Niwl ar fryniau Dyfed
Yn ddiweddar fe aeth y fan a fi ar daith o amgylch Sir Benfro. Pentre Llanychaer uwchlaw Abergwaun oedd y lle cynta' i mi barcio, ar fferm Gronllwyn, lle mae Eurig Evans, y mab, wedi arallgyfeirio a sefydlu busnes sy'n gwerthu darnau o lechi ar gyfer yr ardd, a'r rheini wedi 'u cloddio o'r chwarel sydd wedi bod ar dir y teulu ers trigain mlynedd.
Mae ei fam, Rian, yn hanesydd lleol a chanddi hi, a'i merch Elin, sy'n brifathrawes Ysgol Blaenconnin, Llandisilio, y cefais i hanes y digwyddiad diddorol sy'n cael ei gynnal y penwythnos yma yn yr ardal sef 'Taith yn ôl i'r Pedwardegau'.

Eurig a Rian Evans
Ymlaen yr es i wedyn i Faenclochog i gyfarfod Hefin Wyn, a chael peth o hanes Waldo ganddo fo, a chan Alun Ifans, cyn brifathro Ysgol Casmal, lle bu Waldo ei hun yn brifathro.
Mae'r degfed ar hugain o'r mis yma yn ddiwrnod i gofio Waldo ar ddydd ei ben blwydd. Ac wrth garreg Goffa Waldo y daeth y daith y ben yng nghwmni Cerwyn Davies, Cadeirydd y Gymdeithas sy'n gweithio'n egnïol iawn i gadw'r cof am un o feirdd mwyaf Cymru yn fyw.

Cerwyn Davies ac Alun Ifans wrth Cofeb Waldo
Ar y nos Lun fe fues i draw yng nghwt Band Pres Wdig. Mae hi'n gyfnod cyffrous iawn yn hanes y Band, gan eu bod nhw'n cystadlu mewn Pencampwriaeth bwysig yn Harrowgate ymhen yr wythnos, ac fel y clywais i gan y Cadeirydd Tony Evans, maen nhw hefyd yn gobeithio cael cartre' newydd i'r band cyn diwedd y flwyddyn. Doedd Tony ddim eisiau chwythu ei drwmped ei hun (gan mai ewffoniwm mae o'n ei chwarae!) ond 'roedd o'n credu y byddai Band Wdig yn ennill y gystadleuaeth. Gobeithio'n wir. Pob lwc i'r bechgyn a'r merched.

Cwt Band Pres Wdig

Band Pres Wdig
A newyddion Da i gloi. Newyddion Da am Newyddion da a Chwmni Da dan arweinyddiaeth Marilyn Lewis. Yng nghapel y Tabernacl Abergwaun, maen nhw'n cynnal perfformiad o'r sioe gerdd am Mari Jones a'i Beibl. Ac mae Cymrodorion Abergwaun ym manteisio ar y cyfle heno i ddymuno'n dda i'r Parchedig Carl Williams ar ei ymddeolaid.

Marilyn Lewis a Cor Newyddion Da
Cofiwch gysylltu os 'da chi am i'r fan a fi ddwad i'ch ardal hywel@bbc.co.uk