Blynyddoedd o lafur cariad
Adolygiad John Evans o Straeon o'r Strade gan Alun Wyn Bevan. Gomer. 拢9.99
Cyn bo hir bydd gw欧r rygbi'r Scarlets yn symud o Barc y Strade i faes newydd sbon yr ochor arall i dre'r Sosban, yn ardal Trostre.
Mae'n briodol felly fod llyfr newydd ei gyhoeddi i nodi hanes gorffennol y clwb a'r cannoedd o chwaraewyr sydd wedi ei gynrychioli ers y dyddiau cynnar. Mae cyfrol Alun Wyn Bevan yn glamp o deyrnged i'r cyfan oll ac mae'n rhaid ei longyfarch yn enfawr am waith sy'n bleser i'w ddarllen.
Er nad yw'r awdur yn hanu o'r dre mae ei gariad at y fangre, sy'n gysegredig i lawer, yn amlwg o'r dechrau.
Un o fois y Gwter Fawr (Brynaman) yw Alun Wyn. Roedd ei arwyr cynnar e yn cynrychioli ei bentref yn wreiddiol gyda'r goreuon yn codi i safon uwch. Llanelli yw prif glwb gw欧r Cwmtawe ac yn naturiol bydd yr ifainc yn dilyn y s锚r lleol.
A dyna a ddigwyddodd i Alun.
Mor anodd
Gwn o brofiad pa mor anodd yw ysgrifennu llyfr am ffeithiau a digwyddiadau o'r gorffennol. Llwyddodd yn rhyfeddol i amrywio'r cyflwyniadau o'r straeon lu.
Er enghraifft, beth meddech chi yw'r cysylltiad rhwng concwerwr Everest, Syr Edmund Hillary, a'r prop D.B.Llewelyn a chwaraeodd dros Gymru yn y saithdege?
Caiff y chwaraewr tenis ymfflamychol Ilie Nastase le teilwng a phriodol. Yr un modd mae'r stori am ei brofiad o weld yr anfarwol Everton Weeks yn bato pan oedd yr awdur yn blentyn yn berffaith addas i'r hanesyn.
Mae'n demtasiwn wastad i ddechre llyfr sy'n croniclo'r gorffennol gyda brawddeg debyg i, "Ffurfiwyd clwb Llanellli yn....." ond er i'r ffaith honno gael ei chynnwys daw i'r stori'n naturiol gyda thwf yr hanes.
(Ffurfiwyd y clwb ym 1875 gyda llaw).
Mae'n amlwg nad yw'r awdur wedi anghofio'i grefft fel athro ychwaith - ar bob tudalen cawn gyfres o bigion diddorol.
Glas yn gyntaf
Wn i ddim os taw wedi anghofio ydw i ond glas oedd cryse gwreiddiol y Sgarlets ac na ddaeth y coch i rym tan 1884.
Wyddech chi fod deunaw aelod i bob t卯m yn 1876?
Ac er imi fynychu g锚mau criced ar barc y Strade ym mhumdege'r ganrif ddiwethaf wyddwn i ddim taw ar y maes criced cyfochrog y bu'r g锚m rygbi ryngwladol gyntaf ar y Strade.
Mae'r hanes o 1887 yn rhyfeddol.
S锚r y gorffennol
Un o'i gyfraniadau pennaf yw'r modd y llwyddodd i ddisgrifio s锚r y gorffennol pell.
Daw Albert Jenkins yn fyw tra'n darllen ei ddisgrifiadau. Buaswn yn taeru fy mod i wedi bod yno pan sgoriodd Ernie Finch y cais anfarwol yn erbyn George Nepia yn nhymor 1924/25.
A brawd ei famgu druan, Jac Elwyn Evans, fu'n ddigon anffodus i fod yn aelod o d卯m Cymru a gollodd 35-10 yn Inverleith , Caeredin yn, ym 1924!
Ei unig g锚m!
O bryd i'w gilydd defnyddia'r Saesneg tra'n dyfynnu ac mae hynny'n hollol dderbyniol o gofio iaith yr adroddiadau ar y pryd.
Plwmp ac yn blaen
Mae'n llawdrwm ar ei hunan wrth gydnabod ei ffaeledd i ddyfarnu'r g锚m rhwng Abertawe a Phontyp诺l ym 1974.
Ac eto mae'n ddigon parod i ddweud ei farn yn blwmp ac yn blaen. Dylse Gareth Jenkins ac Allan Lewis fod wedi cael pwysicach gwaith gyda'r Undeb yn y naw degau.
Ac am y clwb ei hunan. Oes 'na berygl taw clwb 'bron a bod' fydd Llanelli yn y dyfodol? Yn ogystal yn ei farn e dylid enwi eisteddle i anrhydeddu Phil Bennett yn y stadiwm newydd.
Tybed faint o allu'r proffwyd sydd ganddo oherwydd mae'n talu teyrnged aruchel i Dwayne Peel a hynny cyn i'r mewnwr ddisgleirio yn erbyn De Affrica!
Hefyd medd ar y ddawn i adrodd yr hanes yn ffraeth ac yn gynnil.
Mae ei stori am y gohebydd rygbi Frank Keating yn angladd Carwyn James yn glasur!
Yn ei bennod ar R.H.Williams dywed fod gan y clo disglair 'egni dihysbydd.' Gwir hynny am yr awdur ei hun hefyd gydag 么l gwaith cartref trylwyr a diflino yma.
Cyfaddefaf imi ei ddarllen mewn un eisteddiad ond fy mhenderfyniad personol oedd hynny. Mater bach yw darllen un bennod ar y tro a mwynhau'r lluniau a'r diwyg gl芒n.
Diolcha i'w deulu am eu cefnogaeth dros y chwe mis ola.
Dim ond chwe mis?
Mae 么l blynyddoedd o lafur cariad ar y gyfrol werthfawr hon. Go lew ti, Alun Wyn.