³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cegau'n agored

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 11:15, Dydd Gwener, 2 Ebrill 2010

Diwedd wythnos a chyfle i gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl yn y wasg ac ar y cyfryngau. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni.

Anfonwch nawr.

  • Bob dydd yr oedd yn cael ei dadwisgo. Bob dydd yr oedd yn cael ei chamdrin yn rhywiol ac yn gorfforol a phob dydd yr oedd yn galw am help a neb yn dod - mam y bu'n rhaid iddi gymryd camau cyfreithiol er mwyn cael ymchwiliad i'r o'i mherch chwech oed gan 23 o'i chyd-ddisgyblion yn yr ysgol
  • Heno, gwelsom gonsensws cysurus Llundain ar ei waethaf - Elfyn Llwyd AS yn ymateb i'r ddadl deledu nos Lun rhwng 'y tri changhellor, Darling, Osbourne a Cable.
  • Mae Ynys y Barri yn lle prydferth a gwych - Andy Green, arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus, yn dilyn y newyddion bod india roc gyda'r geiriau Gavin aStacey yn rhedeg drwyddo a'r geiriau What's occurrin on Barry Island a Bryn: it means hill in Welsh ar y tu allan.
  • Os wyt ti'n mynd â rybish yno paid â dod â rybish adref - cyngor gŵr i'w wraig ar y rhaglen deledu 'Cyfnewid'.
  • Mae'n debyg mod i wedi tawelu - Michael Douglas yn sôn am y newid yn ei gymeriad ers priodi Catherine Zeta-Jones.
  • Dyma'r gyfrinach, yr egni i symud pobl. A dyna sy'n wir am y band hyd heddiw - Arfon Wyn o'r Moniars yn trafod yn 'Y Cymro' lwyddiant y band dros ddeng mlynedd ei fodolaeth.
  • Rydw i'n rhy brysur, fel pawb arall y dyddiau hyn. Yr ydw i unai'n dychwelyd adref wedi diwrnod hir yn y gwaith neu ar fy ffordd i rywle arall felly dydw i ddim yn galw yn nhai cymodogion a dydy nhw ddim yn galw acw ychwaith - ond yr ydym yn dweud helo a chodi llaw - Clare Sheehy o Bontprennau, Caerdydd, yn ymateb yn y 'Western Mail' i arolwg nad yw pobl mor gymdogol ag oedden nhw.
  • Rydym yn byw mewn cymdeithas sydd nid yn unig yn cau ei llygaid ar beryglon mynd dros ben llestri ond sy'n gynyddol hyrwyddo'r peth. Mae noson dda . . . yn cael ei mesur yn ôl faint y cawsoch i'w yfed - Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru.
  • Eisiau codi socs a gwneud yn lle dweud - Falmai Roberts a sefydlodd 25 mlynedd yn ôl yn ateb cwestiwn 'Golwg', "Beth yw eich barn am y Cynulliad?"
  • Gall unrhyw un sy'n meddwl bod ffenestri plastig yn syniad da feddwl eto. Yr ydw i angen rhywun sy'n mynd i'w caru, edrych ar eu holau a'u gwella - Greg Stevenson o'r gyfres deledu 'Y Ty Cymreig' yn dweud wrth y 'Wales on Sunday' na fydd yn gwerthu tai sydd ganddo yng Nghymru i rywun-rhywun.
  • Fy methiant mawr i fel gweinidog am fwy na deugain mlynedd oedd methu argyhoeddi pobl mai ewyllys Duw i'r enwadau Cymraeg yw dod yn un teulu, ac os na fyddwn yn ufuddhau yn fuan, y gwelir angladd Ymneilltuaeth Gymraeg yn gynt na'r disgwyl - y Parchedig Harri Owain Jones yn galw am undod eglwysig ymhlith Cristnogion.

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.