³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Neges Nadolig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:54, Dydd Mercher, 22 Rhagfyr 2010

Gyda bron iawn mwy o eira yng Nghymru nag sydd yna o ohebwyr radio a theledu i ddweud wrthym ni amdano mae llawer yn poeni tybed a fydd Santa yn gallu cwblhau ei waith nos Wener yma, Rhagfyr 24.

Y newyddion da yw nad oes yn rhaid i Blant Bach Da Cymru boeni ac y bydd Santa yn galw gyda'i anrhegion ac yn bwyta ei finspei a llyncu ei wydraid o sieri fel arfer. Heb anghofio moronen i'w geirw.

Santa - yn siwr o gyrraedd drwy'r eira

Yn wir, gall y rhew, yr oerni a'r eira fod yn fendith i Sion Corn ac yn fodd i'w alluogi i deithio yn gynt ac yn hwylusach nag erioed.

Gan fod ganddo ar ei gar llusg drawsgyfnewidydd rhewotonig arbennig sy'n llowcio lluwchfeydd ac yn troi eira yn ynni i yrru'r cerbyd ac i amddiffyn y ceirw rhag gorboethi.

Fel y gŵyr pawb problem fwyaf Santa y noson hon yw gwres nid oerni a'r perygl i'r car llusg a'r ceirw orboethi trwy deithio mor ofnadwy o gyflym.

Wel, meddyliwch am y peth. Yn ôl un amcangyfrif y mae yna tua 378 miliwn o blant mewn 91.9 miliwn o gartrefi ar hyd a lled y byd yn disgwyl ymweliad gan Santa.

Yn ffodus, oherwydd gwahanol ranbarthau amser y byd - America bum, chwe, awr ar ein holau ni ac yn y baen - mae ganddo 31 awr i gwblhau'r gwaith. Ond hyd yn oed wedyn bydd yn rhaid iddo ymweld ag 823 o gartrefi bob eiliad i gwblhau ei waith.

Sy'n golygu cyrraedd, parcio - ac fe fydd hynny'n broblem yn Aberystwyth - casglu'r anrhegion i'w gôl, gwthio'i lawr y simnai, bwyta minspei, llyncu sieri, i fyny'r simnai ac ail gychwyn - i gyd o fewn y filfed ran o eiliad!

I gwblhau hyn i gyd maen nhw wedi gweithio allan y bydd yn rhaid iddo deithio dair mil o weithiau yn gyflymach na sŵn - 650 milltir yr eiliad - ac nid y fi sy'n dweud hynny ond eraill a fu'n gweithio'r pethau hyn allan y gellir gweld eu dyfaliadau o roi The Physics of Santa yn Google.

Dyw hi ddim yn ymddangos bod hon yn gangen o Ffiseg y mae gwyddonwyr Cymru wedi dechrau mynd i'r afael â hi eto - oni bai y gwyddoch chi'n well - a thrueni am hynny.

Swm a sylwedd hyn oll yw mai gwres yw'r broblem i'w goresgyn gyda'r ceirw yn amsugno 14.3 cwintiliwn joules o ynni yr eiliad ac, oni bai am feistrolaeth Santa a'i dîm ar wyddoniaeth, fe fyddai'r ceirw yn ffrwydro'n fflamau yn yr awyr a'r henwr ei hun yn cael ei gywasgu'n seitan gan rymoedd disgyrchiant.

Diolch byth, felly, am dipyn o eira a rhew i oer a hwylusoi'i daith.

Na, does dim rhaid i blant Cymru boeni am y tywydd.
Bydd olion Santa mewn llofftydd ar hyd a lled y wlad fore Sadwrn - yn enwedig y cartrefi cyfforddus hynny lle mae'r rhieni mewn gwaith ac ar gyflogau da.
Mae Santa wrth ei fodd â theuluoedd felly sy'n awgrymu i rai mai tipyn o Dori ydi o yn y gwraidd.
Gweler cofnod y llynedd - O Mai Gôd Santa

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.