成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hi Yw Fy Ffrind
Dychmygol gyda phytiau o hunangofiant!

Adolygiad Lowri Rees:
Mae nofel ddiweddaraf Bethan Gwanas, Ti yw fy Ffrind, yn un o'r nofelau mwyaf pwerus imi ddarllen erioed.
Ni allaf gredu iddi lwyddo i wneud imi chwerthin a chrio yn afreolus o uchel.

Dros y blynyddoedd cafodd Bethan, merch fferm Gwanas yn Nolgellau, ei disgrifio gan ddarllenwyr ac adolygwyr ar ar hyd a lled y wlad fel awdur y bobl ar sail ei sgrifennu naturiol ac am iddi sicrhau bod darllen ei nofelau yn bleser yn hytrach nag yn ddyletswydd.

Clawr y llyfrDyma hanes Non y Wern, a Nia Tynclawdd, dwy ffrind gorau sydd yn cymysgu eu gwaed i brofi eu bod yn bloodsisters ac i ddangos y byddant yn driw i'w gilydd o hyn allan dim bwys be ddigwydd.

Ond wrth fynd yn h欧n mae'r pethau rhyfeddaf yn digwydd i'r ddwy!

Gemau dychmygol
Ym mhenodau cyntaf y llyfr mae'r ddwy yn ifanc iawn ac yn chwarae gemau dychmygol yn nhai ei gilydd.

Cawn ddisgrifiad o'r artaith flynyddol o orfod cystadlu mewn cyfarfodydd bach a phenodau am fywyd yn gyffredinol yng nghefn gwlad Cymru.

"Mae bechgyn a merched yn cael eu bwydo efo straeon tylwyth teg yn ystod eu blynyddoedd cynta, straeon sy'n diweddu efo'r tywysog a'r arwres yn priodi ac yn byw yn hapus byth wedyn - ond welais i erioed fachgen ar d芒n isio gwisgo fel Prince Charming na Phriodfab. Ta waeth mi fynnodd Leusa gael bod yn briodferch.
" A geith Meinir fod yn forwyn fach imi, a geith Aled fod yn 诺r imi."
"Y? Dwi'm isio bod yn 诺r iti!"protestiodd Aled.
"Mae'n rhaid iti. Ti di'r unig ddyn." (Roedd John yn helpu Dad, ond fyddai o byth wedi cytuno chwarae priodi beth bynnag.)

Cyffwrdd a nghalon
Drwy flynyddoedd ysgol gynradd ac uwchradd mae'r awdures yn cyffwrdd 芒 nifer o wahanol them芒u, gan gynnwys profedigaeth yn y teulu.

Bum yn gorwedd yn fy ngwely yn crio ar 么l darllen y bennod hon - fy nghalon wedi ei chyffwrdd gan ddawn ysgrifennu awdures o'r radd flaenaf.

"Dwi'm yn cofio llawer am y gwasanaeth, dim ond mai un o'r emynau oedd 'O Iesu Mawr, rho d'anian bur', a bod y canu'n llenwi'r capel, yn codi'r to, ond fethon ni ganu yr un nodyn. Roedd pawb yn crio, pawb ond Dad. Jest sb茂o'n syth yn ei flaen roedd o, sb茂o i nunlle. Nath o ddim crio wedyn ar 么l y tro cynta' na, ddim o'n blaenau ni beth bynnag. Ond mi aeth o i ben y mynydd ar ei ben ei hun y syth ar 么l te cnebrwng, i ffensio. Doedd o'm isio John fynd efo fo, a ddoth o'm yn 么l am oriau."

Dychmygol yn bennaf
Mae'r nofel yn llawn teimladrwydd a syniadau plentyn ar wahanol bynciau ac er bod darnau bywgraffiadol iawn yn rhedeg drwy Hi yw fy Ffrind mae Bethan Gwanas yn taeru mai dychmygol yw'r rhan helaethaf o'r nofel er bod rhannau ohoni yn naturiol wedi eu seilio ar ychydig o'i phrofiadau yn blentyn.

Meddai Bethan Gwanas noson lansiad y llyfr ym Mhlas Coch, Y Bala:
"Ma'r busnes cofiannol ma yn poeni pawb, ond gad imi ddeud fod na ran ohonai ym mhob un o'r cymeriadau.

"Ma'r nofel yn hollol ddychmygol ond, wrth gwrs, mae pytiau o hunangofiant personol - ond doeddwn i ddim am wneud hunangofiant gan fod un ar y ffordd yn y dyfodol."

Ychwanegodd: "Mae pawb yn gallu uniaethu 芒 phrofiadau plentyn a dyna all rhywun i wneud wrth ddarllen y nofel yma."

Syrthio mewn cariad
Mae Non a Nia yn tyfu i fyny, ac er bod Nia yn newid ei chariadon yn gyson mae Non mewn cariad ag Adrian a'r ddau yn mynd i briodi a byw'n hapus.

O'r dudalen gyntaf i'r olaf mae dawn arbennig Bethan Gwanas i greu darluniau gyda geiriau ar waith mewn stori am ddwy ffrind sydd yn tyfu i fyny ym mhocedi ei gilydd a'u profiadau wrth iddyn nhw ddod yn ferched deunaw oed.

Cyffyrddir a phob math o them芒u, o hapusrwydd i brofedigaeth, yn unigol neu'n deuluol.
Mae yma gyfeillgarwch a thwyll.

Wedi imi ddarllen y bennod olaf, roeddwn yn erfyn ar Bethan Gwanas i gychwyn ar y dilyniant cyn gynted 芒 phosib gan fy mod a'r binnau eisiau gwybod beth fydd yn digwydd.

Ond rhaid ymatal rhag datgelu gormod rhag difetha'r nofel.



cyfannwch

M.Dolgellau
Unwaith eto fel pob nofel arall gan Bethan -llyfr gwych, dim ond un peth sydd ar fai- fedrai ddim aros i ddarllen yr ail rhan!!



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy