| |
|
|
|
|
|
|
|
Parti llyfrau fel Barselona Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn dathlu Diwrnod y Llyfr mewn dull Barselonaidd eleni gyda'r pwyslais ar werthu llyfrau yn hytrach na dim ond tynnu sylw atyn nhw.
"Ym mhrifddinas Catalwnia y dathlwyd Diwrnod y Llyfr gyntaf erioed wedi marwolaeth Franco ac wedi i'r ormes ar yr iaith Gatalwneg ddod i ben," meddai Myrddin ap Dafydd, perchennog y Wasg.
Ychwanegodd: "Aileginodd byd cyhoeddi Catalwnaidd ond gwelwyd bod angen denu pobl i fynd i'r arfer o brynu llyfrau yn eu hiaith eu hunain unwaith eto. Trowyd eu dydd cenedlaethol Ebrill 23 yn Ddiwrnod y Llyfr a sefydlwyd traddodiad o brynu a rhoi llyfrau i deulu a ffrindiau."
. Dywedodd i gynrychiolwyr o Wasg Carreg Gwalch ymweld 芒 Barcelona adeg y dathliadau hyn y llynedd a chanfod y Ramblas a'r prif sgwariau i gyd yn llawn stondinau.
"Roedd pawb yn gorffen gweithio am ddau y prynhawn, yr ysgolion yn cau a theuluoedd cyfan yn crwydro'r stondinau, ymweld 芒 siopau llyfrau, gwrando ar fandiau ar y strydoedd, prynu parseli o lyfrau ac yna mynd am bryd o fwyd. Erbyn hyn gwerthir 12% o werthiant llyfrau blynyddol Barcelona ar y diwrnod arbennig hwn," meddai.
"Roedd yr awyrgylch fel Maes Eisteddfod, 'blaw ei bod hi'n Steddfod lyfrau yn unig gydag awduron yn cael eu gweithio'n galed, yn gwneud pump a chwech o berfformiadau neu ymddangosiadau i arwyddo cop茂au yn ystod y diwrnod. Roedd amryw o deitlau newydd yn cael eu cyhoeddi yn benodol ar gyfer y diwrnod ac roedd prynu llyfrau yn cael ei weld fel hwb i ysbryd y genedl."
Eleni mae Gwasg Carreg Gwalch yn gobeithio trosglwyddo peth o'r brwdfrydedd a'r hwyl yna i Gymru trwy ddathlu Diwrnod y Llyfr yn ystod wythnos Gwyl Dewi gyda Pharti Prynu anferth yn Ysgol yr Hendre, Caernarfon ac yn siop Palas Print, Caernarfon, lle bydd 1,000 o blant yr ardal yn cael tocynnau prynu llyfrau barddoniaeth gwerth 拢1 yr un.
Hefyd, cyhoeddir y ddeuddegfed yng nghyfres barddoniaeth y wasg: Cerddi Lloerig i Blant a bydd arlunydd yn y siop yn ystod yr wythnos yn creu murlun yn seiliedig ar y gyfres hon gyda phlant yr ardal.
"Mae hon yn bartneriaeth gyffrous," meddai Eirian James, perchennog Palas Print.
"Drwy gyd-weithio gyda'r wasg, rydym yn medru cynnig deuddeg o deitlau barddoniaeth sy'n eithriadol o boblogaidd ymysg plant am 拢1 yn rhatach er mwyn hybu prynu llyfrau.
"Mae'n ffordd newydd iawn o ddathlu Dydd y Llyfr yng Nghymru ond dyma'r ffordd ymlaen yn sicr.
"Mae prynu llyfrau Cymraeg a llyfrau am Gymru yn codi ysbryd y genedl gyfan."
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|