Mae'n fore yn Seion
Corff bach rhyfedd yw'r lobi Gymreig- y criw o newyddiadurwyr sy'n gweithio yn y cynulliad. Dyw hi ddim byd yn debyg i'r system lobi yn San Steffan- y clwb sydd, er rhai diwygiadau diweddar, o hyd yn weddol gyfrinachol ac, ym marn rhai, yn afiach ac anemocrataidd.
Fedra i ddweud wrthoch chi, er enghraifft, mai Gareth Hughes yw Cadeirydd y Lobi Gymreig a David Williamson yw'r ysgrifennydd. Mae'n hysbys hefyd ein bod yn cael yn briffio'n rheolaidd gan y Llywodraeth a'r ddwy wrthblaid mewn cyfres o gyfarfodydd bob bore dydd Mawrth.
Serch hynny, yn ddiweddar mae pethau wedi dechrau mynd ychydig o chwith. Mae'r lobi (sy'n cynyddu o ran ei maint) am fachu yn ôl rhai o'r swyddfeydd y collodd hi rhai blynyddoedd yn ôl. Cewch ddarllen post (llawer rhy fanwl) am y ddadl honna yn . Mae'r broblem yn sicr o gael ei datrys. Wedi'r cyfan cwyno am ddiffyg sylw mae'r Cynulliad gan amlaf!
Y ffrae fach arall sy 'da ni yw un gyda'r Llywodraeth. Am y tro cyntaf i mi gofio fe wnaeth y Lobi gwyn swyddogol rhyw bythefnos yn ôl. Y rheswm am hynny oedd bod y Llywodraeth wedi cynnig y Prif Swyddog Iechyd fel ei llefarydd yn y sesiwn briffio wythnosol yn hytrach na gweinidog neu is-weinidog. Amhosib felly oedd gofyn unrhyw gwestiynau gwleidyddol nac yn wir unrhyw beth y tu fas i faes cyfyng iawn.
I fod yn deg fe syrthiodd y llywodraeth ar ei bai ond mae'n anodd osgoi'r teimlad bod 'na ychydig bach o ddial yn mynd 'mlaen. Yr wythnos ddiwethaf Jane Hutt, gweinidog sy'n enwog am ei sylwadau agoriadol hirwyntog oedd yn y gadair. Un o ffefrynnau'r lobi , Elin Jones oedd yn ateb cwestiynau heddiw ond roedd hi'n gwneud hynny tri chwarter awr yn gynt na'r arfer.
Creaduriaid y nos yw newyddiadurwyr. Dydyn ni ddim yn hoff o godi'n rhy fore! Ar y llaw arall fe fyswn yn dilyn yr og ar ochr y glog i wystro'r llywodraeth rhag cyddio y tu ol i'w gweision sifil!