|
Cyfres TAB a'r Cadabras Adolygiad Meirion Puw Rees o Dirgelwch y Ty Gwag a Dirgelwch y Powdwr Cosi gan Sian Lewis. Cyfres TAB a'r Cadabras. Gwasg Gomer. 拢4.99 yr un.
Oed saith i naw. Dau lyfr yng nghyfres TAB a'r Cadabras ydi Dirgelwch y Ty Gwag a Dirgelwch y Powdwr Cosi ond peidiwch 芒 disgwyl darganfod pam mai dyna yw enw'r gyfres tan ddiwedd y llyfr cyntaf!
Wrth agor Dirgelwch y Ty Gwag, y llyfr cyntaf yn y gyfres, mae yna lun llyfr efo'r teitl "FFEIL Tomos Aled Beynon i dditectifs" ac wedyn "Ces 1 - Dirgelwch y Ty Gwag" ac yn dilyn rhestr o gynnwys sydd yn mynd, "Map, Cliwiau" ac "Yr Hanes" .
Yn fy marn i mae hyn, ar yr olwg gyntaf, yn cymhlethu pethau'n ofnadwy gan fod yn rhaid darllen am sbel cyn deall perthnasedd y lluniau.
Peth arall; wrth ddarllen y llyfr mae'n ymddangos bod cyfeiriad y gwynt yn bwysig - pam felly peidio 芒 rhoi cyfeiriad y gwynt ar y llun o'r ceiliog gwynt ar y ddalen 'cliwiau'?
Mae cychwyn yr ail lyfr yn hollol wahanol efo rhyw fath o ragarweiniad.
Mi liciwn i gael cysondeb gan fod y llyfrau yn perthyn i'r un gyfres.
Pethau bach, mi wn, ond pethau sy'n tynnu oddi ar y mwynhad o'r llyfr.
Y straeon Beth bynnag, ymlaen at y straeon eu hunain. Yn y llyfr cyntaf, Dirgelwch y Ty Gwag, mae Tomos yn darganfod bod dau o blant y consurwyr enwog, Morgan a Marged Cadabra, wedi symud i Ty Mawr' ac wedi colli eu Nani. Fel ditectif yr ardal rhaid i Tomos ddarganfod lle mae'r Nani a beth sydd wedi digwydd iddi.
Mae'r un cymeriadau yn yr ail lyfr lle mae Morgan a Marged Cadabra wedi cael rhybudd fod rhywun am ddifetha parti maent yn y'i drefnu. Plot bach digon diddorol i blentyn ifanc.
Gwnaeth Sian Lewis yr awdur ymdrech glir i gynnwys hiwmor yn ei llyfrau. Er engraifft mae'n siwr bod y syniad o Locsyn (ci) mewn sarong a tuxcedo' wedi ei wneud o ganiau yn ddigri.
Mae'n llwyddo i greu lluniau doniol felna drwy'r llyfrau.
O gymharu'r ddau lyfr, yr ail yw'r gorau lle mae'r stori yn llawer cryfach ac yn haws o lawer i'w dilyn.
Mae'r cliwiau wedi eu gosod allan yn well hefyd.
Ar ben hynny, mae'r cymeriadu hefyd yn well yn yr ail lyfr.
Yn y llyfr cyntaf mae Tomos, y prif gymeriad, yn ddi-emosiwn - efallai er mwyn creu'r syniad ei fod yn dditectif proffesiynol. Yn anffodus dydi hyn ddim yn gweithio ac yn yr ail lyfr mae Tomos yn dangos rhyw fath o emosiwn, yn enwedig pan fo'n meddwl am tuxcedo' wedi ei wneud o ganiau!
Cymeriadau Mae'r awdur hefyd yn amlwg yn ceisio pwysleisio y cymeriadau drwy eu cyferbynu 芒 chymeriadau eraill. Er engraifft mae cyferbyniad amlwg rhwng Tomos a'r ddau blentyn Cadabra gyda Tomos ar y naill law yn hogyn distaw, meddylgar yn rhoi'r argraff o rywun dwfn iawn ond ar y llaw arall mae Ab a Babs yn blant eithafol, cynhyrfus yn rhoi'r argraff o rai dwl, gwirion, yn enwedig o'u cymharu 芒 Tomos.
I ryw raddau, llwyddodd yr awdur i gyferbynnu'r cymeriadau gan greu gwahaniaethau clir rhyngddyn nhw ond does ddim cydymdeimlad i gael 芒 Tomos am orfod delio 芒'r fath blant.
Ta beth, os ydych yn rhiant dyma ddau lyfr da i blant - rhai hawdd i'w deall, lliwgar a bywiog ac yn gychwyn da i gyfres newydd.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|