Paratoi am barti
Mae'n sicr eich bod chi wedi cael y profiad wrth gynnal parti o'r cyfnod arswydus yna rhwng yr amser y roedd pawb i fod cyrraedd a'r gnoc gyntaf ar y drws.
Mae'r bwyd ar y bwrdd y gwin yn y ffrij a diawl o neb wedi cyrraedd! Ydy nhw'n mynd i ddod o gwbwl? Ble ar y ddaear maen nhw? Ti'n siwr mai heno ddywedon ni?
Rhyw deimlad fel 'na sy yn y Bae ar hyn o bryd wrth i bawb ddisgwyl i'r ymgyrch etholiadol go iawn gychwyn. Mae pawb yma'n gorfforol wrth gwrs (hyd yn oed Mick Bates) ond mae 'na 'ryw deimlad bod meddyliau pawb ar bethau eraill.
Mae pob math o sibrydion o gwmpas y lle. Pa Aelod Seneddol, er enghraifft, wnaeth ddweud, yn ôl rhai, ei fod yn "edrych ymlaen at fynd yn ôl at ddysgu?" ac oes 'na wirionedd yn y sibrwd bod ambell Aelod Seneddol yn bwriadu sefyll lawr ar y funud olaf?
Troi ei feddwl at beth allai ddigwydd ar ôl yr etholiad os oes 'na senedd grog wnaeth Nick Bourne heddiw. I fod yn deg i Nick, dyw e ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd. Fi wnaeth ofyn iddo ba gyngor y byddai'n rhoi i David Cameron ar sail ei brofiadau o geisio delio a Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007.
Wrth son am Blaid Cymru awgrymodd Nick yn ddrygionus y gallai David Cameron sicrhau eu cefnogaeth yn weddol hawdd. Wedi'r cyfan, meddai, doedd y blaid ddim wedi codi llawer o bris i Lafur am eu cefnogaeth yn y Cynulliad!
A'r Democratiaid Rhyddfrydol? Dim ond gobeithio oedd Nick na fyddai'r blaid yn troi ei hun yn "jôc genedlaethol" fel gwnaethon nhw ynghylch yr enfys.
SylwadauAnfon sylw
Pa Aelod Seneddol, er enghraifft, wnaeth ddweud, yn ôl rhai, ei fod yn "edrych ymlaen at fynd yn ôl at ddysgu?"
Athro oedd Mark Williams (Ceredigion) ondife?