³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2010

Yr Ateb?

Vaughan Roderick | 21:23, Dydd Gwener, 17 Rhagfyr 2010

Sylwadau (2)

Rwy'n dyrchafu sylw i bost blaenarol yn bost yn ei rinwedd ei hun gan fy mod yn credu ei fod yn haeddu hynny.

Huw Jones oedd awdur y sylw. Efallai ei fod yn cynnig ffordd allan o'r picl.

"Mae sylw Emyr Lewis yn mynd at wreiddyn y mater (fel arfer!). Oes yna ffordd o ganiatau i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ddweud nad ydyn nhw'n cael eu "top-sleisio", tra'n sicrhau annibyniaeth ymarferol S4C? Fy awgrym i ydi fod "public service remits" S4C yn parhau i gael eu diffinio mewn statud, sy'n golygu bod yr Awdurdod yn atebol i'r Senedd am eu cyflawni nhw, tra bod yr un geiriad yn union yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pwrpas y gwasanaeth ym mha ddogfen bynnag sy'n diffinio perthynas S4C gydag Ymddiriedolaeth y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Byddai disgwyl i'r geiriad yma fod yr un mor eang a'r "remit" presennol, gan roi rhyddid felly i Awdurdod S4C ei ddehongli o flwyddyn i flwyddyn yn ol ei ganfyddiad ei hun o flaenoriaethau ac o ddymuniadau'r gynulleidfa. Byddai Ymddiriedolaeth y ³ÉÈË¿ìÊÖ, mewn sefyllfa felly, a'r hawl i wneud sylwadau am y gwasanaeth, ond nid y nhw fyddai a'r gair olaf yn hynny o beth. Yn ymarferol,does yna run peirianwaith gan y DCMS i orfodi S4C i newid ei benderfyniadau; yn hytrach mae'r oruchwyliaeth yn deillio o allu'r Ysgrifennydd Gwladol i geryddu'n gyhoeddus, i drefnu adolygiad, ac i ddeddfu o'r newydd os yw'n dymuno. Dwi'n tybio, yn yr un modd, mai grym moesol a deallusol fyddai i unrhyw sylwadau adolygiadol fyddai Ymddiriedolaeth y ³ÉÈË¿ìÊÖ'n eu cynnig ar berfformiad S4C, yn hytrach na grym rheoleiddio - ond mae'n bwysig bod hynny'n cael ei gadarnhau yn y cytundeb rhwng S4C, yr Ymddiriedolaeth a'r DCMS."

Teledu Cymru

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Iau, 16 Rhagfyr 2010

Sylwadau (9)

Wel fe roddodd Mr Cairns tipyn o slamad i S4C yn y pwyllgor dethol yndo?

Mae'n debyg eich bod wedi dal lan a digwyddiadau diweddar yn y Pwyllgor Dethol Cymreig ddydd Mawrth erbyn hyn. Fe ddof i at y rheiny yn y man - ond pwyllgor arall a Mr Cairns arall sy'n denu fy sylw yn gyntaf.

Ddoe roedd y Pwyllgor Dethol Diwylliant yn holi cadeirydd ymddiriedolaeth y ³ÉÈË¿ìÊÖ Syr Michael Lyons ynghylch y drwydded darlledu. David Cairns yw'r 'Mr Cairns arall'. Mae'n aelod Llafur o'r pwyllgor ac yn gyn-weinidog yn Swyddfa'r Alban ac fe ofynnodd y cwestiwn yma;

"...to an outsider S4C appears to be a complete basket case with everybody resigning or being sacked, or industrial tribunals. Does this not strike you as another hospital pass from the Secretary of State, punting this basket case, particularly in light of how well ³ÉÈË¿ìÊÖ Wales is doing?"

Mae'n werth gweld pethau trwy lygaid estron weithiau ac o ben arall yr M4 mae bosib bod cynlluniau'r DCMS yn ymddangos yn fwy o faich i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ nac o fygythiad i'r sianel.

Mae'n ymddangos mai dyna yw barn Syr Michael Lyons.

"...it's very important the ³ÉÈË¿ìÊÖ doesn't leave you with the impression that we went looking to fund S4C. We didn't. It was part of an agreement. It was indeed a component of the initial negotiations that we were most wary of for two reasons - firstly that there might be a danger of top-slicing and we think we've found a way around that - but also we know that in Wales the issue of the independence of S4C is felt very strongly and the ³ÉÈË¿ìÊÖ did not want to leave any suggestion that it was somehow the pioneer of this proposition. When you enter into negotiations you sometimes end up accepting things which you might have chosen not to, that is part of the discussions."

Nawr, wrth gwrs dyw David Cairns na Syr Michael ddim ymhlith gwylwyr S4C. Mae'n werth nodi wrth i eiriau fel "basket case" neu gael eu defnyddio nad cyfeirio at safon rhaglenni S4C na'i ffigyrau gwylio y mae gwleiddyddion ond at y methianau ymddangosiedig mewn rheoleiddio a rheoli sydd wedi nodweddi'r sianel dros y misoedd diwethaf.

Mae hynny'n dod a fi'n naturiol at ymddangosiad Rheon Thomas ac Arwel Ellis Owen ger bron y Pwyllgor Dethol Cymreig.

Ai ddim i fanylion ynghylch hynny ond mae ambell i gwestiwn wedi codi yn ei sgil - a gallai un ohonyn nhw olygu y bydd y ddau yn cael eu galw yn ôl i roi ychwaneg o dystiolaeth. Dyma i chi'r Mr Cairns gwreddiol yn holi Arwel Ellis Owen

Alun Cairns; What was your involvement in terms of the departure of the Chief Executive (Iona Jones)? What role did you have with S4C at that time or prior to the departure?

Arwel Ellis Owen; None at all.

Alun Cairns; So there wasn't a relationship between you or your company and S4C or the S4C Authority...Cambrensis?

Arwel Ellis Owen; None... Cambrensis produce programmes for S4C

Alun Cairns; Isn't that your company?

Arwel Ellis Owen; Well, I'm not a director of Cambrensis. I resigned from those responsibilities when I took over the public appointment as Chair of the Care Council for Wales - and that was twelve months before the date you're talking about here.

Alun Cairns; It's been suggested you were even in the building when the Chief Executive was walked out of the door?

Arwel Ellis Owen; I can deny that completely.

Nawr, does neb yn amau gair Arwel Ellis Owen yn ei ateb olaf. Ar y llaw arall mae'n ffaith ei fod ym Mhencadlys S4C yn fuan ar ol ymadawiad Iona Jones. Mae gan S4C i gais rhyddid gwygbodaeth yn datgelu bod Arwel Elis Owen wedi ei gyflogi yn ystod y cyfnod hwnnw trwy gwmni Cambrensis i roi cyngor cysylltiadau cyhoeddus i'r Awdurdod.

Ym marn rhai o aelodau'r Pwyllgor roedd Arwel, i ddefnyddio term cyfarwydd, yn "economical with the actualité" hynny yw bod gwybodaeth wedi ei ddal yn ôl o gorff sydd a'r hawl i'w wybod.

Mae'n werth cofio efallai mai dyna, yn ôl Rheon Thomas, oedd yr union reswm y diswyddwyd Iona Jones gan Awdurdod S4C.

Dysgu Gwers

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2010

Sylwadau (0)

Roeddwn i'n cyflwyno'r tystysgrifau yn noson wobrwyo ysgol gyfun neithiwr. Dyw tasgau o'r fath ddim yn dod i'm rhan yn aml. Pobol o fyd y campau neu'r celfyddydau sy'n derbyn gigs felly gan amlaf. Rwy'n amau bod fy nghyfaill Robert Glaves, oedd yn trefnu'r noson yn Ysgol Saint Cyres, Penarth wedi palu'n ddwfn trwy ei lyfr cysylltiau cyn dod at fy enw i!

Roeddwn i'n llwyr ddisgwyl y byddai'r rheiny oedd yn derbyn eu tystysgrifau ar y cyfan yn weddol ddi-hid ac anwybodus am wleidyddiaeth. Siom o'r ochor orau oedd canfod mai'r gwrthwyneb oedd yn wir. Mae'n debyg bod cyfuniad o unedau dinasyddiaeth Bagloriaeth Cymru a ffioedd myfyrwyr wedi cynhyrchu criw oedd yn wybodus er ddim yn arbennig o frwdfrydig ynghylch gwleidyddiaeth.

