|
Tafarn Tawelwch gan Gerwyn Wiliams Adolygiad Grahame Davies o Tafarn Tawelwch gan Gerwyn Wiliams. Gwasg Carreg Gwalch, 2003, 拢5, tt 57.
Dyna beth prin yw tawelwch y dyddiau hyn. Mae fel petai'r byd ofn yr hyn a ddaw o beidio llenwi pob cornel 么'n hymwybyddiaeth 芒 swn.
Ambell waith, ymysg prysurdeb cynnal gyrfa, a magu plant, a gofynion cymunedol, teimlaf mai'r rhodd yr hoffaf fwyaf fyddai potel o dawelwch, y gallwn lowcio tangnefedd di-swn ohoni pan fo angen.
Ond byddai chwaeth at ddiod o'r fath yn cael ei gweld yn beth od ar y naw mewn byd lle mae pawb fel petaent yn gweiddi am sylw.
Cymaint o donic Dyna pam mae llais y bardd Gerwyn Wiliams yn gymaint o donic. Bardd y gair tawel, nid y waedd, yw hwn. Ond fel y gwyddys, y gair tawel yn aml iawn yw'r cryfaf o dipyn.
Yn y gerdd a rydd ei theitl i'r casgliad hwn, sef pumed casgliad y bardd, darlunnir yr awdur yn mynychu tafarn lle ni cheir sŵn electronaidd yn gefndir.
Be wnewch chi'n fanna, hogia, heb jiwcbocs na bandit, holai'r gyrrwr anghrediniol ac anthemau Radio 1 yn gysur i'w glustiau wrth ein gollwng ger tafarn tawelwch.
Ond dyna i ble'r 芒i'r bardd, i'r diriogaeth lle gadewir digon o ofod i rywun gael ei daro gan welediad.
Ceir llawer o fyfyrio ar y broses o fagu plant, a hynny'n dyner ac yn sylwgar. Hyfryd o gerdd yw Canu'r Piano lle gwelir bysedd y plentyn "yn ofni'r nodau / yn eliffanta ar ifori'r allweddellau" cyn iddynt fagu digon o hyder i ddilyn eu llwybr eu hunain.
Ceir awgrym o dreiddgarwch y dweud cynnil yn y llinellau clo : a gwlad arall yn ymagor fan draw ei halawon yn ddiarth, hunangynhaliol.
Ofer inni mwyach geisio'i dal.
Bod yn dad Gwelir yr un tynerwch mewn nifer o gerddi am y profiad o fod yn dad, profiad chwerw-felys lle mae pob cyrhaeddiad newydd a groesewir yn golygu rhyw fath o ffarwel hefyd. Mae'r gerdd Gollwng Gafael yn enghraifft dda yn ogystal.
Ar begwn arall bywyd, mwynheais yn fawr y gerdd ar Nan Bethel lle gresyna'r bardd na fu iddo recordio rhai o ddywediadau lliwgar ei Nain. Gresynais innau'r un peth pan fu farw fy nain innau yn gynharach eleni.
Ar gynfas ehangach wedyn, ceir cyfres o gerddi yn ymwneud ag ymweliad 芒 mynwentydd y Rhyfel Mawr yn Ffrainc.
Cefais fy atgoffa o lyfr campus Geoff Dyer, The Missing of the Somme wrth i Gerwyn Wiliams ddarlunio ei ymweliad 芒 chofeb Thiepval, lle cofnodir enwau'r "saith deg mil di-fedd" a fu farw yn y frwydr erchyll honno heb i'w gorffwysfan fod yn hysbys: yr horwth hyll o gofeb gorsaf ofod Lego o frics coch,
Ni cheir yr ymdrechu ar 么l y datganiad mawr, yn hytrach, dawn y bardd yn y gyfrol hon yw i weld arwyddoc芒d yn y cyfarwydd.
Profiad buddiol a dymunol iawn yw treulio amser yn ei gwmni cyn troi "yn 么l at y nos, yn 么l at ddiogelwch twrw."
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|