A Dyma'r Newyddion...
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl croesawodd Owen Edwards wylwyr Cymru i'w gwasanaeth teledu newydd, S4C, gwasanaeth oedd wedi ei sefydlu ar ôl hir ymdrech ac aberth.
Yn syth ar ôl y rhaglen gyfarch darlledwyd rhaglen newyddion gyntaf y sianel. Gwyn Llywelyn a Beti George oedd yn cyflwyno a fi oedd y gohebydd cyntaf i ymddangos gan adrodd stori ynghylch damwain bws yng Ngwent lle'r oedd dwy ferch ysgol wedi eu lladd.
Menna Richards, Alun Lenny, Marian Wyn Jones, Dewi Llwyd a minnau oedd y tîm gohebu gwreiddiol. Roedd y tîm hwnnw wedi ei roi at ei gilydd ar dipyn o fyr rybudd. Tan yn gymharol hwyr yn y dydd y gred gyffredinol oedd mai HTV fyddai'n darparu newyddion S4C. Os cofiaf yn iawn anghytundeb ynghylch hawl HTV i ddefnyddio lluniau ITN wnaeth ddryllio cynlluniau'r cwmni.
Nid fy lle i yw beirniadu safon y gwasanaeth ar hyd y blynyddoedd. Gwell yw gadael hynny i eraill.
Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Ar hyd y blynyddoedd mae newyddiadurwyr ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru wedi gweithio'n galed ar y ffas lo i geisio cynhyrchu rhaglen oedd yn adlewyrchu ein cenedl.
Bu sawl camgymeriad ar hyd y blynyddoedd gyda rhai straeon yn cael eu colli ac eraill yn cael eu dyrchafu yn uwch na'u gwerth. Camgymeriadau gonest oedd y rheiny - doedd 'na a does 'na ddim 'agenda'.
Gyda Dewi yn symud i'r Post Prynhawn yn y flwyddyn newydd fi fydd yr olaf o'r tîm gwreiddiol. Dydw i ddim yn mynd i'r unlle ond hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n nghydweithwyr ar hyd y degawdau ac i ddiolch am y fraint o allu bod yn rhan o sgwennu "drafft cyntaf" hanes y genedl fach hon dros y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf.
SylwadauAnfon sylw
Diolch yn fawr am yr holl waith caled dros y blynyddoedd! Newyddion Cymraeg y ³ÉÈË¿ìÊÖ yw un o'r llefydd lle mae cynnyrch Cymraeg S4C wedi bod cystal a chynnyrch Saesneg y sianeli eraill (rhaglenni plant ac operau sebon yw'r lleill!).