成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cleddyf Llym Daufiniog
Adolygiad Gwyn Griffiths o Cleddyf Llym Daufiniog gan Elgan Philip Davies. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 拢8.99.


Mae plismyn, fel y gweddill ohonom, yn gymysgfa o'r drwg a'r da, y cydwybodol sy'n cribinio'n drylwyr cyn dod i gasgliadau gofalus a'r rhai sy'n mentro'r llwybr tarw.

Clawr y llyfrWedyn dyna'r rhai hynny sy'n hwylio'n agos i'r gwynt yn y ffordd y maen nhw'n ymwneud 芒 drwgweithredwyr.

Plismyn, hefyd, sy'n casau ei gilydd, yn rhoi cyllyll yng nghefnau'i gilydd nes peri i rywun feddwl sut ar y ddaear maen nhw'n medru datrys dim byd na dal yr un drwgweithredwr.

Amrywiaeth felly o blismyn sydd yn y nofel dditectif, Cleddyf Llym Daufiniog, gan Elgan Philip Davies.

Mae dau ohonyn nhw dan gwmwl am ymddygiad amhroffesiynol.

Dyma awdur sy'n adnabod ac yn deall ei faes. Does dim rhaid ichi gymryd fy ngair i am hynny; ceir gair canmoliaethus ar y clawr cefn gan y cyn Uwch-Arolygydd a'r awdur Roy Davies.

Rwy'n rhyfeddu at wybodaeth drylwyr Elgan Philip Davies o ddull yr heddlu o weithredu; mae'n dangos bywyd ditectif CID fel ag y mae, meddai.

Llofruddiaeth cyn cychwyn
Ceir llofruddiaeth cyn cychwyn y stori ond mae'r trywydd yn oeri a'r heddlu heb arlliw o syniad pwy sy'n gyfrifol. Mae'r pwysau ar y plismyn yn fawr ond does neb yn gwybod dim heblaw am un plismon ac mae e mewn lle dyrys ac yn ofni datgelu'i gyfrinach.

Yna ceir llofruddiaeth arall sy'n rhoi esgus i'r heddlu fynd ar 么l y drosedd hon ac anghofio i raddau - am y gyntaf. Mae hon yn mynd a ni i feysydd diddorol hoywon anffyddlon, sataniaeth, derwyddiaeth, meddygaeth amgen.

Digon i'r plismyn gael eu dannedd ynddo.

Wrth i'r llofruddiaeth newydd ddod yn ganolbwynt y stori, mae'r llall yn llithro i'r cefndir ond mae problemau'r plismon sy'n gwybod yn cynhyddu. Eto'n y cefndir mae achos plismones sydd mewn cyfyng gyngor ynglyn 芒 dod a chwyn yn erbyn un o'i chydweithwyr.

Teilwng o'r Bill
Mae helbulon personol y plismyn yn gymysg 芒'r gwahanol achosion yn deilwng o The Bill.Mae'r awdur yn cynnal y tyndra drwy dorri o un llinyn i'r llall yn y stori a cheir yma fwy nag arlliw o dechneg y ddrama deledu.

Dyma nofel nad oes modd ei rhoi o'r neilltu. Gresyn na fedrwn ddweud yr un peth am rai o'r nofelau eraill mwy uchel-ael y ceisiais eu darllen dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Fel gyda phob stori dditectif dda mae'r awdur yn dod 芒 phob llinyn o'r stori'n daclus at ei gilydd yn y diwedd.
Heblaw am un llinyn.
Ydi hyn yn awgrymu fod nofel arall i ddilyn? Gobeithio hynny. Mae hon yn nofel boblogaidd ardderchog ac y mae Elgan Philip Davies yn wir yn feistr ar y nofel dditectif.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy