³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr ifanc a wyr, Syr Emyr a dybia

Vaughan Roderick | 00:01, Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2009

_45594442_convention2263bbc.jpg£1.3 miliwn o bunnau, tair mil o ddarnau o dystiolaeth a dwy flynedd o fywyd un o ddiplomyddion mawr Prydain. Dyna "Confensiwn Cymru Gyfan" i chi. A beth mae'r llywodraeth wedi cael am ei harian?

Wel, nid rhyw adroddiad "ar y naill law.. ar y llaw arall". Yn hytrach y neges yw "cerwch amdani".

Yng ngeiriau un person nid nepell o Syr Emyr os oedd pobol yn disgwyl i'r diplomydd gynhyrchu rhywbeth "fuzzy" fe fyddan nhw wedi eu siomi! Mae gen i deimlad bod y posibilrwydd o adroddiad o'r fath wedi diflannu'r eiliad y gwnaeth Don Touhig honni y byddai angen sat-nav ar Syr Emyr i ddod o hyd i Gymru!

Hanfod yr adroddiad yw beirniadaeth lem o'r system bresennol o roi pwerau fesul dipyn i'r cynulliad. Y sypreis gyntaf yw nad y system LCO sy'n poeni'r Confensiwn fwyaf. Dyw'r aelodau ddim yn or-hoff o honna ond y ffordd arall o drosglwyddo grymoedd i Gymru, y "pwerau fframwaith" sy'n eu cythruddo mewn gwirionedd.

O leiaf gyda'r LCOs mae San Steffan a'r Cynulliad yn cael dweud eu dweud ynghylch y pwerau sy'n cael eu trosglwyddo. Gyda phwerau fframwaith, San Steffan yn unig sy'n eu hystyried ac mae hynny'n golygu ychydig funudau o ystyriaeth os hynny. Yn y bon dywed adroddiad Syr Emyr fod pwerau fframwaith yn cael eu trosglwyddo ar fympwy gweinidogion yn Llundain heb unrhyw fath o drafodaeth gyhoeddus go iawn. Mae pwerau pwysig yn cael eu trosglwyddo felly heb fawr o ystyriaeth tra bod pwerau cymharol ddibwys yn gaeth am flynyddoedd yn y gyfundrefn LCO gan dderbyn scriwtini ymhell tu hwnt i'r haeddiant.

Mae hynny, yn ôl y Confensiwn, wedi creu system sy'n aneglur, hyd yn oed i wleidyddion, ac yn gwbl annealladwy i'r cyhoedd. Yn ogystal mae'n rhwystro'r Cynulliad rhag gallu deddfu'n strategol. Er mwyn llunio deddf gynhwysfawr ynghylch newid hinsawdd, er enghraifft, fe fyddai angen hanner dwsin o wahanol LCOs neu fesurau fframwaith yn ymwneud a gwahanol adrannau Whitehall.

Fe fyddai trosglwyddo pwerau llawn i'r cynulliad yn datrys y broblem. Dyna oedd barn unfryd y Confensiwn ac mae'r aelodau o'r farn y gellid gwneud hynny heb gynyddu nifer yr aelodau ym Mae Caerdydd ac heb unrhyw gostau ychwanegol sylweddol.

A fyddai cefnogwyr datganoli yn ennill refferendwm? Mae hynny'n bosib er nid yn sicr yn ôl y Confensiwn. 47% o blaid, 37% yn erbyn oedd canlyniad ei arolwg barn, ffigyrau digon tebyg i arolygon eraill. Ond yn ôl un aelod roedd cyfarfodydd cyhoeddus y Confensiwn yn awgrymu mae'r mwy fyth y mae etholwyr yn deall y cwestiwn y mwy fyth yw'r gefnogaeth.

Yn ôl aelod arall gallai llawer ddibynnu ar faint o ymddiriedaeth fydd gan y cyhoedd yn arweinwyr yr ymgyrchoedd. Yn 1975 meddai, pleidleisiodd y mwyafrif o blaid y Farchnad Gyffredin am bod ganddyn nhw fwy o ffydd yn Harold Wilson, Ted Heath a Jeremy Thorpe nac yn Tony Benn ac Enoch Powell.

Y casgliad clir yw bod poblogrwydd digamsyniol Rhodri Morgan yn arf bwerus yn nwylo cefnogwyr datganoli ac y dylid defnyddio'r arf honno cyn iddi golli ei sglein.

