³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Limrigau - casgliad Tegwyn Jones

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 14:13, Dydd Gwener, 2 Rhagfyr 2011

Adolygiad o Sachaid o Limrigau. Golygydd, Tegwyn Jones. Barddas. £7.95

I feddwl ei fod yn ffurf mor gyfarwydd ac mor boblogaidd, ymhlith y rhai hynny na fyddent yn arddel darllen barddoniaeth o gwbl hyd yn oed, mae'n rhywfaint o syndod cymaint o ddirgelwch sydd yna ynglÅ·n a'r limrig - Limerick yn y Saesneg.

Clawr y llyfr

Mi fyddech yn meddwl y byddai'r ffaith mai gydag L fawr yr oedd yr enw yn cael ei sillafu ar y cychwyn yn y Saesneg yn help i leoli'r pennill yn y ddinas honno yn Iwerddon ond fel y dengys Tegwyn Jones mewn rhagymadrodd rhagorol i'w gasgliad o limrigau allwch chi ddim bod yn siŵr o union arwyddocâd y ddinas honno ychwaith - er mae'n amlwg, fel y dengys ef, bod cysylltiad.

Mae'r rhagymadrodd yn dipyn o stori dditectif yn mynd a ni yn ôl i ddyddiau cynnar llenyddiaeth a dydw i ddim am ddifetha'r stori i neb trwy geisio crynhoi yr hyn sydd gan Tegwyn Jones i'w ddatgelu - digon yw dweud bod yr hanes cyn ddifyrred â'r dros 400 o limrigau y dewisodd eu cynnwys dan wyth pennawd: Troeon Trwstan, Hi, Fo a Fe a Hi, Creaduriaid, Defosiynol, Bwyd a Diod, Anhwylderau, Y Meuryn a'r Talwrn a Tipyn o Bopeth yn olaf yng ngwaelod y sach.

Mae'n ymddangos mai rhyw bleser cymharol ddiweddar yw hwn yn y Gymraeg mewn cymhariaeth a'r Saesneg a Thegwyn Jones yn dyfynnu'r hyn oedd gan O M Edwards i'w ddweud yn y Cymru Coch fis Mawrth 1908.

Ef yn dweud ei fod yn cael cwestiynau "beunydd" am y limrig gydag un yn holi "pam nad oes rhai yn yr iaith Gymraeg".

Mae'r ateb yn hyfryd o ddiddorol; "Y maent yn ddull rhy elfennol i apelio at chwaeth y bardd Cymreig," meddai gan fynd ymlaen i'w cymharu â'r englyn trwy ddweud bod hwnnw yn perthyn "i gylch uwch o wareiddiad a chwaeth mewn llenyddiaeth".

Daeth tro ar fyd fel y gwyddom a'r limerig wedi hen ennill ei blwyf mewn gwlad mor wareiddiedig a chwaethus â Chymru ers rhai blynyddoedd bellach. Tybed beth fyddai O M Edwards wedi ei wneud o'r ffaith bod cystadleuaeth Limerig y Dydd yn ein Prifwyl erbyn hyn ac yn destun cystadleuaeth mewn sawl lle arall.

Gyda llaw, daeth Tegwyn Jones o hyd, hefyd, i'r person cyntaf erioed i ennill gwobr am limrig Gymraeg!

Beth felly yw hanfod limrig. Yn ôl pennill ar gychwyn casgliad Saesneg ohontyn nhw rai blynyddoedd yn ôl:
We hope you enjoy this edition
Of words and errudition
Honouring the Limerick
Which does the trick
Of monitoring the Human Condition

Mewn sgwrs radio disgrifiodd Tegwyn Jones y limerig fel stori fer bum llinell gydag odl sy'n cyrraedd uchafbwynt cofiadwy ac mae hwnnw gystal disgrifiad ag unrhyw un o hanfod y mesur.

Yn y Saesneg mae tuedd hefyd i limrigau fod yn anweddus ac i ymwneud a materion rhywiol - ond dyw Sachaid o Limrigau ddim yn awgrymu mai dyna sut y mae hi yn y Gymraeg gan fod cyfrol Barddas yn un gwbl weddus o'r safbwynt hwnnw.

Mae bron i 120 o gyfranwyr i gyd, ambell un ohonynt yn enwau o fri o blith awduron Cymraeg gan gynnwys, o'r gorffennol, R T Jenkins ond er eu bod yn cae sylw yn y rhagymadrodd dim gan Waldo nac Idwal Jones - a gofaler rhan cael eich camarwain mai y John Morris-Jones yw'r John Morris Jones sydd a dau englyn y casgliad!

Fel gydag unrhyw gasgliad o'r fath amrywiol ydi'r dewis gyda rhai o'r limrigau yn dra rhagorol ond ambell un na fyddai wedi cael eu trwyn i mewn gan ddewisydd arall.
Ymhlith y rhai â'r gynrychiolaeth gryfaf y mae Edgar Parry Williams a sawl un o'i limrigau ef yn gofiadwy iawn ac o bosib mae ef yw'r gorau o'r cyfranwyr pe byddai'n rhaid dewis un.

Dau arall cynhyrchiol yw Jôs Giatgoch a Dewi Prysor.

Ys dywed Tegwyn Jones yn sgil cystadleuaeth Englyn y Dydd y cyfansoddwyd nifer fawr o'r limrigau ond fe fyddwn i wedi hoffi gweld mwy o limrigau o gyfnod cynharach. Buddiol hefyd fyddai cael blwyddyn eu cyfansoddi wrth droed pob limrig.

Ond rhyw fân gecru yw hyn. Mae hon yn gyfrol ragorol ar gyfer y Nadolig ac a fydd yn cydwelya â Hen Benillion T H Parry-Williams a Thribannau Morgannwg ac Ar Dafod Gwerin , y ddwy hefyd gan Tegwyn Jones, a'r Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol gan Alan Llwyd ar y silff lyfrau - yn y gobaith y daw cyfrol arall yn gwmni iddi y flwyddyn nesaf.
Glyn Evans

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.