O Batagonia yn ôl i Gymru
Mae fy nghysylltiad i a Patagonia (ydio'n treiglo? Phatagonia? Cofiaf i mi unwaith dreiglo Basingstoke -"Gadewch i ni weld beth sy'n digwydd ym Masinstoke." A beth am gravy a golf? Mwy o ravy, gêm o olff) Gadewch i mi ddechrau eto.
Mae fy nghysylltiad i a'r Wladfa yn mynd yn ôl ddwy ganrif i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyna pryd y penderfynodd fy nhadcu, David Evans, ffarwelio a Chydweli, gadael 10, Bridge Street a mynd i'r Wladfa.
Yn ôl yr hanes 'roedd o wedi meddwl mynd ar y Mimosa, ond pan glywodd o mai John ac Alun oedd yn gyfrifol am yr adloniant fe arhosodd o am y cwch nesa'. (Tydi 'cwch' ddim yn treiglo, onibae eich bod chi'n dwad o Sir Fôn, lle 'da ni'n dueddol o son am 'y gwch' )
Byr iawn fu arhosiad fy nhadcu ym Mhatagonia, ac yn ôl ffrind mawr i fy nhad, y diweddar Tom Gravell, pan ddychwelodd o, roedd o'n gwisgo poncho, het Fexicanaidd ei maint ar ei ben, a pharot ar ei ysgwydd. Fe'i hail fedyddiwyd gan bawb yn Dai Patagonia.
Gan mlynedd a mwy yn ddiweddarach fe es i draw i Batagonia yng nghwmni Rhisiart Arwel, gitarydd, cynhyrchydd a siaradwr Sbaeneg, er mwyn darlledu Eisteddfod y Gaiman yn fyw ar Radio Cymru. Rhywsut neu'i gilydd fe lwyddon ni.
Un o'r atgofion sy'n aros yn fy meddwl i am y daith honno, ydi aros am dacsi oedd wedi cael ei drefnu, er mwyn i mi allu dychwelyd i'r Gaiman lle 'roeddwn i'n aros. Yn brydlon am 8 cyrhaeddodd y tacsi, agorodd y ffenest, ac fe ddaeth pen allan yn perthyn i Louvane James. "Esgusodwch fi" medda hi, "Ai chi yw y Cymro tal sydd isho mynd i'r Gaiman" Roedd clywed gyrrwr tacsi yn siarad Cymraeg ar y stryd mewn tref yn Ne America yn dipyn o sioc, ac fe ges i sioc debyg fwy nag unwaith yn ystod fy ymweliad.
Un diwrnod, (ac fe gymerodd ddiwrnod cyfa hefyd) fe es i ar draws y paith, i dref Esquel wrth droed yr Andes i gyfarfod Edith Macdonald, a aned ar fferm Coed Newydd Trelew. 'Dwi'n gobeithio ei chyfarfod hi eto heddiw ar faes y Brifwyl, gan mai hi ydi Arweinydd Cymru a'r Byd.
Roedd Edith yn un o sylfaenwyr Ysgol Gerdd Talaith Chubut, ac un gefnogwr brwd i Gynllun yr iaith Gymraeg yn Chubut,ac mae hi a'i chor newydd fod ar daith o amgylch Cymru. Fe fydd hi'n anerch y dorf yn y Pafiliwn y prynhawn yma ar ddechrau Seremoni'r Fedal Ryddiaeth, ac fe gewch chi glywed ei hanerchiad a mwynhau y Seremini hefyd ar Radio Cymru. Gyda llaw ame'r cystadlu yn y pafiliwn yn para tan rhyw unarddeg heno, ac fe fydd Radio Cymru yn darlledu'r cyfan. Tan y pnawn 'ma- Hasta la Vista.