Seicio'i fyny
Yr ydw i'n ddigon ffodus i fod yn un o'r miloedd a welodd ac a gafodd ei ddychryn gan y ffilm Psycho pan ddangoswyd hi gyntaf hanner can mlynedd yn ôl yn 1960.
Mewn rhai sinemâu aeth y gynulleidfa'n wallgof gan sgrechian yn uchel yn ystod golygfa'r gawod.
Yn sinema'r County ym Mangor cymryd ein gwynt i gyd gyda'n gilydd wnaethom ni, rhai yn syllu mewn parlys syfrdan ar y sgrin, eraill yn cuddio'u llygaid.
Golygfa 45 eiliad y buasai siarad amdani am wythnosau wedyn a bron bawb, chwarae teg iddyn nhw yn cadw at ddymuniad Hitchcock i beidio datgelu'r diwedd.
Yr un mor arswydus oedd y tÅ· bygythiol ar y bryn gerllaw y Bates Motel a golygfa arall pan yw Vera Miles yn cael ei dychryn gan ei hadlewyrchiad ei hun mewn drych wrth chwilio'r tÅ· hwnnw.
Heb sôn am dynged dau dditectif yn dringo'r grisiau.
A hyn oll mewn du a gwyn, wrth gwrs.
Gyda hyn oll mewn cof yr oedd gen i ddiddordeb arbennig yn yr hyn oedd gan y beirniad ffilm Phillip Wyn Jones i'w ddweud ar y Post Cyntaf fore Sadwrn yr wythnos diwethaf, yn ein hatgoffa nid yn unig o'r dychryn ond o'r ffaith mai ffilm rad iawn oedd hon a Hitchcock dan bwysau mawr i beidio gwario gormod.
Offerynnau llinynnol yn unig a ddefnyddiwyd ar gyfer y gerddoriaeth drawiadol wedi i Hitchcock ddweud wrth y cyfansoddwr Bernard Herrmann nad oedd digon o arian i gael cerddorfa lawn.
Hefyd, er mwyn arbed arian fe'i gwnaed gan uned deledu a chan ddefnyddio actorion anenwog ar y pryd ar wahân i Janet Leigh a chwaraeai ran Marion Crane - rhan a allai fod wedi mynd i Eva Marie Saint, Shirley Jones, Lana Turner neu Hope Lange.
Er gwaethaf - neu tybed ai oherwydd - hyn oll bu'n llwyddiant ysgubol ac yn wers sy'n parhau yn un werthfawr i gyfarwyddwyr heddiw sydd am ddangos popeth mor gignoeth a gwaedlyd ar y sgrin.
Fel y dwedodd Phillip Wyn Jones:
"Mae'n anodd credu nawr beth oedd y profiad ar y pryd [gan ein bod] ni yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ond meddwl am y bobl welodd y ffilm am y tro cyntaf y sioc gawson nhw pan ddigwyddodd rhywbeth ofnadwy rhyw ddeugain munud i mewn i'r ffilm a falle bod o'n well peidio dweud beth ond y gerddoriaeth yna sy'n cael ei chwarae ar yr adeg yna maen nhw'n dweud bod cymaint o sŵn yn y sinemâu, pobl yn sgrechian gyda sioc, oedden nhw'n methu clywed beth oedd yn digwydd nesaf."
Wrth gyfeirio at gynildeb nodweddiadol Hitchcock a'i ddawn i godi ofn trwy awgrym dywedodd: "Mae hyd yn oed y rhannau erchyll, yn y gawod, wel oes dim byd yn digwydd mewn gwirionedd. Os ydych chi'n chwarae'r ffilm yn araf deg rhyw awgrymu pethau mae'r ffilm ond mae'r golygu mor gelfydd rydych chi'n meddwl fod pethau ofnadwy wedi digwydd ond dydy nhw ddim mewn gwirionedd [ar y sgrin].
"Mae awgrymu yn well na dangos ac i mi rhan orau'r ffilm ydi tua'r diwedd lle mae chwaer y ferch yma, Vera Miles, yn dod mewn i'r tÅ· ac yn mynd lawr i'r seler a rydych chi'n meddwl beth fydd yn y seler, pam mae'n mynd lawr i'r sler? Ddylai hi fynd ar ei phen ei hun? Mae hynny'n dal i fod yn arswydus er bod na ddim byd yn digwydd. Arswyd drwy awgrymu," meddai.
$800,000 gostiodd Pyscho a dim ond chwech wythnos i'w saethu a chlaear oedd ymateb y beirniaid i ddechrau - ond daeth mor boblogaidd roedd enillion y flwyddyn gyntaf yn $15 miliwn a thyfodd yn un o chwedlau'r sinema gan ysbrydoli degau o ffilmiau 'slasher' eraill - y rhan fwyaf yn llawer iawn salach. Bu hefyd dri dilyniant y gellid fod wedi gwneud hebddynt.
Gyda llaw saws siocled oedd y gwaed yn y gawod.