Mae Dafydd yn gofyn cwestiwn diddorol yn y sylwadau;
"Byddai'n ddiddorol clywed beth sydd gan wleidyddion y Bae i'w ddweud yn barod am y posibilrwydd o lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan ac effaith hynny ar wleidyddiaeth Cymru. Vaughan ...??"
Wel gan dy fod wedi gofyn, Dafydd fe wnâi fy ngorau i ateb. Y ddau bwnc allweddol yn fan hyn yw amseriad refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad ac effaith llywodraeth Geidwadol ar lefelau gwariant y cynulliad.
O safbwynt amseriad refferendwm y gred gyffredinol yw y byddai ethol David Cameron yn arwain yn anorfod at gynnal pleidlais yn gymharol fuan. Gallai hynny ddigwydd am un o ddau reswm. Yn gyntaf gallai pleidiau'r chwith yn y Bae orfodi cynnal refferendwm er mwyn "amddiffyn Cymru rhag y Ceidwadwyr". Mae'r arweinyddiaeth Llafur yn hyderus y byddai'n bosib ennill pleidlais yn y fath amgylchiadau. Mae'r ail senario posib yn fwy diddorol. Ar ôl i Wyn Roberts gwblhau ei adolygiad o'i pholisi datganoli mae'n ddigon posib y bydd y Blaid Geidwadol ei hun yn addo cynnal pleidlais yn ystod tymor cyntaf Cameron yn Downing Street. Mae 'na ddau reswm am hynny. Y cyntaf yw 'r gred ddidwyll ymhlith nifer helaeth o Dorïaid nad yw'r gyfundrefn bresennol yn effeithlon nac yn gynaliadwy. Ffactor bwysicach efallai yw bwriad y Ceidwadwyr i ddatrys y cwestiwn Seisnig. Fe fyddai unrhyw ymdrech i wneud hynny trwy, dyweder, gyfyngu ar hawl Aelodau Seneddol y gwledydd Celtaidd i bleidleisio yn dibynnu ar sicrhâi mwy o gysondeb a chydraddoldeb ym mhwerau'r cynulliadau datganoledig.
Fe fyddai ethol llywodraeth Geidwadol hefyd yn sicr o effeithio ar incwm y cynulliad. Er nad yw'r Torïaid wedi cyhoeddi eu polisïau manwl hyd yma mae'n deg i ddisgwyl y byddai cyfyngu ar dwf gwariant cyhoeddus yn un o'u blaenoriaethau. O dan y fath amgylchiadau fe fyddai Llywodraeth Cymru yn wynebu dewisiadau anodd. Yn y tymor hir, yn enwedig wrth i lywodraeth yr Alban frwydro am fwy o ryddid ariannol, mae'n debyg y byddai dyddiau fformiwla Barnett yn tynnu at derfyn. Mae 'na wahaniaethau barn ynglŷn â p'un ai ydy Cymru ar ei cholled neu ei hennill oherwydd y fformiwla honno. Dyna'r rheswm dros addewid Cytundeb Cymru'n Un i sefydlu comisiwn i ymchwilio i'r pwnc. Ar hyn o bryd mae'r ymchwiliad hwnnw braidd yn academaidd. Fe allai fod yn destun trafod o bwys pe bai na newid yn Downing Street.
Dw i'n eiddigeddus. Oherwydd CF99 dw i'n gaeth yng Nghaerdydd yn hytrach na'n troeddio strydoedd Crewe a Nantwich.
Am wn i hwn yw'r isetholiad "mawr" cyntaf i mi golli ers tro byd. A dweud y gwir ar ôl bod mewn cymaint mae'n anodd gwahaniaethu rhwng rhai ohonyn nhw yn enwedig y gyfres ddi-ben-draw o is etholiadau lle'r oedd y Rhyddfrydwyr/Cynghrair/Democratiaid Rhyddfrydol yn concro caerau'r Ceidwadwyr. Eastleigh... Newbury... Christchurch... mae'n anodd cofio p'un oedd p'un a pha ymgeisydd buddugol oedd yn dathlu ei bymtheg munud o enwogrwydd.
Mae 'na ambell ornest yn aros yn y cof.... ail is etholiad Govan, er enghraifft, yn bennaf oherwydd y cinio rhagorol yng nghwmni Dafydd Elis Thomas ym mwyty'r Colonial. Roedd Ribble Valley hefyd yn gofiadwy yn rannol oherwydd ymgeisyddiaeth Nigel Evans ond hefyd oherwydd y selsig ragorol o "Clithiroes's World Famous Sausage Shop."
