成人快手

Merch cerdd yn arwain

02 Awst 2010

Gwraig gerddorol o Batagonia sy'n arwain y Cymry tramor ym Mlaenau Gwent

Wedi ei geni yn y Wladfa mae Edith Muriel MacDonald yn ddisgynnydd nifer o aelodau'r fintai gyntaf i ymfudo i Batagonia ac yn ddisgynnydd un o finteioedd 1975.

Dywed y gall olrhain ei gwreiddiau i nifer o siroedd Cymru.

Fe'i ganed ar fferm Coed Newydd, ger Trelew yn nwyrain patagonia gan symud pan yn dair oed gyda'i . rhieni a'i brodyr i'r Gaiman ac yno y mae yn byw hyd heddiw.

Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Colegio Nacional Trelew ac yn y Colegio de Magisterio yn yr un ddinas y cafodd ei hyfforddi'n athrawes.

Mewn cerddoriaeth y mae ei diddordeb mwyaf ers yn blentyn a daeth dan ddylanwad un o ffigurau cerddorol mwyaf blaenllaw y Wladfa, y diweddar Athro Clydwyn ap Aeron Jones.

Sefydlodd Edith g么r plant pan oedd yn 14 oed bedair ar ddeg mlwydd oed gan arwain perfformiadau mewn neuaddau ledled Dyffryn Camwy, Comodoro Rivadavia, Sarmiento a Buenos Aires.

Un o nodweddion y cyfnod hwn, oedd ei harfer i roi cyfle i rai o'r aelodau ifanc mwyaf cerddorol arwain y c么r hefyd.

Dilynwyd y c么r cyntaf hwnnw gan nifer o gorau eraill a pherfformiadau yn Nyffryn Camwy, Esquel, Trevelin, Comodoro Rivadavia, Santa Cruz, Tierra del Fuego, La Pampa, Mendoza, Entre R铆os, Santa Fe a C贸rdoba a'r rhaglen bob amser yn cynnwys nifer o ganeuon Cymraeg.

Bu'n athrawes gerdd yn Colegio Camwy (ysgol uwchradd y dref) ond er ei bod yn freuddwyd ganddi i weld dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol dyfarnwyd, meddai, nad oedd deddf gwlad yn caniat谩u cynnwys y pwnc yn y cwrricwlwm ar y pryd.

Yn un o gefnogwyr Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut ers ei sefydlu yn 1997, mae yn aelod o Bwyllgor Rheoli y Cwrs yn y Gaiman. Mae hi hefyd yn aelod o'r pwyllgor sy'n ceisio sefydlu Ysgol Gymraeg yn y dref.

Eto yn y maes cerddorol bu Edith yn allweddol mewn penderfyniad i sefydlu Ysgol Gerdd Talaith Chubut a agorwyd yn Nhrelew yn 1978, ac i sicrhau penodiad yr Athro Clydwyn ap Aeron Jones yn Bennaeth.

Bu hithau'n ddirprwy iddo nes sefydlu Ysgol Gerdd y Gaiman, yn 1984, ysgol sydd hyd heddiw yn gefnogol iawn i Eisteddfod y Wladfa, Eisteddfod yr Ieuenctid a nifer o eisteddfodau llai yn ogystal ag ymddangos ar lwyfannau cyngherddau lleol a rhanbarthau eraill o'r Ariannin.

A'i llygaid bob amser ar y dyfodol bu'n annog arweinyddion ifanc a hyfforddwyd gan yr Ysgol Gerdd i ymgymryd ag arwain rhai o amryfal gorau'r ysgol ond hi ei hun fu'n arwain Parti Merched yr ysgol 芒 fu ar ymweliad 芒 Chymru rai wythnosau cyn yr Eisteddfod.

Yr oedd Edith yn bresennol yng Nghymanfa Ganu yr Eisteddfod nos Sul a bydd ar y llwyfan ar gyfer seremoni croesawu'r ymwelwyr o dramor cyn defod y Fedal Ryddiaith ddydd Mercher.

Bydd yn bresennol hefyd yng nghyfarfod blynyddol Undeb Cymru a'r Byd ddydd Iau.


Blogiau 成人快手 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.