Fe ddoi yn ôl at Saint Cyres yn y man ond cyn hynny rwyf am nodi enwi Cadeirydd yr Ymgyrch Ie yn refferendwm Mis Mawrth. Fe wyddoch yn barod mai Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru sydd wedi ei recriwtio. Os ydy'r arolygon barn i'w credu fe ddylai Roger allu trosi'n ddigon hawdd ar Fawrth y 3ydd gan adael y llwy bren yn nwylo'r ymgyrch na.

"Os ydy'r arolygon barn i'w credu." Dyna yw'r frawddeg allweddol.

Mae tri gwahanol arolwg gan dri gwahanol Cwmni yn ystod yr wythnosau diwethaf i gyd wedi awgrymu bod yr "ie" ymhell ar y blaen i'r "na" ar hyn o bryd. Fe ddylai cysondeb y canlyniadau fod yn ddigon i argyhoeddi unrhyw un eu bod nhw'n gywir.

Y broblem yw fy mod i a bron pawb rwyf wedi trafod y pwnc gyda nhw yn credu y bydd y ras llawer yn agosach. Y dydd o'r blaen er enghraifft fe wnaeth Karl y bwci lunio prisiau ar gyfer y bleidlais. Dyma nhw;

Ie 8-11
Na EVS

Mae Karl wedi seilio ei brisiau ar ddim byd mwy na greddf ac oes o brofiad. Am y rheswm hynny gwnes i ddim eu cyhoeddu cyn hyn. Ar y llaw arall fy nheimlad greddfol i - a llawer i newyddiadurwr a gwleidydd arall - yw bod greddfau Karl yn agosach at y gwir nac ystadegau YouGov, ICM a Beaufort Research. Yn y bôn mae'n anodd credu na derbyn bod pethau wedi newid cymaint ers 1997.

Yn ôl a ni i Fro Morgannwg at ysgol mewn ardal oedd yn gadarn yn erbyn sefydlu'r cynulliad yn 1997. Ysgol dda mewn twlc o adeilad yw Saint Cyres - un o'r llefydd hynny lle mae brwdfrydedd athrawon a disgyblion yn gorfod goresgyn digalondid to fflat pensaernïaeth y chwedegau.

Ar hyn o bryd mae'r Ysgol yn disgwyl penderfyniad gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor y Fro ynghylch cynllun £40 miliwn i godi ysgol newydd sbon ar y safle. Mae'r arwyddion i gyd yn bositif.

Yn y cyfamser roedd y myfyrwyr oedd yn casglu eu tystysgrifau yn llwyr ymwybodol o'r gwrthgyferbyniad rhwng polisi Llywodraeth Cymru a pholisi Llywodraeth y DU ynghylch ffioedd myfyrwyr.

Sut mae athrawon Saint Cyres, y disgyblion a'u rhieni yn gweld y Cynulliad felly a sut maen nhw'n debyg o bleidleisio yn Mis Mawrth? Gwnes i ddim gofyn a dweud y gwir - ond efallai nad yw'r arolygon yn anghywir wedi'r cyfan.

Palu'n ddyfnach

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Iau, 9 Rhagfyr 2010

Sylwadau (1)

Mae cyhoeddi "cyllideb" yn gallu bod yn beth peryg i wrthblaid.

Ar lefel Brydeinig fe wnaeth Llafur syrthio i'r trap hwnnw ar drothwy etholiad 1992 wrth i Ganghellor yr Wrthblaid, John Smith, gyhoeddi cynlluniau economaidd manwl.

Roedd y bwriad strategol yn amlwg. Roedd Llafur wedi addo cynyddu pensiwn y wladwriaeth a budd-dal plant ac yn dioddef ymosdodiadau cyson gan y Ceidwadwyr am beidio esbonio o ble y byddai'r arian yn dod.

Ateb y cwestiwn hwnnw oedd pwrpas y "shadow budget" ond roedd y faith ei bod yn cynnwys cynlluniau i gynyddu trethi'r dosbarth canol yn fel ar fysedd y Ceidwadwyr.

Mae sawl un yn credu mai cyllideb yr wrthblaid wnaeth arwain at fuddugoliaeth annisgwyl John Major yn 1992. Yn bersonol, ryw'n digwydd credu bod amheuon ynghylch hygrededd Neil Kinnock yr un mor bwysig. Serch hynny, erys y wers. Mae manylu gormod ynghylch eich cynlluniau ariannol yn gallu bod yn beryglus.

Mae Ceidwadwyr y Cynulliad yn wynebu problem debyg. Pan gyhoeddodd y blaid ei haddewid i ddiogelu'r gyllideb iechyd fe berodd hwnnw wir bryder i hen bennau'r pleidiau eraill.

Beth bynnag oedd ei ragoriaethau neu ffaeleddau fel polisi, roedd yr addewid yn un syml, yn hawdd ei ddeall ac yn debyg o fod yn boblogaidd. Roedd tynnu'r addewid hwnnw'n ddarnau yn flaenoriaeth i bleidiau'r llywodraeth a'r Democratiaid Rhyddfrydol fel ei gilydd. Efallai nad oedd y Ceidwadwyr yn disgwyl ymosodiadau mor ffyrnig ond yn fuan fe lwyddodd y pleidiau eraill i greu cryn ddryswch ynghylch y polisi.

Addewid gwreiddiol Nick Bourne oedd y byddai'r Ceidwadwyr yn cynyddu cyllideb yr adran iechyd yn unol â chwyddiant wedi ei fesur ar raddfa'r RPI. Mae hynny'n wahanol ac yn uwch na'r mesur chwyddiant y mae'r llywodraeth yn defnyddio sef y 'GDP deflator'.

Wrth gael ei holi ynghylch hynny ar Radio Wales fe ddrysodd Andrew R.T Davies, y llefarydd iechyd, yn llwyr gan addo y byddai'r cynnydd yn y gwariant ar sail cyfanswm y ddau fesur - hynny yw y byddai'r cynydd yn ddwbl lefel chwyddiant!.

Y diwrnod wedyn cafwyd cywiriad arall felly. Y "GDP Deflator" ac nid RPI fyddai'r mesur allweddol!

Doedd hi ddim yn rhyfeddod i un o newyddiadurwyr y Cynulliad (nid un o rai'r ³ÉÈË¿ìÊÖ) amau bod hwn yn bolisi "wedi ei weithio mas ar gefn pecyn sigars"!

Ond prif ymosodiad y pleidiau eraill oedd yr un clasurol - "o ble mae'r arian yn dod?". Ers wythnosau mae'r Ceidwadwyr wedi addo ateb y cwestiwn hwnnw gan addo gwneud mewn ffordd fanwl na welwyd ei thebyg gan wrthblaid o'r blaen.

Heddiw cafwyd yr ateb hwnnw.

Yn wahanol i 'gyllideb' John Smith doedd 'na ddim lansiad drudfawr - dim cynhadledd newyddion hyd yn oed. Yn hytrach cafwyd datganiad dwy dudalen o hyd yn nodi faint y byddai'r Ceidwadwyr yn torri o gyllideb pob adran. Fe wneir hynny ar ffurf canran yn hytrach na swm ariannol. Fe fyddai'r adran addysg, er enghraifft, yn wynebu toriadau o 12% o gymharu â'r 8% y mae'r Llywodraeth yn eu bwriadu.

A fydd y datganiad yn ddigon i dawelu'r dyfroedd? Mae'r strategaeth yn weddol eglur.

Trwy ryddhau'r datganiad reit ar ddiwedd y tymor ac yr un diwrnod a dadl y ffioedd yn San Steffan mae'n bosib na fydd y stori'n derbyn llawer o sylw. Dyna, rwy'n tybio, yw gobaith y Ceidwadwyr. Pan ofynnir ynghylch ariannu'r addewid yn y dyfodol fe fydd y blaid yn mynnu bod y cwestiwn eisoes wedi ei ateb.

Mae'n bosib y gallai hynny weithio fel tacteg - ond gyda misoedd i fynd tan yr etholiad mae'r un mor bosib bod y blaid ar fin troi twll yn bwll.

Diwrnod tân gwyllt

Vaughan Roderick | 09:55, Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2010

Sylwadau (9)

Mae'n fis ers i ni ddathlu Noson Guto Ffowc - os mai dathlu yw'r gair cywir. Yn achos y Cynulliad gellid dadlau mai heddiw yw'r ŵyl tân gwyllt go iawn. Mae 'na gyfres o straeon yn debyg o dasgu a ffrwydro yn ystod y dydd heddiw. Post agored yw hwn. Byddaf yn ychwanegu ato yn ystod y dydd.

Bant a ni felly.

Mae ffigyrau PISA newydd eu cyhoeddi. Rhain yw'r mesuriadau swyddogol ynghylch cyflwr ein hysgolion. Dengys y ffigyrau bod Cymru ar ei hôl hi ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers yr adroddiad diwethaf yn 2006. Mwy am hyn yn y man.

Y prynhawn yma fe fydd y Cynulliad yn trafod y mesur iaith. Ysgrifennais ddydd Gwener am welliannau Bethan Jenkins i'r mesur gan ddweud hyn.

"Does dim dwywaith yn fy meddwl y bydd y gwrthbleidiau yn cefnogi'r gwelliant.
Y cwestiwn nawr yw a fydd eraill o rengoedd Plaid Cymru yn fodlon gwneud hynny?"

Mae'n ymddangos ar hyn o bryd mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw 'dim llawer'.

10.20 Mae Leighton Andrews newydd ryddhau datganiad ynghylch PISA. Mae ei eiriau'n ddigyfaddawd. Mae'r ffigyrau'n 'annerbyniol' a dyw e ddim am gynnig esgusodion. Mae'n ysgolion yn dioddef o 'fethiant systemig' yn ôl y gweinidog. Beth fydd gan Carwyn Jones i ddweud yn ei gynhadledd newyddion diwedd tymor, tybed?

10.55; Fe fydd y Mesur Iaith yn un 'gyfreithiol gadarn' medd Carwyn gan ychwanegu y byddai gwelliannau Bethan Jenkins yn "codi cwestiynau cyfreithiol'. Gallwn gymryd nad yw'r Llywodraeth am ildio felly.

A beth am PISA? Mae'r Llywodraeth am ystyried y data'n ofalus cyn llunio rhaglen weithredol medd Leighton Andrews ond yn ôl y gweinidog mae llawer o'r bai 'yn yr ystafell dosbarth'. Onid yw hynny'n amlwg?

11. 55. "Stynt cyhoeddusrwydd" yw gwelliannau Bethan Jenkins yn ol y Denmocratiaid Rhyddfryfol ond fe fydd y blaid yn pleidleisio drosto "os ydy'r gwelliant yn cvael ei symud yn y diwedd". Methiant Leanne Wood i symud gwelliannau a chyflwynwyd ganddi yn y pwyllgor sydd wrth wraidd sinigiaeth y blaid.

12.25 Gwelliant newydd gan y Llywodraeth i'r Mesur Iaith - reit debyg i un Bethan Jenkins ar yr olwg gyntaf. Mae'n dweud hyn; Adran 1, tudalen 12, ar ddechrau llinell 15

12.55 DATGANIAD AR Y CYD GAN YR ATHRO RICHARD WYN JONES AC EMYR LEWIS

"Rydym yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi dwyn y gwelliant hwn gerbron. Mae'r datblygiad cyffrous hwn ar y munud olaf yn dangos bod gennym yng Nghymru Lywodraeth sy'n gwrando ar ei phobl ac yn ymateb yn gadarnhaol i farn ei hetholwyr. Diolch i'r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones ac i'r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins am eu harweiniad a'u gweledigaeth. Dyma gam hanesyddol sy'n mynd i osod sail gadarn ar gyfer y dyfodol. Eisiau byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg y mae pobol wedi'r cyfan, nid protestio ynghylch yr iaith byth a hefyd. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn cydnabod yr hyn gyflawnwyd heddiw. Carem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn llythyru, yn e-bostio, yn ffonio, ac yn cyfarfod â'r Aelodau Cynulliad er mwyn eu cymell i gefnogi'r egwyddor ganolog o statws swyddogol cyflawn i'r iaith Gymraeg. Bydd pawb yn gallu cysgu'n dawel heno. Wrth gwrs bydd cyfrifoldeb pob copa walltog tuag at y Gymraeg yn parhau a hyderwn y bydd modd i ni i gydweithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol iach i'n hiaith."

13.55 Fe wnes i ddweud y byddai 'na dan gwyllt heddiw. Woosh! Bang! Mae John Walter Jones yn gadael S4C yn syth.

14.05 Pigion o lythyr ymddiswyddiad JWJ (yn Saesneg yn unig ac wedi ei theipio ar Remington, mae'n ymddangos);

"The situation pertaining at S4C cannot be allowed to continue. Clearly there are those that are reluctant to allow the organised change that you and I agreed upon in November to take place."

"The current obsessions by some with issues neither related to content nor output is saddening, but it must be realise that whilst a myriad different agendas exist, S4C is broadcasting programmes of which it can be rightfully proud. The vast majority of staff are dedicated to delivering success for S4C."

14.30 Gallwch wylio dadl y Mesur Iaith ar

15.30 Datganiad Cymdeithas yr Iaith;

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg gan ddweud mai mesur yn cynnwys statws swyddogol i'r Gymraeg yn ogystal a hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yr oeddent wedi ymgyrchu amdano, nid mesur gor-gymhleth fel a fydd yn cael ei basio y prynhawn yma.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llawenhau fod llawer o welliannau yr oeddent wedi galw amdanynt wedi eu gwneud yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys hawl i unigolion apelio yn erbyn penderfyniad sy'n cyfateb i hawl cyrff a chwmniau i apelio yn erbyn safon a osodir arnynt i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Dywedodd Catrin Dafydd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

'Am y tro cyntaf yn hanes ein gwlad, mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu hyn a dylai fod yn destun balchder i'r genedl. Serch hynny, nid dyma'r mesur rydym wedi ymgyrchu amdani oherwydd nid yw'n mynd i'r afael â'n prif bryderon am sefyllfa'r iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw. Mae egwyddor graidd yn parhau i fod ar goll yn y mesur. Nid yw'r llywodraeth wedi sicrhau hawliau yn unol â'i haddewid. Mae gormod o amser wedi ei wastraffu yn trafod am statws yr oedd cymaint o gonsensws amdano'n barod, yn lle meddwl am ddeddfwriaeth blaengar i Gymru. Y cam synhwyrol nesaf yw i fynd i'r afael â'r berthynas ymarferol rhwng bobl Cymru â'r Gymraeg. Mae'r mesur hwn yn grymuso swyddogion, ond nid yw'n grymuso dinasyddion yn yr un modd, a bydd diffygion y mesur yn siwr o ddangos hynny yn y dyfodol. Mae hefyd yn fesur hynod gymhleth ac mae pryder gwirioneddol gennym ynghylch sut y bydd modd ei weithredu er lles y Gymraeg a phobl Cymru. Mae'r gyd-berthynas rhwng statws a hawliau yn ddiymwad, ac mae'r grym y byddai gan hawliau i sicrhau fod y safonau'n gweithio'n effeithiol yn ddiymwad yn ogystal. Fel y saif y mesur ar hyn o bryd, does dim egwyddor yn gyrru'r safonau. Hawliau yw'r unig beth fyddai'n ymrymuso pobl ac yn newid hyn. Ein bwriad fel ymgyrchwyr yw galw am ddeddfwriaeth newydd yn y Cynulliad nesaf a fydd yn grymuso dinasyddion drwy sicrhau hawliau i bobl weld, clywed, dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru.'

1700 Mae'r Mesur Iaith wedi ei basio...ac mae JWJ ar Post Prynhawn!

Mesur wrth fesur

Vaughan Roderick | 15:25, Dydd Gwener, 3 Rhagfyr 2010

Sylwadau (14)

Fe fydd y Mesur Iaith yn cyrraedd pen ei daith y Cynulliad wythnos nesaf a pharhau mae'r ddadl ynghylch union eiriad y cymalau yn ymwneud a statws y Gymraeg.

Mae'r gwrthbleidiau wedi cynnig gwelliant a fyddai'n cyflawni'r hyn y mae Cymdeithas yr Iaith a rhai ymgyrchwyr iaith yn dymuno gweld sef y datganiad diamwys yma.

"Y Gymraeg ar Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ac mae eu dilysrwydd a'u statws yn gyfartal."

Mae Llywodraeth ac ymgyrchwyr iaith eraill yn amheus ynghylch datganiad o'r fath gan ei bod hi'n bosib y byddai'r llysoedd yn gorfod barnu ei union ystyr - gan o bosib cyfyngu effaith y cymal i'r meysydd datganoledig.

Ta beth, does dim gobaith caneri i'r gwelliant basio. Beth bynnag yw eu safbwyntiau neu deimladau personol dyw Aelodau Cynulliad Plaid Cymru ddim yn debyg o bleidleisio o blaid gwelliant o eiddo'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond beth yw hyn? Gwelliant arall, y tro hwn wedi ei gynnig gan aelod Plaid Cymru, Bethan Jenkins. Dyma mae'n ei ddweud.

Adran 1, tudalen 12, ar ddechrau llinell 15, ychwanegwch-
"Heb gyfyngu ar effaith gyfreithiol gyffredinol adran 1(1) uchod‟

Beth mae'r gwelliant bach hwnnw yn gwneud?

Wel, fe fyddai'n cael union yr un effaith a gwelliant y gwrthbleidiau. Does dim rhyfedd bod Meredydd Evans Angharad Price a Ned Thomas, tri o'r 85 anfonodd lythyr agored at Alun Ffred Jones ynghylch statws swyddogol wrth eu boddau:

"Yr ydym yn llongyfarch Bethan Jenkins yn wresog am ei gweledigaeth a'i dewrder yn cynnig gwelliant syml i'r Mesur Iaith fydd yn sicrhau statws swyddogol cyflawn i'r Gymraeg. Dyma beth yw ystyr democratiaeth iach. Mae Bethan Jenkins wedi gwneud ei safiad."

Does dim dwywaith yn fy meddwl y bydd y gwrthbleidiau yn cefnogi'r gwelliant.

Y cwestiwn nawr yw a fydd eraill o rengoedd Plaid Cymru yn fodlon gwneud hynny?

Cadw TÅ· mewn Cwmwl Tystion

Vaughan Roderick | 09:52, Dydd Gwener, 3 Rhagfyr 2010

Sylwadau (19)

Rwyf wedi bod yn teimlo'n isel yr wythnos hon. Does a wnelo hynny ddim byd a'r tywydd, gwaith na gwleidyddiaeth. Yn hytrach mae tasg fach ddigon di-nod wedi bod yn chwarae ar fy meddwl.

Mae'r Capel lle'r roedd fy nhad-cu yn weinidog am ddeugain mlynedd yn y broses o gael ei gau a'i werthu ac roeddwn i eisiau sicrhau nad oedd ei dabl goffa yn glanio lan mewn sgip neu ar domen rwbel. Roedd yr hen foi wedi marw ymhell cyn fy nyddiau i ond rwy'n digwydd teimlo bod gan rywun ddyled a dyletswydd i aelodau 'r teulu - hyd yn oed y rhai sydd wedi ein gadael.

Doedd gen i fawr i gysylltiad â'r Capel chwaith. Llond dwrn o weithiau yr oeddwn wedi bod yna. Y tro diwethaf oedd gwasanaeth y Canmlwyddiant rhyw ddwy neu dair blynedd yn ôl. Roedd hi'n amlwg bryd hynny bod y diwedd y dod gyda chyflwr y nenfwd yn beryglus a'r rhan helaeth o'r gynulleidfa fechan yn wragedd oedrannus oedd wedi gweld eu dynion yn cael eu haberthu ar allor o lo caled.

Eto i gyd, roeddwn i'n teimlo fy mod yn nabod y lle. Mae straeon teuluol yn treiddio i gof dyn. Gallaf ddychmygu'n hawdd y ffraeo pan lwyfannodd y Gymdeithas Ddrama ddrama Saesneg, y ffordd yr oedd perchennog y bragdy yn derbyn rhybudd caredig os oedd 'na bregeth ddirwest i fod a phregeth heddwch fy nhad-cu wrth i'r Almaenwyr groesi ffin Gwlad Pwyl yn yr oedfa olaf i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ei darlledu cyn dechrau'r rhyfel.

Dydw i ddim yn ddyn capel a dylai cau un ohonyn nhw ddim effeithio arnaf - ond mae cau hwn wedi gwneud hynny a dwi'n meddwl fy mod yn deall pam.

Fe gefais i fy ngeni a'n magu yng Nghaerdydd. Yr unig brofiad neu gysylltiad â'r bröydd Cymreig oedd gen i fel crwt oedd yr ymweliadau cyson a Chwm-gors - y pentref bach gwyrthiol lle'r oedd pawb yn siarad yr un iaith a fi ac yn gwybod pwy o'n i er nad oeddwn i'n byw yno.

Trwy gydol fy mywyd rwyf wedi bod yn optimist ynghylch dyfodol y Gymraeg. Wedi'r cyfan, yn y ddinas hon rwyf wedi bod yn dyst i ddadeni Cymreictod gyda thwf aruthrol yn addysg a bywyd Cymraeg. Mae'r Capel Cymraeg lleol newydd godi estyniad er mwyn y nefoedd!

Rwyf wedi bod yn ymwybodol wrth reswm o'r ystadegau a'r straeon o'r ardaloedd Cymraeg - ond dydw i erioed wedi teimlo ing y sefyllfa o'r blaen.

Am y tro cyntaf efallai rwy'n deall teimladau pobol sy'n gwylio'r goleuadau'n cael eu diffodd un wrth un.

Darllen y perfeddion

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2010

Sylwadau (9)

Iesgob mae'n oer heddiw! O leiaf mae'r tywydd yn rhoi esgus i mi wisgo fy anorac wrth ymbalfalu trwy berfeddion arolwg barn ICM/³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru!

Yn amlach na pheidio mae manylion arolwg yn cynnwys ambell i berl a dyw hwn ddim yn eithriad.

Fe fydd y rheiny ohonoch chi wnaeth ddilyn y ffrae rhwng Angharad Mair a'r Byd a'r Bedwar ynglÅ·n ag arolwg YouGov ynghylch S4C yn ymwybodol o ba mor ddadleuol y mae defnyddio is-setiau o grombil arolwg yn gallu bod! Serch hynny dyw cofnodi canlyniadau is-setiau ddim yn ddibwrpas yn enwedig os mae'r bwriad yw ceisio canfod patrymau o fewn y sampl gyfan.

Mae arolwg ICM, er enghraifft, yn cynnwys canlyniadau ardaloedd cyngor Cymru fel is-setiau. Gyda llai na hanner cant o bobol yn rhai o'r setiau hynny mae'r canlyniadau unigol yn weddol ddi-werth ond mae'n bosib defnyddio'r cyfan ohonyn nhw i ganfod a ydy patrwm daearyddol y gefnogaeth i ddatganoli wedi newid ers refferendwm 1997.

Beth yw'r sefyllfa y tro hwn felly? Ai yn y cymoedd a'r ardaloedd Cymraeg y mae cryfder yr ymgyrch 'Ie' y tro hwn gyda'r ochor 'Na' chryfder yn siroedd y dwyrain?

Mae'r ateb yn ddiddorol. Mae'r ochr "Ie" ar y blaen ym mhob un ardal cyngor ond mae hi ar ei chryfaf yng Ngheredigion, Wrecsam, Conwy. Pen-y-bont, Casnewydd a Gwynedd - yn y drefn yna.

Mae tair o'r ardaloedd hynny yn rhai wnaeth bleidleisio yn erbyn datganoli yn 1997.

Yn ôl ICM mae'r gefnogaeth gryfaf i'r ymgyrch 'Na' yn Sir Benfro, Powys, Caerffili, Bro Morgannwg a Thorfaen. Roedd Caerffili yn fuddugoliaeth bwysig i gefnogwyr datganoli yn 1997.

Mae'n amlwg o'r ffigyrau nad yw patrwm 1997 o hyd mewn bodolaeth yn wir mae'n anodd canfod unrhyw fath o batrwm daearyddol o gwbwl - ac eithrio un.

Mae 'na eithriadau ond mae'n ymddangos bod y gefnogaeth i ddatganoli yn uwch mewn ardaloedd sy'n cael eu cynrychioli gan aelodau proffil uchel - yn enwedig os ydy'r aelodau hynny yn eistedd ar feinciau'r Llywodraeth.

Mae'n gwneud synnwyr perffaith os feddyliwch ch am y peth. Gyda fawr o neb eto yn deall y cwestiwn mae atebion yr etholwyr yn dibynnu ar eu canfyddiad o'r Cynulliad ac mae'r canfyddiad hwnnw yn dibynnu i raddau ar berfformiad yr aelod lleol.

Mae hynny'n awgrymu i mi y gallai apeliadau a negeseuon personol gan aelodau fod yn bwysig yn y refferendwm ac mai camgymeriad fyddai i'r ymgyrchoedd ddibynnu'n llwyr ar neges a ddeunydd ymgyrchu cenedlaethol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.