a dyma bennill o safbwyn y ferch:
Mae'n well i chwi o lawer I dreio bildio plas Draw ar y moroedd geirwon Sydd rhwng y tonnau glas, A chodi rheiny i fyny I ryw fynyddau fry Na threio oeri cariad Rhwng Ifan bach a mi.
Ac meddai un arall:
Mi geso gariad newydd fflam A het bob cam oedd ganddo, Crys a ffrils a neisied wed A gwallt ei ben yn cwrlo.
Mae ap锚l arbennig i'r cerddi dwli fel y pennill hwn o'r Waunfawr, Caernarfon:
Biti biti garw Hen wreigen wedi marw, Claddu yn y winllan A bawd ei throed hi allan.
Weithiau mae'r cynnwys fymryn yn amrwd:
Cofiwch wraig Lot Yn eistedd ar y pot. Y pot yn torri A'r hen wraig yn boddi.
A da chael gyda rhai o'r penillion y m芒n amrywiadau o wahanol rannau o Gymru.
Wrth gwrs, mae hon yn gyfrol y gellir dyfynnu yn ddiddiwedd ohoni a hynny'n brawf o'i haeddiant ac yn adlewyrchiad o'r mwynhad a'r pleser sydd ynddi.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Tegwyn Jones
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|