Nefar in Ewrop
Does dim dwywaith bod Llafur wedi ennill brwydr dactegol yn NhÅ·'r Cyffredin ddoe trwy gefnogi gwelliant yn galw am dorri Cyllideb yr Undeb Ewropeaidd.
Trwy gynghreirio gyda rebeliaid Ceidwadol fe lwyddwyd i drechu'r Llywodraeth ac mae colli unrhyw bleidlais yn tanseilio awdurdod unrhyw lywodraeth ac unrhyw Brif Weinidog. Gofynnwch i John Major. Dyw David Cameron ddim yn eithriad i'r rheol a doedd hi ddim yn syndod clywed Ed Miliband yn dweud hyn ar ôl y bleidlais.
"He can't convince European leaders, he can't even convince his own backbenchers. He is weak abroad, he is weak at home: It's John Major all over again."
Buddugoliaeth dactegol i Miliband a Balls felly ond oedd y bleidlais yn gamgymeriad strategol i Lafur?
Yn sicr fe fydd hi'n anoddach i'r blaid feirniadu David Cameron am ddefnyddio feto Prydain os ydy e'n dewis gwneud hynny eto ac mae 'na broblem arall sy'n poeni rhai o hen bennau'r Blaid Lafur y pen yma i'r M4.
Mae'n ddigon hawdd dod o hyd i esiamplau o wastraff yn y sefydliadau Ewropeaidd ac roedd 'na ddigon o hynny yn y ddadl ddoe. Dyma i chi Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys Greg Clark wrth agor y ddadl
"Though they are ready to lecture others on fiscal discipline, it is fiscal incontinence that characterises the approach of the European institutions. Administrative costs need to be hammered down to bring them into line with the modern world, yet the response of the Commission's spokesman has been little short of insolent."
Digon teg efallai. Mae'n anodd cyfiawnhau rhai o arferion Brwsel. Ond faint o gyllideb yr Undeb sy'n cael ei wario ar weinyddiaeth? Mae ffigyrau 2012 ar gael yn .
Fe welwch mai 5.6% o'r gyllideb sy'n cael ei gwario ar weinyddu. Fe fyddai tocio ar hynny o werth symbolaidd efallai er mwyn dangos bod yr Undeb yn rhannu poen ei aelodau ond go brin y byddai'r arbediad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i lyfrau'r gwledydd unigol.
Er mwyn gwneud hynny fe fyddai'n rhaid mynd i ymrafael a'r gwariant gwirioneddol mawr - y 45.9% o'r gyllideb sy'n cael ei wario ar dyfiant economaidd gan gynnwys y cronfeydd strwythurol a'r 40.8% sy'n cael ei wario ar yr amgylchedd - y polisi amaeth yn bennaf.
Go brin y byddai Llafur Cymru na Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld toriadau sylweddol yn y naill neu'r llall o'r rheiny! Dyma i chi ddyfyniad o gan Carwyn Jones yn cyfarch Llysgennad Iwerddon ychydig ddyddiau yn ôl.
"Mae'r UE yn bwysig iawn i'n dwy wlad ac mae llawer o faterion sydd o ddiddordeb cyffredin i ni, o raglenni cyllido'r UE sy'n cefnogi swyddi, at bolisïau gwledig a pholisïau pysgodfeydd. Mae'r Farchnad Gyffredin yn ein galluogi ni i deithio a masnachu yn rhydd rhwng yr holl aelod-wladwriaethau ac mae'n hanfodol i lwyddiant economi Cymru ac economi Iwerddon yn y dyfodol."
Mae'n haws bod yn wrthblaid nac yn Lywodraeth, wrth gwrs, ond fe hoffwn fod yn bry ar y wal y tro nesaf y mae Carwyn Jones yn cwrdd ac arweinydd ei blaid!
Fe fyddai'n ddiddorol clywed Ed Miliband yn esbonio sut y byddai'r syniad o dorri taliadau i'n ffermwyr a chymorth economaidd i'n hardaloedd tlotaf yn apelio at etholwyr Cymru.
SylwadauAnfon sylw
O sôn am San Steffan, mae'n amlwg o benawd y wefan newyddion ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru y bore 'ma fod Julie Morgan 'AS' wedi penderfynu mynd yn ôl i'r twlc hwnnw ar lannau Tafwys!
Fel un sydd wedi derbyn cyflog o gronfeydd Ewropeaidd, credwn fod y datganiad mai "5.6% o'r gyllideb sy'n cael ei gwario ar weinyddu" yn gamarweiniol iawn.
5.6%, dw i'n cymryd, yw'r ganran sy'n cael ei gwario ar gweinyddu yn y canol, cyn dosbarthu'r arian i gronfeydd rhanbarthol ayb. Ond dim ond dechrau'r daith yw hyn. Wrth i'r arian ddiferu lawr drwy'r system, mae pob haen biwrocrataidd yn cymryd ei rhan allan o'r pot. Llai na 50% o'r arian a aeth mewn sy'n dod allan o'r peiriant fel gwaith uniongyrchol ddefnyddiol.
Mae yna ddigon o wastraff i'w harbed yn y systemau ar lefelau is.
Pwynt da iawn gan Paul. Faint o arian Amcan 1 aeth i dalu am y rheolwyr, yr aseswyr a'r arolygwyr ag ati? Oes rhywun yn gwybod?