O leiaf yr oeddwn yn cael dewis a dethol is etholiadau diddorol yn Lloegr a'r Alban. Yma yng Nghymru roedd yn rhaid rhoi sylw di-ben-draw i ornestau cwbwl tila fel Pontypridd ac Islwyn. Yr unig gof sy gen o'r cyntaf yw croissants rhagorol yr SDP yng nghaffi John a Maria a does gen i ddim cof o gwbwl o'r ail.
Dw'n i ddim pa ddanteithion sydd ar gael yn Crewe a Natwich ond yn sicr mae'n etholiad pwysig oherwydd bod y pleidiau a'r cyfryngau wedi ei ddyrchafu i'r statws hwnnw. Yn achos y Ceidwadwyr mae hynny'n gwbwl dealladwy. Hwn yw eu Mynwy a'u Staffordshire South er nad oes modd gwybod eto p'un ai ydy'n wawr ffug fel y cyntaf neu'n arwydd o newid go iawn fel yr ail.
Yr hyn sy'n fy nrysu braidd yw pam bod Llafur wedi chware'r gêm o ddyrchafu pwysigrwydd yr etholiad trwy arllwys aelodau seneddol a gweinidogion i mewn i'r etholaeth a thrwy gytuno i ymddangosiad Gordon Brown ar raglen "ffonio i mewn" yr orsaf radio lleol. Fe fydd hi'n anodd wfftio'r canlyniad fel "is etholiad canol tymor arferol" ar ôl ymdrech mor galed.
Un esboniad sy'n cael ei gynnig yw bod Llafur ar un adeg yn ofni dod yn drydydd. Mae'r posibilrwydd hynny wedi cilio a gallai hynny fod yn ddigon i achub croen Gordon Brown am y tro. Serch hynny mae gorfod buddsoddi'n helaeth er mwyn osgoi crasfa mewn sedd ddylai fod yn ddiogel yn arwydd o ba mor wael y mae pethau i Lafur ar hyn o bryd.
Mae hynny'n cael effaith yma yn y cynulliad gyda'n gwleidyddion yn dechrau trafod o ddifrif effaith llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar wleidyddiaeth y Bae. Fe fydd y trafod yna'n dwyshau dros yr wythnosau sydd i ddod oni cheir rhyw wyrth i Tamsin Dunwoody yn Crewe.
Iawn, mae'n amser i mi proffwydo felly. Cofiwch fod hon yn broffwydoliaeth sy'n seiliedig yn llwyr ar brofiadau mewn is etholiadau'r gorffennol yn hytrach nac unrhyw wybodaeth arbennig am Crewe. Yr hyn dw i wedi dysgu ar hyd y blynyddoedd yw bod mwyafrifoedd mewn isetholiadau yn tueddu bod yn llawer mwy na'r disgwyl. Mwyafrif o 6,000-8,000 i'r Ceidwadwyr.
Weithiau mae'n ymddangos bod gafael Dafydd Elis Thomas ar gadair y Llywydd bron mor gadarn a digyfnewid a lle Cadair Idris yng nghalon ei etholaeth. Yn y naw mlynedd ers sefydlu'r cynulliad mae'r Llywydd wedi gwylltio ambell i aelod ar sawl achlysur. Serch hynny ar y cyfan mae'r parch at ei brofiad a'i waith wrth adeiladu'r cynulliad fel corff seneddol annibynnol o'r llywodraeth wedi sicrhâi nad oedd 'na unrhyw wir fygythiad i'w afael ar y swydd.
Nawr, mae 'na ambell i arwydd bod pethau'n newid. Gyda'r newidiadau a ddaeth yn sgil ail fesur llywodraeth Cymru bellach wedi cyrraedd rhyw fath o sefydlogrwydd mae ambell aelod yn dechrau amau bod hi'n bryd i'r Arglwydd gamu i'r naill ochr.
Mae cyfres o benderfyniadau a sylwadau gan y Llywydd a chomisiwn y cynulliad (y pwyllgor o aelodau sy'n goruchwylio'r lle) wedi corddi'r dyfroedd.
Ers tro byd mae rhai o aelodau'r cynulliad wedi bod yn cwyno bod y broses o wneud ceisiadau am yr hawl i ddeddfu yn drwsgl ac yn boenus o araf. Tan yn ddiweddar roedd y Llywydd yn mynnu mai nonsens oedd hynny. Roedd unrhyw feirniadaeth o'r gyfundrefn yn ffrwyth dychymyg newyddiadurwyr anwybodus a maleisus yn ei farn ef. Yna wrth gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol a'r Gyfiawnder rhai wythnosau yn ôl fe gyfaddefodd y Llywydd bod 'na sail i'r cwynion. Nid y drefn oedd ar fai, wrth gwrs, ond am unwaith roedd twpsod y wasg a'r teledu hefyd yn ddieuog. Y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig oedd y broblem y tro hwn. Nid Aelodau San Steffan sy'n ethol y Llywydd, wrth reswm, ond fe fyddai'n ddifyr fod yn bry ar wal wrth i aelodau'r pwyllgor drafod y sylwadau hynny a'u cyd-aelodau Llafur yn y Bae!
Mae penderfyniadau diweddar ynghylch cyhoeddi manylion treuliau'r aelodau a rheolau drafft i reoli blogs hefyd wedi tynnu blew o drwyn rhai o'n gwleidyddion. Yn eu plith mae'n ymddangos mae'r aelod Llafur, Alun Davies. Yn ystod cwestiynau i Arweinydd y TÅ·, Carwyn Jones, fe ofynnodd Alun gwestiwn digon cwrtais- a fyddai'n bosib cael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch atebolrwydd y comisiwn i'r cynulliad?
Fel mae'n digwydd y Diprwy Lywdd, Rosemary Butler oedd yn y gadair ar y pryd ond does dim dwywaith mai rhybudd i'r Llywydd oedd y cwestiwn hwnnw. Ydy David Melding wedi dechrau canfasio eto?
Ar y podlediad yr wythnos hon mae Darren Hill yn dadansoddi'r sefyllfa yn ein neuaddau sir. Gwasgwch y botwm ar y dde.
Gan fy mod wedi beirniadu ambell un yn y cyfryngau Cymraeg o fod ac obsesiwn am yr etholiadau lleol yng Ngwynedd am ei bod yn byw yno dw i'n gobeithio nad wyf yn syrthio i'r un trap wrth sgwennu ychydig o eiriau am y datblygiadau diweddaraf yng Nghaerdydd lle mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru newydd ffurfio clymblaid.
Mae'n debyg bod y trafodaethau ynghylch y glymblaid honno wedi bod yn eithaf didrafferth. Un pwnc ac un pwnc yn unig oedd yn achosi problemau ac nid oherwydd unrhyw anghytundeb rhwng y ddwy blaid ond oherwydd bod Plaid Cymru wedi claddu ei hun mewn twll ac yn methu'n lan a chanfod ffordd allan.
Cynlluniau'r cyngor i adrefnu ysgolion y sir sydd wrth wraidd y broblem. Mae'r cynlluniau hynny yn cynnwys cynnydd sylweddol iawn yn y ddarpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg- cynlluniau fyddai yn y pendraw yn arwain at ugain ysgol gynradd a phedair ysgol uwchradd Gymraeg yn y Brifddinas. Fel y byddai dyn yn disgwyl mae Plaid Cymru'n cefnogi'r cynlluniau ond mewn un ardal, sef Treganna, mae'r cenedlaetholwyr wedi creu trafferthion dybryd iddyn nhw eu hun.
Mae twf Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn seiliedig ar sicrhâi cefnogaeth rhai o bleidleiswyr dosbarth gwaith traddodiadol y ddinas (yn arbennig y rhai sy'n perthyn i leiafrifoedd ethnig) a'i ychwanegu at gefnogaeth y nifer cynyddol o Gymry Gymraeg.
Un o'r wardiau oedd wedi ei thargedi gan Blaid Cymru oedd Treganna. Ofer fu'r ymdrech honno ond mewn ymgais i blesio pawb fe wrthwynebodd y Blaid gynllun y cyngor i gau un o'r ysgolion Saesneg lleol er mwyn ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg.
Mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi ei chael hi'n amhosib cefnu ar yr addewid hwnnw yn ystod eu trafodaethau a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'r Ysgol Saesneg wedi ei hachub felly a rhieni'r Ysgol Gymraeg yn gorfod bodloni ar addewid y bydd ysgol newydd sbon yn cael ei chodi ar eu cyfer erbyn 2011.
Mae'r cyngor yn hyderus y bydd yr addewid yn cael ei wireddu. Mae'r rhieni, ar y llaw arall, yn amheus. Beth bynnag yw'r gwir dyw'r addewid o ysgol newydd yn gwneud dim i'r plant sy'n goddef cyfleusterau cyfyngedig ac eilradd ar hyn o bryd.
Mae'r cyngor yn addo mesurau dros dro i leddfu ar y sefyllfa ond, fel yng Ngwynedd, mae Plaid Cymru yn dysgu bod llid rhieni, boed yn rhesymol neu'n afresymol, yn un o'r problemau anoddaf wrth reoli.
Does 'na ddim rheol na gorchymyn sy'n gorfodi i bob un aelod o staff ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru ganolbwyntio ar glwb bêl droed Dinas Caerdydd yr wythnos hon ond gan fy mod yn gefnogwr achlysurol (iawn) a chan fod pethau'n dawel yma yn y bae bant a fi!
Peidiwch â becso. Dw i ddim am esgus am eiliad fy mod yn arbenigwr ar bêl droed... fe wnâi ganolbwyntio ar gysylltiadau gwleidyddol y clwb.
Beth am gychwyn a chartref presennol Dinas Caerdydd? Parc Ninian, wrth gwrs, wedi ei enwi (fel bron popeth arall yng Nghaerdydd) ar ôl aelod o deulu Iarll Bute. Ninian Chrichton-Stuart yw'r gŵr penodol y tro yma, Aelod Seneddol Unoliaethol Bwrdeistrefi Caerdydd (oedd yn cynnwys y Bontfaen a Llantrisant) rhwng 1910 a 1915.
Cafodd ei ladd yn y flwyddyn honno wrth arwain chweched bataliwn y gatrawd Gymreig ym mrwydr Loos ac mae cerflun ohono ym Mharc Cathays i goffhau ei aberth ond nid dyna yw'r rheswm dros enw Parc Ninian . Mae arian wastad wedi bod yn bwysig ym myd ffwtbol ac nid gwrhydri Chrichton-Stuart oedd yn cael ei goffau wrth enwi'r maes ond y ffaith ei fod wedi gwarantu dyledion y clwb wrth godi'r stadiwm!
Er gwaetha'r cysylltiad Ceidwadol hwnnw dewisiodd Harold Wilson lansio ei ymgyrch etholiad yn 1970 ym Mharc Ninian gyda llwyfan wedi ei chodi o flaen y Canton Stand. Gan fod Cwpan y Byd yn cael ei gynnal ar y pryd y gobaith oedd y byddai uniaethu Llafur a phêl droed yn dwyn ffrwyth yn etholiadol. Dim ffiars o beryg. Roedd ymgyrch Wilson yr un mor llwyddiannus ac ymdrechion Lloegr i ddal ei gadael ar dlws Jules Rimet.
Er gwaethaf profiadau Crichton-Stuart a Wilson doedd y Ceidwadwr lliwgar a hoffus, Steffan Terleski, ddim yn ofni bod y clwb yn dod a rhyw anlwc ryfedd i wleidyddion. Doedd cyfnod Terleski fel cadeirydd y clwb ddim yn un hynod o hapus yn hanes Parc Ninian ond efallai bod yr effaith ar ei broffil yn rhan o'r rheswm dros ei fuddugoliaeth yn etholaeth Gorllewin Caerdydd yn 1983.
Erbyn heddiw dau wleidydd sy 'na sy'n gallu honni ei bod yn gefnogwyr go iawn i'r Adar Gleision. Ydy, mae Neil Kinnock hefyd yn dilyn y bel hirgrwn, a do, fe gafodd Leighton Andrews garwriaeth a Gillingham tra'n ymgeisydd seneddol yn yr ardal honno, ond go brin y gellir cwestiynau ymroddiad y naill na'r llall yn y dyddiau drwg yn ogystal â'r dyddiau da.
Pob lwc iddyn nhw a'r tîm Ddydd Sadwrn.
Mae'r cyn-weinidog wedi bod yn uchel ei gloch yn ei feirniadaeth o'r cynlluniau i ddatblygu Maes Awyr Llanbedr ger Harlech. Poeni mae Alun, sydd bellach yn gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, y bydd awyrennau ysgafn yn tarfu ar amgylchedd ac economi'r Parc Cenedlaethol.
Mae 'na rai wrth gwrs sy'n hoff o weld ein gwlad o'r awyr. Yn eu plith, mae'n siŵr, mae awduron "". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw'r llynedd gyda pharti lansio yn y senedd. Pa Aelod Cynulliad wnaeth noddi'r derbyniad? Oes angen dweud?
Yn y cyfamser mae'r Torïaid wedi awgrymu y dylid ail-enwi'r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a'r Fali yn "Ieuan Air" ar ôl darganfod bod y dirprwy brif weinidog wedi ei defnyddio dros ddeugain o weithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dw'n i ddim pa mor aml y mae Llywydd y Cynulliad wedi manteisio ar y gwasanaeth. Anaml, dybiwn i. Pe bai'r awyren yn galw yn Llanbedr ar y llaw arall...
Mae'n bryd dal lan a'r sibrydion diweddaraf o'r Neuaddau Sir. Pwy fydd yn rhedeg ein cynghorau dros y pedair blynedd nesaf? Cawn weld yn ystod y dyddiau nesaf.
Beth am gychwyn yn Nhorfaen- etholaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Paul Murphy a Lynn Neagle yr aelod cynulliad Llafur oedd mwyaf uchel ei chloch ynghylch y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Bae? Fe ddywedodd Ms Neagle hyn am y syniad o glymblaid coch-gwyrdd "We will be helping to deliver our communities into the hands of nationalist incompetents and separatists". Fe gollodd Llafur ei mwyafrif yn Nhorfaen bythefnos yn ôl ond yn groes i'r disgwyl gallai Llafur ddal ei gafael ar yr awenau gyda chefnogaeth llond dwrn o gynghorwyr eraill. A phwy sy'n flaenllaw ymhlith y cynghorwyr hynny? Neb llai na'r "nationalist incompetents and separatists". A fydd Lynn yn awgrymu y dylai ei phlaid leol wrthod cytundeb o'r fath?
Yng Nghaerffili does dim dwywaith mai'r "incompetents and separatists"- Plaid Cymru a Ron Davies mewn geiriau eraill fydd mewn grym. Mae'r trafodaethau'n parhau a dyw e hi ddim yn eglur eto a fydd na ddigon o gynghorwyr annibynnol yn cefnogi Plaid Cymru er mwyn sicrhâi rheolaeth fwyafrifol.
I'r Gogledd ac mae'n ymddangos na fydd enillion sylweddol y Ceidwadwyr yng Nghonwy yn ddigon i sicrhâi rheolaeth. Y disgwyl yw y bydd Plaid Cymru yn arwain clymblaid wrth Geidwadol. Mae 'na ddatblygiadau digon tebyg yn Sir Ddinbych gyda'r pleidiau eraill a'r aelodau annibynnol yn ceisio torri crib y Torïaid.
Yng Ngwynedd clymblaid rhwng Plaid Cymru, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n debyg o reoli. Dyw e ddim yn eglur eto a fydd y glymblaid honno yn ceisio diddymu system bwrdd y cyngor a sefydlu cyfundrefn gabinet er mwyn (yng ngeiriau un o aelodau blaenllaw Plaid Cymru) "gadael yr idiots a'r eithafwyr i bydru ar feinciau'r gwrthbleidiau".
Does dim angen becso.
Efallai bod Guto Harri wedi penderfynu mynd i weithio i Boris...ond mae 'na ambell un ohonom ni yma o hyd!
Alun Michael sy'n cloriannu llwyddiannau a methiannau datganoli ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde ar ôl dau o'r gloch.
Mae pwyllgor craffu'r Adran Gyfiawnder wedi teithio o San Steffan i'r Bae heddiw fel rhan o ymchwiliad i gyflwr y llywodraethau datganoledig ddeng myned ar ôl eu sefydlu.
Uchafbwynt y prynhawn, heb os, fydd gwrando ar Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd Julie Morgan yn croesholi Prif Weinidog Cymru. A fydd y ddau yn siarad â'i gilydd dros y bwrdd brecwast yn Llanfihangel yfory tybed?
Mae'r sesiynau eraill wedi bod yn rhai sydd o ddiddordeb enfawr i anoracs cyfansoddiadol ac i neb arall. Nid bod hynny'n golygu nad yw'r pynciau sy'n cael eu trafod yn bwysig i'r ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu.
Achubodd Llywydd y Cynulliad Dafydd Elis Thomas ar y cyfle i roi cic i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a'r ffordd mae'n ymdrin â cheisiadau'r Cynulliad am hawliau deddfwriaethol. Ar ôl canmol y ffordd y mae pwyllgor cyfansoddiadol Tŷ'r Arglwyddi yn ymdrin ag LCOs awgrymodd bod 'na wersi i'w dysgu gan Dy'r Cyffredin. Doedd dim rheswm cyfreithiol dros gyfeirio'r LCOs at y Pwyllgor Dethol Cymreig, meddai, oni fyddai'n well eu cyfeirio at bwyllgor llai gwleidyddola mwy gwrthrychol?
Os deallaf yr hyn yr oedd y Llywydd yn dweud yn iawn mae e wedi alaru ar yr hyn y mae'n gweld fel potsio gwleidyddol gan Aelodau Seneddol Cymru ac yn credu y byddai pwyllgor yn cynnwys Aelodau Seneddol o rannau eraill o Brydain yn llai tebygol o wneud hynny.
Ymhlith yr Aelodau Seneddol wnaeth holi'r Llywydd oedd Alun Michael, y cyn Brif Ysgrifennydd a gollodd ei swydd mewn sesiwn stormus o'r cynulliad ar ôl i Dafydd Elis Thomas wrthod derbyn ei ymddiswyddiad. Doedd na ddim arwydd bod drwgdeimlad yn parhau rhwng y ddau serch hynny go brin fod y cyfarfod yn brofiad cysurus i'r naill wleidydd na'r llall.
Cyhoeddodd Mike German heddiw y bydd yn ymddeol fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mis Hydref. Fe fydd na hen ddigon o amser i gloriannu ei yrfa cyn hynny ond gall neb wadu ei ddycnwch na'i allu i wrthsefyll stormydd anorfod y byd gwleidyddol. Ef, wedi'r cyfan, yw'r unig arweinydd plaid o ddyddiau cyntaf y cynulliad sy dal wrth y llyw.
Mae gan Mike lysenw ymhlith y pleidiau eraill sef "Tigger" yn seiliedig ar un o gymeriadau A.A Milne.
Nodwedd fawr Tigger wrth gwrs oedd ei fod yn fythol optimistaidd ac yn credu'r gorau bob tro. Ar adegau roedd yn ymffrostgar neu'n hunanbwysig gan frolio ei fod am gyflawni rhyw gamp amhosib neu'i gilydd. Yn ddieithriad roedd ei ymdrechion yn methu neu ar y gorau yn rhyw hanner llwyddo. Doedd dim ots. O fewn munudau byddai Tigger yn ôl ar ei draed yr un mor hyderus ac erioed.
The wonderful thing about tiggers
Is tiggers are wonderful things!
Their tops are made out of rubber
Their bottoms are made out of springs!
They're bouncy, trouncy, flouncy, pouncy
Fun, fun, fun, fun, fun!
But the most wonderful thing about tiggers is
I'm the only one
Dim ond rhywun ac agwedd fel'na fyddai wedi gallu goddef holl droeon trwstan y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Rhyddfrydwyr Cymreig am dros deng mlynedd ar hugain!
Parhau mae ymdrechion y pleidiau i sicrhâi o leiaf siâr o'r grym yn ein neuaddau sir.
Yng Nghaerfyrddin mae'r garfan annibynnol (ynghyd ac un Democrat Rhyddfrydol) wedi cyrraedd cytundeb â Llafur i barhau a'r glymblaid oedd yn rhedeg yr awdurdod cyn yr etholiad. Digon teg. Fe fydd Sir Gar yn un o'r llond dwrn o gynghorau Cymreig aelodau Llafur yn y cabined am y pedair blynedd nesaf.
"Why Change A Winning Team?" yw'r pennawd ar y datganiad newyddion sy'n cyhoeddi'r cytundeb. Dyw'r datganiad ddim yn esbonio beth yw union ystyr "winning team" yn y cyswllt hwn. Yn yr etholiad fe arosod y garfan Annibynnol yn ei hunfan ac fe gollodd Llafur hanner ei seddi. "Winning Team"? Barnwch chi.
Draw yng Ngheredigion gallai'r cyfan ddibynnu ar bleidlais y cadeirydd Odwyn Davies sy'n gynghorydd Plaid Cymru. Yn y bôn mae'n rhaid i'r cenedlaetholwyr sicrhâi cefnogaeth dau gynghorydd ychwanegol i gipio'r awenau. A fydd y garfan annibynnol yn parhau'n gadarn? Fe gawn weld.
Lan yng Ngwynedd mae'n debyg bod Plaid Cymru yn trafod a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fe fyddai cefnogaeth y garfan honno o bump cynghroydd yn ddigon, mwy neu lai, i sicrhâi mwyafrif.
Yng Nghaerffili mae'n ymddangos y gallai enfys hynod amryliw ymddangos gyda'r cabinet yn cynnwys cyn-ysgrifennydd Cymru, Ron Davies a'r Pleidiwr Lindsay Whittle â safodd yn erbyn Ron ym mhob un etholiad seneddol rhwng 1974 a 1997. Mae'n bosib y bydd Kevin Etheridge, cynghorydd annibynnol arall hefyd yno. Democrat Rhyddfrydol oedd Kevin. Fe adawodd y blaid ar ol iddi wrthod talu costau ei ymgyrch cynulliad yn Islwyn. Ym marn Kevin roedd y blaid yn ofni y gallai fe ennill y sedd etholaethol gan beryglu sedd restr Mike German. Fe fyddai gan gabinet Caerffili ambell bwyth i dalu yn ôl!
Pwy sy'n cynrychioli amaethwyr Cymru? Mae'n hen, hen broblem. Yr NFU neu'r FUW? Goronwy neu Bob? Tro pwy yw e i gael yr OBE eleni? Pwy ddylai gadeirio ymchwiliad neu sgwennu adroddiad?
O'r diwedd mae Llywodraeth y Cynulliad wedi canfod ateb. Pwy fydd yn dewis cynrychiolydd Ffermwyr Cymru ar Gomisiwn Cyfansoddiadol Syr Emyr Jones Parry? Yr NFU? Yr FUW? Y naill na'r llall y tro hwn.
Fe fydd llais yr amaethwyr yn cael ei enwebu gan Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Gwyliwch allan am gomisiynydd mewn crys siec coch, jeans tyn a wellingtons!
Mae'r gêm gwyddbwyll wleidyddol wedi dechrau. Gyda dim ond llond dwrn o gynghorau Cymru yn gadarn yn nwylo un blaid neu grŵp mae'r llinellau ffon yn brysur wrth i'n cynghorwyr ymgiprys am reolaeth ein cynghorau. Mae 'na sibrydion di-ben-draw. Dyma rai ohonyn nhw ond peidiwch â chymryd dim byd yn ganiataol tan i gyfarfodydd cynta'r cynghorau newydd gael eu cynnal yn ystod yw wythnosau nesaf.
Mae 'na sawl Cyngor yng Nghymru lle'r oedd un blaid yn agos iawn at sicrhâi mwyafrif. Yn yr achosion hynny gallai'r broses o ffurfio clymblaid neu reolaeth leiafrifol fod yn weddol syml. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae'n anodd dychmygu na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sicrhâi rhyw fath o gytundeb a Phlaid Cymru. Gallai addo gwireddu cynlluniau i ddatblygu addysg Gymraeg fod yn allweddol yn fan hyn.
Y dasg i Blaid Cymru yng Ngheredigion a Gwynedd yw sicrhai cefnogaeth o leiaf llond dwrn o gynghorwyr annibynnol er mwyn sicrhai arweinyddiaeth y cynghorau. Mae'r pleidwyr yn obeithiol yn y ddwy sir. Yng Nghaerfyrddin Llafur, mae'n debyg, fydd yn penderfynu tynged y cyngor. Mae'n debyg bod y garfan annibynnol yn ceisio denu Llafur i ffurfio clymblaid unwaith yn rhagor tra bod Plaid Cymru yn gwyntyllu'r syniad o fwrdd amlbleidiol i redeg y cyngor.
Ond yn y rhan fwyaf o gynghorau Cymru mae'n ymddangos mai blwyddyn yr "enfys" yw 2009 gyda Llafur yn cael ei rhewi allan mewn cyfres o gynghorau. Yn Nhorfaen heno, er enghraifft, mae cynghorwyr y garfan annibynnol, Llais y Bobol, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwrdd i ffurfio clymblaid wrth Lafur. Yr un yw'r patrwm mewn llefydd fel Merthyr a Sir Flint.
Ar ddiwedd y dydd disgwylir i aelodau annibynnol fod yn rhan o'r garfan sy'n rheoli mewn hyd at bymtheg o gynghorau. Credir y bydd Plaid Cymru yn rhan o'r llywodraeth mewn rhyw ddeg o gynghorau a'r Ceidwadwyr mewn wyth neu naw. Fe fydd 'na Ddemocratiaid Rhyddfrydol ar fyrddau neu'n aelodau o gabinet o leiaf hanner dwsin o gynghorau. A Llafur? Llafur druan? Pedwar neu pum cyngor man pellaf. O Pa fodd y cwymp y cedyrn?
Pedair awr ar hugain o ddadansoddi a malu awyr ar y radio a'r teledu. Yna pedair awr ar hugain o gwsg. Nawr mae'n bryd i fi weld pa mor gywir oedd fy mhroffwydoliaethau ar drothwy'r bleidlais.
Bant a ni.
O safbwynt nifer y seddi dw i'n rhagweld mai'r Ceidwadwyr fydd y buddugwyr mawr yfory. Mae hynny'n weddol sicr oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer ymgeiswyr y blaid yn arbennig mewn ardaloedd fel Sir Benfro a Phowys. Does dim amheuaeth yn fy meddwl i chwaeth y bydd y Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif ym Mro Morgannwg. Yn 2004 enillodd y Torïaid lai o seddi (107) na Llafur (478), Plaid Cymru (174) a'r Democratiaid Rhyddfrydol (146), heb son am aelodau annibynnol (322). Dwi'n disgwyl i'r Ceidwadwyr guro'r Democratiaid Rhyddfrydol y tro hwn a bod yn agos at gyfanswm Plaid Cymru.
Doedd dim angen bod yn athrylith i fentro ceiniog ar y Ceidwadwyr. Gyda ambell i sedd o hyd yn wag fe enillodd y blaid 173 o seddi, 66 yn fwy na'r tro diwethaf. Mae hynny'n gynydd o bron i hanner ond oedd hynny'n ddigon i guro'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru? Yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd. Enillodd y blaid honno 162 o seddi. Mae hynny'n 16 yn fwy na'r tro diwethaf ond go brin bod hynny'n "ganlyniad rhagorol" beth bynnag oedd barn mawrion y blaid ac ambell i newyddiadurwr ar noson y cyfri.
Efallai oherwydd y sylw a roddwyd i Wynedd (mwy am hynny yn y man) doedd neb wedi rhagweld y byddai'n noson dda i Blaid Cymru ond roedd hwn, mewn gwirionedd yn ganlyniad rhagorol i'r cenedlaetholwyr. Enillodd y Blaid 207 o seddi, cynydd o 33. I roi hynny mewn cyd-destun roedd cynnydd Plaid Cymru yng Nghymru gymaint a chyfanswm cynnydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Lloegr.
Mae 'na wobr, sy'n fwy na wobr gysur, i'r Democratiaid Rhyddfrydol sef cyngor mwyaf Cymru, Caerdydd. Yn fy marn i, fe fydd y blaid o fewn llond dwrn o seddi i sicrhâi mwyafrif dros bawb yn y brifddinas gyda Llafur, o bosib, yn drydydd i'r Ceidwadwyr. Gallai pethau bod yn anoddach i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe, Pen-y-bont a Wrecsam.
Oes 'na dywediad sy'n cyfateb i "back of the net" yn Gymraeg?
Ar hyn o bryd mae gan Lafur dros hanner y seddi mewn saith ardal. Dw i'n disgwyl i'r blaid gadw ei mwyafrifoedd yn Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd-Port Talbot a Thorfaen a'u colli yn Sir Fflint, Caerffili a Blaenau Gwent. Gallai'r sefyllfa yng Nghasnewydd fod yn aneglur oherwydd gohirio'r etholiad mewn dwy ward lle mae ymgeiswyr wedi marw. Yn y Gorllewin dw i'n amau y gallai Plaid Cymru ddod yn agos at gipio mwyafrif yng Ngheredigion ac ennill tir yng Nghaerfyrddin.
Agos. Agos iawn. Mae'n gas gen i Dorfaen!
Yr unig gwestiwn yng Ngwynedd yw a fydd gan Blaid Cymru fwyafrif dros bawb? Does dim amheuaeth mai hi fydd y blaid fwyaf a gan fod y cyngor yn cael ei rhedeg gan fwrdd amlbleidiol mae'n annhebyg y bydd y canlyniad yn gwneud fawr o wahaniaeth i reolaeth neu bolisïau'r cyngor yn y tymor hir. Nid wfftio pwysigrwydd posib Llais Gwynedd yw dweud hynny. Fe fyddai llwyddiant i'r grŵp hwnnw (ac mae hynny'n golygu ennill o leiaf deg i ddwsin o seddi) yn sicr o effeithio ar y cynllun i adrefnu'r ysgolion yn y sir ac yn arwydd o anniddigrwydd arwyddocaol yn rhengoedd cefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru.
Cafodd Llais Gwynedd noson arbennig o dda gan brofi pwynt yn lleol ond pwynt lleol yw hwnnw. Gobeithio y bydd canlyniadau 2008 yn profi unwaith ac am byth i rannau o'r cyfryngau Cymraeg a rhai cendlaetholwyr bod y byd yn fwy na'r Bontnewydd.
Fe fydd rhaglen ganlyniadau Radio Cymru yn cychwyn am 12.30. Mae croeso i chi adael sibrydion neu sylwadau yn fan hyn.
12.13. Sioc fach i ddechrau. Mae John Arthur Jones wedi colli ei sedd.
314 - John Arthur Jones
514 - Rhian Medi (Plaid)
12.50 Clecs; Dyw Dafydd Iwan ddim yn edrych yn ddyn hapus heno... Llais Gwynedd wedi cipio brithdir o Blaid Cymru.... Llafur yn amau eu bod wedi colli rheolaeth ym Mlaenau Gwent. Sibrydion hefyd bod Llafur wedi colli ward Parc Tredegar (maes Eisteddfod Casnewydd) i Blaid Cymru.