| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwas y Stabl gan Mair Wynn Hughes Adolygiad Glyn Evans o Gwas y Stabl - Dyddiadur Sion Dafydd Plas Creuddyn, 1582-1593 gan Mair Wynn Hughes. Cyfres Fy Hanes I. Gomer. 拢4.99.
Daeth cnwd o lyfrau hanes o Wasg Gomer y dyddiau diwethaf.
Nid yn unig cyhoeddwyd tri llyfr mewn cyfres newydd sy'n cael ei galw'n 'Slawer Dydd ond cyhoeddwyd trydedd cyfrol yng nghyfres Fy Hanes I.
Mae Gwas y Stabl yn mynd a ni i gyfnod tra gwahanol i'r un a ddarluniwyd yn nwy gyfrol gyntaf y gyfres un am y Blits yn Llundain a'r llall am fordaith drist y Titanic.
Yr erlid gan yr awdurdodau ar y Pabyddion yn yr unfed ganrif ar bymtheg yw cefndir Gwas y Stabl cyfnod o fileindra a bryntni rhyfeddol pan oedd Pabyddion mewn perygl o gael eu dienyddio a'u diberfeddu am ddilyn "Yr Hen Ffydd" fel yr oedd Pabyddiaeth yn cael ei hadnabod.
Digwyddiadau cyffrous yn ardal Llandudno, heddiw, yw cnewyllyn nofel Mair Wynn Hughes gyda'r stori'n cael ei dweud trwy gyfrwng dyddiadur llanc ifanc sy'n gweithio yn stablau Puwiaid Plas Creuddyn rhwng 1582 a 1593.
Cymraeg am y tro cyntaf Dyma gyfnod teyrnasiad yr Elizabeth gyntaf, trechu'r Armada o Sbaen a dyfodiad y Beibl Cymraeg i'r eglwysi am y tro cyntaf.
Meddai Sion Dafydd ar Ragfyr 21, 1588: "Mae Beibl Cymraeg wedi dod i'r eglwys: Beibl William Morgan. Un o blwyf Penmachno ydi William Morgan, ac mi fuo fo'n brysur am ddeng mlynedd yn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, meddan nhw . . . "Ond rydym ni'r Catholigion yn dal i hiraethu am yr iaith Ladin ac urddas Offeren yr Hen Ffydd, er nad o'n i'n deall y geiriau roedd yr Offeiriad yn eu dweud."
Mae Mair Wynn Hughes yn pwytho myrdd o ffeithiau hanesyddol difyr i'w stori gan roi'r argraff fod ei phwyslais yn fwy ar gyflwyno darlun o'r cyfnod cythryblus hwn nag ar ddweud stori afaelgar.
Ond y mae yma elfennau o gyffro a dirgelwch hefyd wrth i deulu Plas Creuddyn arfer eu crefydd yn y dirgel a rhoi lloches i offeiriaid ar ffo rhag yr awdurdodau.
"Nid chwarae plant ydi hyn," meddai un o'r cymeriadau. "Mae bywydau'r Offeiriaid yn y fantol. Tase nhw'n cael eu dal, mae'n debyg mai cael eu carcharu, eu crogi a'u diberfeddu fyddai eu hanes nhw."
Y cyfnod hwn yr oedd Plas Creuddyn yn ferw o waith argraffu cudd. Yma yr argraffwyd Y Drych Cristianogawl gan y Tad William Davies a smyglodd y llawysgrif o Ffrainc.
Gorchwyl beryglus arall oedd smyglo inc a phapur a hyd yn oed wasg argraffu o'r un wlad i'w defnyddio yn selerydd Plas Creuddyn ac mewn ogof gerllaw.
Mae hyn oll yn rhan o gynnwrf y nofel ddyddiadurol hon.
Mae traddodiad y nofel hanes i blant yn un cyfoethog iawn yn y Gymraeg coffa da am gyfraniad nodedig ac arloesol Elizabeth Watkin-Jones a ddaeth 芒 chyfnod y Rhyfel Cartref mor fyw i ddarllenwyr ifainc Cymru.
Dyw'r adeiladwaith stor茂ol ddim mor ddeheuig yma ag mewn nofelau fel Luned Bengoch ac Y Dryslwyn ac mae'n deg gofyn ai ffurf y dyddiadur yw'r gorau ar gyfer hyrwyddo cyffro a thyndra'r stori sydd yn hynod afaelgar yn ei hanfod.
Naws bywyd cyffredin Ond nid oes amheuaeth am afael yr awdur ar ei chyfnod a bydd darllenwyr ifainc yn manteisio'n fawr ar ffrwyth ei hymchwil.
"Roedd portreadu bywyd bachgen ifanc adeg teyrnasiad Elisabeth y cyntaf yn sialens. Tra bod digonedd o wybodaeth ar gael am y byddigions a llys Llundain, does fawr ddim i'w gael am fywydau'r bobl gyffredin. Dal naws bywyd cyffredin oedd y gamp," meddai wrth s么n am y gwaith ac nid oes amheuaeth iddi lwyddo yn y cyfeiriad hwnnw.
Yng nghefn y llyfr mae yna hefyd grynodeb buddiol o'r cefndir hanesyddol ac hefyd gasgliad o luniau y byddai, mewn gwirionedd, wedi bod yn well eu cynnwys rhwng dalennau'r stori ei hun.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|