Yr Ateb?
Rwy'n dyrchafu sylw i bost blaenarol yn bost yn ei rinwedd ei hun gan fy mod yn credu ei fod yn haeddu hynny.
Huw Jones oedd awdur y sylw. Efallai ei fod yn cynnig ffordd allan o'r picl.
"Mae sylw Emyr Lewis yn mynd at wreiddyn y mater (fel arfer!). Oes yna ffordd o ganiatau i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ddweud nad ydyn nhw'n cael eu "top-sleisio", tra'n sicrhau annibyniaeth ymarferol S4C? Fy awgrym i ydi fod "public service remits" S4C yn parhau i gael eu diffinio mewn statud, sy'n golygu bod yr Awdurdod yn atebol i'r Senedd am eu cyflawni nhw, tra bod yr un geiriad yn union yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pwrpas y gwasanaeth ym mha ddogfen bynnag sy'n diffinio perthynas S4C gydag Ymddiriedolaeth y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Byddai disgwyl i'r geiriad yma fod yr un mor eang a'r "remit" presennol, gan roi rhyddid felly i Awdurdod S4C ei ddehongli o flwyddyn i flwyddyn yn ol ei ganfyddiad ei hun o flaenoriaethau ac o ddymuniadau'r gynulleidfa. Byddai Ymddiriedolaeth y ³ÉÈË¿ìÊÖ, mewn sefyllfa felly, a'r hawl i wneud sylwadau am y gwasanaeth, ond nid y nhw fyddai a'r gair olaf yn hynny o beth. Yn ymarferol,does yna run peirianwaith gan y DCMS i orfodi S4C i newid ei benderfyniadau; yn hytrach mae'r oruchwyliaeth yn deillio o allu'r Ysgrifennydd Gwladol i geryddu'n gyhoeddus, i drefnu adolygiad, ac i ddeddfu o'r newydd os yw'n dymuno. Dwi'n tybio, yn yr un modd, mai grym moesol a deallusol fyddai i unrhyw sylwadau adolygiadol fyddai Ymddiriedolaeth y ³ÉÈË¿ìÊÖ'n eu cynnig ar berfformiad S4C, yn hytrach na grym rheoleiddio - ond mae'n bwysig bod hynny'n cael ei gadarnhau yn y cytundeb rhwng S4C, yr Ymddiriedolaeth a'r DCMS."
SylwadauAnfon sylw
Mae Emyr Lewis yn gywir.Dydy e ddim yn bossible o gwbl i barhau gyda annibynniaeth S4C - yn seiliedig mewn fframwaith statudol - ac eto i S4C ddod o dan dylanwad y ³ÉÈË¿ìÊÖ Trust. Fyddai hwn fel fod yn was i ddau feistr.
Yn y pendraw nid mater ariannol ydy hwn neu hyd on oed problem cyllid Prydain fyr-oes.Mater cyfansoddiadol yc yn wir wleidyddol ydy e y dylai cael ei settlo yn wleidyddol. Beth yw barn Senedd Cymru are y cwestiwn? Er nad ydy'r Bae yn gyfrifol am S4C -hyd yn hyn-mae hwn yn fater o bwysigrwydd cenedlathol ,onid e? Pe bai gwleiddyion Cymru yn y Bae ac yn Sain Steffan is siarad yn un are y pwnc mae'n anodd gweld sut y byddai Mike Lyons a'r criw yn y ³ÉÈË¿ìÊÖ Trust gallu fixo'r mater gyda y DCMS uwch pennau pobl Cymru. Or am I missing something?
Tim -yes that tim -Williams
Ble wyt ti gyfaill???