Y dall yn arwain y dall
Dydw i ddim yn gwybod faint o fynd a dod sy 'na rhwng Y Bala a Bala Cynnwyd yn yr Unol Daleithiau erbyn hyn. Dydw i ddim yn gwybod chwaith faint o bobl y cwm sy'n ymweld â chymuned gyfagos Welsh Valley.
Mae'n gyd-ddigwyddiad mae'n rhaid bod un o addewidion "7 i 07" Plaid Cymru wedi cael ei wireddu gan y bwrdd sy'n rhedeg ysgolion Bala Cynwyd a Welsh Valley. Yr addewid i roi gliniaduron i ddisgyblion ysgol er mwyn astudio yn eu cartrefi oedd yr addewid hwnnw.
Bwrdd ysgolion (Meirion, rwy'n cymryd) oedd un o'r rhai cyntaf yn yr Unol Daleithiau i arbrofi gyda chynllun o'r fath. Mae'r cyfan wedi troi'n ar ôl i rieni ddarganfod bod gan y bwrdd y gallu i ysbio'n ddiarwybod ar ddisgyblion yn eu cartrefi trwy'r camerâu ar y gliniaduron.
Mae'r FBI a heddlu Sir Drefaldwyn, sori Montgomery County, yn ymchwilio. Efallai bod Plaid Cymru (a disgyblion Ysgol y Berwyn) wedi cael dihangfa lwcus!