成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhannu'r Ty gan Eigra Lewis Roberts
Un o helyntion diwydiannol enwocaf Cymru yw'r cefndir i nofel ddiweddaraf un o'n prif lenorion.


Gwasg Gomer sy'n cyhoeddi Rhannu'r Ty gan Eigra Lewis Roberts ac mae'n cael ei gyhoeddi union ganrif wedi i Streic Fawr y Penrhyn sy'n ganolog i'r stori ddod i ben.

Clawr y llyfr Ochr yn ochr a'r nofel mae'r wasg yn cyhoeddi llyfr Saesneg ffeithiol am y streic gan y newyddiadurwr, Charles Sheridan Jones, What I Saw at Bethesda gyda rhagymadrodd gan yr hanesydd bro, John Elwyn Hughes.

.Streic Fawr Bethesda rhwng 1900-1903 yw'r streic fwyaf yn hanes yr undebau llafur gyda'r helynt yn dod 芒 Bethesda i sylw'r byd wrth i chwarelwyr fynd ben-ben a pherchennog y chwarel, Yr Arglwydd Penrhyn.

Er mai 'ty tangnefedd' ydi ystyr yr enw Beiblaidd, Bethesda, yr oedd popeth ond tangnefedd yn Nyffryn Ogwen adeg y Streic Fawr ac yn hynny o beth mae teitl nofel Eigra Lewis Roberts, Rhannu'r Ty? yn eithriadol o addas.

Eigra Lewis Roberts, noson cyhoeddi'r nofel "Mae'r nofel yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd i unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas wrth iddynt ymateb i densiynau'r streic," meddai llefarydd o wasg Gomer.

"Yn y rhannu anochel hwn a ddaw yn sg卯l gweithredu diwydiannol, gwelir pobl ar eu gorau ac ar eu gwaethaf yn ceisio ymdopi nid yn unig 芒 brwydr allanol ond 芒'r frwydr fewnol sy'n bygwth dinistrio gobeithion, perthynas a chyfeillgarwch am byth.

"Gall ambell un ddal yn gadarn yn y gred mai rhyfel cyfiawn yn erbyn y meistri llechi yw hwn a bod Duw o'u plaid. Mae'r mwyafrif yn llawn ofnau ac amheuon."

Er mai dychmygol yw prif gymeriadau Rhannu'r Ty mae rhai cymeriadau ffeithiol fel yr Arglwydd Penrhyn, wrth gwrs, Lloyd George a Keir Hardie yn cael llais.

Meddai Bethan Mair, golygydd llyfrau Cymraeg i oedolion, Gwasg Gomer:

Nid nofel sy'n delio 芒'r du a'r gwyn, y da di-gwestiwn a'r drwg di-ildio yw hon. Ceir yma galeidosgop o lwyd, fel cerrig chwarel, a chaiff y darllenydd ei herio'n fynych wrth ystyried y syniad o'r hyn sy'n iawn.

Cyfrol a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1903 gan ohebydd y Daily News, Charles Sheridan Jones, yw What I Saw At Bethesda.

Bu gan y Daily News, le canolog ym mrwydr y chwarelwyr gan osod esiampl i gyhoeddiadau eraill trwy eu hannog i gasglu arian er mwyn cynnal teuluoedd y streicwyr ym Methesda.

Yn hytrach nag aros yn ddiduedd daeth Sheridan Jones yn ffigwr amlwg tu hwnt wrth frwydro dros hawliau cymdeithasol a gwleidyddol y streicwyr. Pan gyhoeddodd gasgliad o'i erthyglau a sylwadau am y streic fe'i disgrifiwyd fel "y llyfr gorau ar yr anghydfod."

John Elwyn Hughes mewn cyfarfod i gyhoeddi ei lyfr Ganrif union wedi i'r llyfr hwnnw ymddangos gyntaf mae Gomer wedi adargraffu'r cynnwys ond gyda chyflwyniad gan John Elwyn Hughes, brodor o Ddyffryn Ogwen a'i hanesydd bro mwyaf blaenllaw.

"Gosodir y streic yn ei chyd-destun hanesyddol ganddo a rhoddir gwybodaeth am fywyd a gwaith Charles Sheridan Jones. Yn yr atodiad hefyd cynhwysir y pamffled Lord Penrhyn's Methods: the Press Gag and How it was Burst a oedd yn brwydro dros ryddid y wasg ar adeg tymhestlog tu hwnt yn y byd gwleidyddol," meddai Bethan.

Yn addas iawn bydd y ddwy gyfrol yn cael eu cyhoeddi yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos Iau, Rhagfyr 4, 2003.

Rhannu'r Ty gan Eigra Lewis Roberts. Gwasg Gomer, 拢7.99, 312tt. ISBN 1-84323-320-7

What I Saw at Bethesda gan Charles Sheridan Jones, gyda chyflwyniad gan J. Elwyn Hughes Gwasg Gomer, 拢7.99, 68tt. ISBN 1-84323-324-X


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy