Trwy Gyfrwng y Cyfrwng
Un o'r pethau sy' digalonni dyn wrth fynd yn hun yw gwylio gwyrthiau technoleg un degawd yn cael eu gwthio i'r naill ochor yn y nesa. Betamax... VHS... cryno ddisgiau... Fe gyfrais i nhw mas ac fe gyfrais i nhw 'nôl!
Yn Eisteddfod Casnewydd yn 1988 y gwelais i'r wyrth honno, y peiriant ffacs am y tro cyntaf. Meddyliwch! Danfon dogfen dros y ffôn! Anhygoel!
Mae'r ffacs bellach wedi ei daflu i sgip hanes gyda'r "Walkman", y "³ÉÈË¿ìÊÖ Micro" a'r "Sinclair C5" ond gallai hynny pery problem i'r Cynulliad. Mae'n rhaid i bwy bynnag sy'n cael ei ethol yn brif weinidog ymhen ychydig wythnosau dderbyn sêl bendith y Frenhines. Sêl bendith y Frenhines...yn llythrennol. Dim ond llythyr a'r sêl frenhinol arni neu lungopi o'r llythyr wedi ei ffacsio sy'n cyfri. Gwnaeth e-bost ddim o'r tro.
Gallaf ddychmygu'r olygfa ar ôl i'r arweinydd newydd gael ei ddewis gyda phawb yn ei longyfarch a dymuno'n dda iddo nes i ryw was bach codi ei lais a gofyn "oes unrhyw un yn gwybod sut mae gweithio peiriant ffacs?"
SylwadauAnfon sylw
Beth am ogoniant y telecs Vaughan ??!!
Mae gan bapurau newydd Seland Newydd eitem ar dechnoleg anghofiedig heddiw.....