³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O ma'i gôd, Santa!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:24, Dydd Gwener, 25 Rhagfyr 2009

Yn dilyn ei ymweliadau neithiwr mae sibrydion y bydd Santa Clôs ei hun yn cael ei alw gerbron un o bwyllgorau y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd ACau yn ail gyfarfod wedi gwyliau'r Nadolig.

Hynny i ateb honiadau difrifol bod Santa - sydd hefyd yn galw'i hun wrth yr enw Sïon Corn mewn rhai ardaloedd - yn gweithredu 'Loteri Gôd Post' wrth rannu anrhegion i blant yng Nghymru.

Gall hyn arwain at gyhuddiadau ffurfiol o fod yn euog o wahaniaethu rhwng plant ar sail dosbarth cymdeithasol, hiliol a chrefyddol.

Yr hyn sy'n debyg o bryderu ACau yw ymchwil breifat sy'n dangos bod Santa yn rhannu anrhegion rhatach a salach ymhlith plant sy'n byw yn yr ardaloedd llai breintiedig - ardaloedd arferid eu galw yn ardaloedd tlawd.

Santa - Tori yn y bon?

"Yn waeth na hynny, yn yr 'AMBs' - Ardaloedd Mwyaf Breintiedig - mae Santa nid yn unig yn rhannu anrhegion drudion rhwng plant ond hefyd yn rhannu mwy o anrhegion o ran nifer y pen hefyd," meddai un o'r ymchwilwyr nad yw am gael ei henwi.

"Dyna pam yr ydym ni wedi anfon at Lywodraeth y Cynulliad yn galw am adroddiad llawn ar ein hadroddiad ni ac yn gofyn pa gamau fydd yn cael eu cymryd i wneud yn siŵr na fydd hyn yn digwydd eto y flwyddyn nesaf," ychwanegodd.

Awgrymodd bod amheuon hefyd fod Santa yn gwahaniaethu ar sail grefyddol yn ogystal "gyda phlant un ffydd yn arbennig i'w gweld yn gwneud yn well o'r Nadolig na phlant rhai credoau eraill".

Mae'r plant hyn yn perthyn i sector freintiedig PF yn y gymuned Gymreig - sector y 'Plant Ffyddiannus'.

"O fewn y PFs mae Santa i'w weld yn edrych yn arbennig o ffafriol ar Gristnogion er enghraifft ac, yn rhyfedd iawn, mae plant anffyddwyr hefyd i'w gweld yn gwneud yn dda iawn o'r Nadolig," meddir.

Ond y pryder mwyaf yw sut mae plant tlawd yn cael llai o anrhegion na phlant cyfoethog.

"Fe fyddech yn disgwyl i berson o egwyddor weithredu'n gwbl groes a gwobrwyo'r difreintiedig yn hytrach na'r breintiedig. Mae lle i ofni mai Tori ydi Santa yn y bon."

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.