Wrth gwrs bysai rhyw un fel Syr Emyr fyth yn dweud rhyw beth mor wleidyddol â hynny ar goedd neu hyd yn oed yn breifat ond roedd y neges yn eglur. Rhodri v. Touhig. "Bring it on"- sat nav neu beidio!

Drosodd i chi, Rhodri!

Fe ddylai'r adroddiad fod ar erbyn hyn ac mae gen i ar y tudalennau newyddion.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 01:59 ar 18 Tachwedd 2009, ysgrifennodd dewi:

    12.01....!!!

  • 2. Am 08:40 ar 18 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    "Posib ond nid sicr" - y geiriau dylai'r rhai o blaid datganoli wedi eu darogan eisoes, dwi'n meddwl, cyn cynhyrfu gormod. Y broblem fawr rwan ydi, er bod y refferendwm yn enilladwy a bod y glymblaid yn ddibynnol arno, mae bellach lle go iawn i Lafur gyfiawnhau peidio â chynnal refferendwm drwy ddweud na ddylid cynnal refferendwm nes fod y canlyniad yn gwbl sicr.

    Megis dechrau y mae'r ddadl, a dwi fel un ddim yn sicr o hyd y cawn un.

  • 3. Am 10:10 ar 18 Tachwedd 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    A oes yna unrhyw beth diddorol yn mynd i ddigwydd heddiw, Vaughan?

    Roeddwn i'n gwrando ar Richard Wyn Jones yn ddiweddar, ac mi roedd o mor sicr ag y gallai unrhyw un fod, fod yna bellach gefnogaeth solet i'r Cynulliad sy'n golygu nad oes yna unrhyw reswm pam na ddylai refferendwm fod yn llwyddiannus. Ac mae'r ystadegau yno i brofi hynny. Wyt ti'n cytuno Vaughan?

  • 4. Am 10:44 ar 18 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rhyw ymatebion digon ffurfiol fydd 'na heddiw. Dyw pethau ddim yn debyg o ddod yn fwy eglur tan i olynydd Rhodri gael ei ddewis ond gallai dadl wythnos nesaf ar araith y frenhines fod yn ddifyr. Dyna'r unig achlysur lle mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn annerch ac yn cymryd rhan yn nhrafodaethau'r Cynulliad.

  • 5. Am 11:14 ar 18 Tachwedd 2009, ysgrifennodd JUMBO:

    Da iawn Syr Emyr . . . a diolch.

    Ond pam yn y byd na all ein gwleidyddion dderbyn tystiolaeth y Comisiwn fel y mae. Mae eu barn yn ddamniol ac mor blaen a eliffant ar y stepen drws. Dyw'r drefn bresennol (cynllunydd P Hain) ddim yn gweithio, full stop! Y peth call yw derbyn y feirniadaeth, gosod trefn newydd a symud ymlaen - dyna fyse'n digwydd yn San Steffan.

    Does dim angen refferendwm. Dwi ddim ofn refferendwm ond mi fydd gorfod gwrando ar y llafar (a'r Llafur) o Went yn rhaffu celwyddau amdamom yn dreth ar amynedd yn y misoedd i ddod.

  • 6. Am 11:23 ar 18 Tachwedd 2009, ysgrifennodd dewi Thomas:

    Paham tydy'r newyddion pwysig yma ddim yn cael ei ddangos ar sianeli fel ³ÉÈË¿ìÊÖNews 24? Oedd nhwn son am commisiwn yr Alban ddoe ond dim un Cymru.

    C'mon Vaughan- cwynwch!.... dwi'n siwr of y bysai ar y 6 o'clock news y ³ÉÈË¿ìÊÖ dwi'n siwr y buasai yn creu momentwm llawer mwy i'r blaid Lafur orfod trafod am creu referendwm.

    Cwestiwn; dwi'n siwr wnaeth Emyr ddweud 'I'm sure you'll be suprised with the siginficane of our proposals' i fod yn onesd dwi'm yn gweld beth sydd mor 'significant'. O ni'n tybio y buasai yn dweud bod Cymru angen Senedd UNION i'r un yn yr Alban (gyda pwerau trethi- dwi'n gwybod toedd hynny ddim yn y remit ond dal!).

    Felly ar ol edrych ymlaen i'r adroddiad, maen "iawn" ond diom yn wych a tydy o wir ddim yn "significant"

  • 7. Am 12:55 ar 18 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Roedd Syr Emyr ar "Today" y bore ma ac mae Betsan yn gwneud darn i newyddion rhwydwaith.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.