Marcio'r Gwaith Cartref
Pedair awr ar hugain o ddadansoddi a malu awyr ar y radio a'r teledu. Yna pedair awr ar hugain o gwsg. Nawr mae'n bryd i fi weld pa mor gywir oedd fy mhroffwydoliaethau ar drothwy'r bleidlais.
Bant a ni.
O safbwynt nifer y seddi dw i'n rhagweld mai'r Ceidwadwyr fydd y buddugwyr mawr yfory. Mae hynny'n weddol sicr oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer ymgeiswyr y blaid yn arbennig mewn ardaloedd fel Sir Benfro a Phowys. Does dim amheuaeth yn fy meddwl i chwaeth y bydd y Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif ym Mro Morgannwg. Yn 2004 enillodd y Torïaid lai o seddi (107) na Llafur (478), Plaid Cymru (174) a'r Democratiaid Rhyddfrydol (146), heb son am aelodau annibynnol (322). Dwi'n disgwyl i'r Ceidwadwyr guro'r Democratiaid Rhyddfrydol y tro hwn a bod yn agos at gyfanswm Plaid Cymru.
Doedd dim angen bod yn athrylith i fentro ceiniog ar y Ceidwadwyr. Gyda ambell i sedd o hyd yn wag fe enillodd y blaid 173 o seddi, 66 yn fwy na'r tro diwethaf. Mae hynny'n gynydd o bron i hanner ond oedd hynny'n ddigon i guro'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru? Yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd. Enillodd y blaid honno 162 o seddi. Mae hynny'n 16 yn fwy na'r tro diwethaf ond go brin bod hynny'n "ganlyniad rhagorol" beth bynnag oedd barn mawrion y blaid ac ambell i newyddiadurwr ar noson y cyfri.
Efallai oherwydd y sylw a roddwyd i Wynedd (mwy am hynny yn y man) doedd neb wedi rhagweld y byddai'n noson dda i Blaid Cymru ond roedd hwn, mewn gwirionedd yn ganlyniad rhagorol i'r cenedlaetholwyr. Enillodd y Blaid 207 o seddi, cynydd o 33. I roi hynny mewn cyd-destun roedd cynnydd Plaid Cymru yng Nghymru gymaint a chyfanswm cynnydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Lloegr.
Mae 'na wobr, sy'n fwy na wobr gysur, i'r Democratiaid Rhyddfrydol sef cyngor mwyaf Cymru, Caerdydd. Yn fy marn i, fe fydd y blaid o fewn llond dwrn o seddi i sicrhâi mwyafrif dros bawb yn y brifddinas gyda Llafur, o bosib, yn drydydd i'r Ceidwadwyr. Gallai pethau bod yn anoddach i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe, Pen-y-bont a Wrecsam.
Oes 'na dywediad sy'n cyfateb i "back of the net" yn Gymraeg?
Ar hyn o bryd mae gan Lafur dros hanner y seddi mewn saith ardal. Dw i'n disgwyl i'r blaid gadw ei mwyafrifoedd yn Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd-Port Talbot a Thorfaen a'u colli yn Sir Fflint, Caerffili a Blaenau Gwent. Gallai'r sefyllfa yng Nghasnewydd fod yn aneglur oherwydd gohirio'r etholiad mewn dwy ward lle mae ymgeiswyr wedi marw. Yn y Gorllewin dw i'n amau y gallai Plaid Cymru ddod yn agos at gipio mwyafrif yng Ngheredigion ac ennill tir yng Nghaerfyrddin.
Agos. Agos iawn. Mae'n gas gen i Dorfaen!
Yr unig gwestiwn yng Ngwynedd yw a fydd gan Blaid Cymru fwyafrif dros bawb? Does dim amheuaeth mai hi fydd y blaid fwyaf a gan fod y cyngor yn cael ei rhedeg gan fwrdd amlbleidiol mae'n annhebyg y bydd y canlyniad yn gwneud fawr o wahaniaeth i reolaeth neu bolisïau'r cyngor yn y tymor hir. Nid wfftio pwysigrwydd posib Llais Gwynedd yw dweud hynny. Fe fyddai llwyddiant i'r grŵp hwnnw (ac mae hynny'n golygu ennill o leiaf deg i ddwsin o seddi) yn sicr o effeithio ar y cynllun i adrefnu'r ysgolion yn y sir ac yn arwydd o anniddigrwydd arwyddocaol yn rhengoedd cefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru.
Cafodd Llais Gwynedd noson arbennig o dda gan brofi pwynt yn lleol ond pwynt lleol yw hwnnw. Gobeithio y bydd canlyniadau 2008 yn profi unwaith ac am byth i rannau o'r cyfryngau Cymraeg a rhai cendlaetholwyr bod y byd yn fwy na'r Bontnewydd.
SylwadauAnfon sylw
Beth am Wrecsam Vaughan? Llafur yn colli 9 o'i 20 sedd, 4 o'r seddi i Blaid Cymru ac un i'r Toriad...yn Brymbo o bob man. Mi roedd hi'n amlwg i bawb oedd yn ymwneud a gwleidyddiaeth leol yn Wrecsam fod Llafur yn mynd i gael chwip din, ond ddaru chi yn ³ÉÈË¿ìÊÖ ddim pigo fyny ar hyny naddo! Mae angen i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ dalu mwy o sylw i'r Gogledd Ddwyrain...mi ryda ni yn dal yn ddarn o Gymru!!
Mae hi hefyd yn dal yn boenus i geisio defnyddio y blog yma, ddim rhyfedd fod yna cyn lleiad yn cyfrannu.
Y peth synhwyrol cyntaf wedi clywed o'r ³ÉÈË¿ìÊÖ - etholiad rhagorol i'r Blaid.