Hawl i Holi
Dw i braidd yn brysur heddiw! Mae gen i adroddiadau i baratoi ar gyfer Radio Cymru, Wales Today, Newyddion a ³ÉÈË¿ìÊÖ Scotland tra bod Betsan wrthi'n gwneud adroddiadau i'r rhwydwaith.
Mae Syr Emyr yn un o'r gwesteion ar CF99 heno os oes ganddoch chi gwestiwn neu sylw mae croeso i chi dorri gair yn y sylwadau.
SylwadauAnfon sylw
Hoffwn i wybod beth sydd yn digwydd nesaf nawr yng Nghymru? Digon teg mae'r confensiwn wedi dod i'r consensws rydym i gyd wedi disgwyl ac yn cefnogi gobeithio, ond gyda rhywun mor chwyrn yn erbyn cael refferendwm yn ysgrifennydd wladol ar ein gwlad beth yw'r posibiliadau bod hyn yn mynd i ddigwydd?
Rwyf yn gobeithio fydd yna pledlais eitha fuan a Ia fydd yr canlyniad fuddygol. Y cwestiwn dwi am ofyn ydi fu hwn yn cael ei anwybyddu a'i agnhofio fel comisiwn Arglwydd Richards?
Hoffwn i ofyn:
Oedd o ddim yn tempted i edrych os dylai Cymru cael Senedd fel yr un yn yr Alban (h.y pwerau yn bob dim on am y rhai mae San Steffan yn dweud tydy nhw'm yn cael, ac hefyd pwerau trethi).
Dwi'n deall doedd o ddim yn eu remit, ond jyst diddorol gweld o'n siarad am yr Alban yn aml, toedd o (eto) ddim yn tempted i ddweud y dylai Cymru cael Senedd fel yr Alban?
Diolch
Hai - cwestiwn mymryn yn hwyr falle, ond dwi'n gweld symud ymlaen â'r system heb ystyried cynyddu nifer yr aelodau yn y Bae yn wirion braidd. Yn fy marn i (gweler fy mlog) ail siambr yw'r ateb. Sa'n dda clywed beth yw'r farn am gynyddu'r nifer.